Tyngwyd Nneka Akudolu (LLB 2001, PgDip 2002) i mewn fel Cwnsler y Brenin (KC) yn 2022, gan ymuno â grŵp dethol o ymarferwyr y gyfraith a benodwyd gan y frenhines. Fel KC sy'n arbenigo mewn cyfraith droseddol, mae Nneka yn gweithio ar yr achosion mwyaf difrifol yr ymdrinnir â nhw yn llysoedd y Goron ac Apêl, ac mae'n un o ddim ond saith KC benywaidd Du yn y DU.
Clefyd Alzheimer yw'r math mwyaf cyffredin o ddementia. Mae’n effeithio ar atgofion y sawl sy’n dioddef o’r clefyd, eu gallu i wneud tasgau gwybyddol, mae’n achosi rhithweledigaethau gan hefyd achosi i’r person golli rheolaeth echddygol. Yn y recordiad o’n Harddangosfa Ymchwil ddiweddar, mae Dr Mat Clement (PhD 2013) a Dr Wiola Zelek (PhD 2020) o’r Ysgol Feddygaeth, yn trafod rôl firysau heintus, y system imiwnedd, a niwro-lid yn natblygiad Alzheimer.
Symudodd Matt Jones (MA 2017) i Gaerdydd o Connecticut â’r awydd i ymgolli yn niwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg. Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2018 ym Mae Caerdydd, teimlodd iddo wirioneddol ymgysylltu â'r diwylliant hwn ac iddo weld yr iaith yn ei llawn fwrlwm.
Canser y croen yw un o'r canserau mwyaf cyffredin yn y byd gyda miloedd o achosion newydd yn cael eu diagnosio bob blwyddyn. Mae Dr Huw Morgan (BSc 2012, PhD 2018) yn edrych ar sut mae bôn-gelloedd yn ymddwyn o amgylch celloedd canser, gyda'r nod o ddatblygu triniaethau symlach a llai ymwthiol ar gyfer canser y croen.
Mae Thomas Hill (Cyfrifeg a Chyllid 2022-) wedi derbyn bwrsariaeth myfyrwyr Sylfaen ICAEW. Yn y cyfrif hwn, mae Thomas yn dweud wrthym am dyfu i fyny yn y Rhondda, a sut mae bwrsariaethau fel hyn wedi helpu nid yn unig ef, ond nifer o fyfyrwyr eraill ym Mhrifysgol Caerdydd sydd angen cymorth ariannol ychwanegol.
Mae Mollie Lewis (BSc 2022) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref i helpu i godi arian ar gyfer yr ymchwil canser sy'n trawsnewid bywydau a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd. Gan mai dyma’r tro cyntaf iddi redeg hanner marathon, mae Mollie yn rhannu ei syniadau am ddechrau ymarfer yn ogystal â’r gefnogaeth anhygoel y mae wedi’i chael gan deulu, ffrindiau a #TeamCardiff.
Roedd y gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol Paul Regan (BN 2016) eisiau dod o hyd i ffordd o helpu dynion i agor i fyny am eu hiechyd meddwl. Ar ôl ymuno â ffrind a chyd-gynfyfyriwr Charles Needham (BSc 2008), gyda'i gilydd fe wnaethant ddatblygu Stand Tall, sef seminarau ymarfer corff ac iechyd meddwl di-elw i'w cymuned leol.
Yn haf 2021, cwblhaodd Rosy Turner (BSc 2021) interniaeth â thâl gyda Gŵyl y Dyn Gwyrdd drwy raglen partneriaeth hirsefydlog Prifysgol Caerdydd. Mae Rosy'n egluro beth wnaeth hi ei elwa o'r lleoliad a sut mae wedi ei helpu ar y llwybr i'w gyrfa berffaith.
Mae cymryd seibiant gyrfa yn rhywbeth y bydd llawer ohonom yn ei wneud yn ystod ein bywydau ac mae'n rhywbeth i fod yn falch ohono. Mae yna lawer o resymau dros gymryd seibiant gyrfa - boed hynny er mwyn datblygu eich sgiliau proffesiynol, cymryd amser i’w dreulio gyda'r teulu, neu i fachu profiadau newydd. Cawsom sgwrs â rhai o'n cymuned o gynfyfyrwyr sydd wedi rhannu eu cyngor ar fanteision seibiant gyrfa, a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich amser.