Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Partneriaeth â KU Leuven

22 Medi 2014

Roeddllofnodi cytundeb i gydweithredu â Phrifysgol Leuven ar 22 Medi yn ddigwyddiad nodedig i Brifysgol Caerdydd. Bydd y bartneriaeth yn cynyddu’n hincwm ymchwil, yn creu cynlluniau newydd i gydweithio ar ymchwil ac yn cynnig rhagor o gyfle i fyfyrwyr a staff astudio ac addysgu dramor. Teithiais i Wlad Belg gyda’m cyd-aelodau o’r Bwrdd, yr Athro Hywel Thomas a’r Athro Patricia Price, a thrawiadol iawn oedd cynhesrwydd ein cydweithwyr newydd a’r pwys a roddent ar yr achlysur. Cawsom ein cynnwys mewn seremonïau i nodi dechrau’r flwyddyn academaidd a buom ni’n gwylio academyddion a myfyrwyr yn gorymdeithio drwy’r dref yn eu gwisg academaidd lawn. Yr Athro Danny Pieters, Is-Reithor Leuven ar gyfer Rhyngwladoli a’r gŵr sydd wedi arwain ynglŷn â’r bartneriaeth, fydd yn arwain dirprwyaeth Leuven i Gaerdydd yn y flwyddyn newydd ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu’n cydweithwyr newydd.

Gweler y datganiad i’r wasga gyhoeddwyd gan KU Leuven ynglŷn â’r cytundeb i gydweithredu.