Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Agor adeilad newydd yr Ysgol Busnes

29 Medi 2014

Pleser gwirioneddol i mi oedd agor Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd yn ffurfiol. Bydd yr adeilad, a gostiodd £14.5m, yn ganolbwynt dysgu ac addysgu, ac ynddo bydd y darlithfeydd diweddaraf un, parthau astudio gweithredol ac ‘ystafell fasnachu’ technegol-uchel i ddenu’r myfyrwyr busnes gorau un o bob cwr o’r byd. Mae’r Ganolfan newydd yn ymgorfforiad o’n huchelgeisiau rhyngwladol: bydd hi’n ein helpu ni nid yn unig i ddenu myfyrwyr gorau yfory, ond hefyd i gyflwyno rhaglenni addysg gweithredwyr i lawer o arweinwyr byd busnes heddiw, ac i feithrin partneriaethau tymor-hir a ddaw â manteision o bwys i’r Ysgol Busnes ac i’r Brifysgol.

Gan mai ym mis Mawrth 2013 yn unig y cytunodd y Cyngor â’r achos busnes dros godi’r adeilad, proses gyflym oedd symud o’r cymeradwyo i’r cyflawni. Mae hynny’n gwneud i mi sylweddoli pa mor gyflym y gallwn ni symud ymlaen pan fydd popeth yn ei le. Bydd cwblhau’r Prif Gynllun Ystadau, sydd i’w gyflwyno i’r Cyngor ar 15 Rhagfyr, yn fodd i ni symud ymlaen â llu o ddatblygiadau eraill. Gobeithio y gellir cyflawni pob un ohonynt yn unol â’r amserlen a’r gyllideb, fel y gwnaeth y prosiect hwn.

I ddarllen y datganiad i’r wasg ynghylch agor Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd, dilynwch y cyswllt: http://www.caerdydd.ac.uk/news/articles/world-class-centre-opens-for-tomorrows-business-leaders-13594.html.