NATO wedi’r Uwchgynhadledd yng Nghymru
2 Medi 2014Ddeuddydd cyn Uwchgynhadledd NATO ar 4-5 Medi, cynhaliodd Prifysgol Caerdydd gynhadledd academaidd o bwys o dan y teitl NATO wedi Uwchgynadledd Cymru. Pleser mawr oedd cael croesawu 150 o feddylwyr a phenderfynwyr rhyngwladol blaenllaw ym maes diogelwch ac amddiffyn rhyngwladol i Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd. Y nod oedd trafod amcanion a swyddogaethau’r Gynghrair pan fo’r dirwedd ddiogelwch yn newid mor gyflym. Rhoes Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrh Carwyn Jones AC, groeso meddylgar a chynnes i ni gan bwysleisio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i NATO ac i lwyddiant yr Uwchgynhadledd. Dywedodd y Llysgennad Kolinda Grabar-Kitarović, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyo NATO dros Ddiplomyddiaeth Gyhoeddus, fod y gynhadledd yn cynnig fforwm i ymarferwyr ac arbenigwyr academaidd gyd-drafod, helpu NATO i ailystyried problemau sy’n peri gofid byd-eang a helpu i lywio gweithredoedd at y dyfodol. Rwy’n ddiolchgar i Adran Diplomyddiaeth Gyhoeddus NATO am gyd-noddi’r gynhadledd. Y prif siaradwr agoriadol oedd yr Athro Stephen Krasner o Brifysgol Stanford. Cyflwynodd ef anerchiad nodedig gan ddadlau mai’r her fwyaf sy’n wynebu NATO yw “ymrafael ynghylch sofraniaeth” wrth i wladwriaethau sy’n methu fygwth heddwch a diogelwch y byd. Ar hyd y dydd cynhaliwyd cyfres o baneli o wneuthurwyr polisïau, meddylwyr ac academyddion blaenllaw, ac ar y diwedd cafwyd araith gan Ddirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, y Llysgennad Alexander Vershbow, a osodai’r agenda. I gael gwybod rhagor am y rhaglen a gweld sut yr aeth y diwrnod, gweler http://www.cardiff.ac.uk/cy/wales-summit/home
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014