Skip to main content

Cyswllt CaerdyddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

A yw’r flwyddyn i ffwrdd hon yn wirioneddol ‘haeddiannol’? Neu ai’r syndrom ymhonni ôl-brifysgol sy’n siarad? — I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

28 Medi 2023

Lucy Robertson (BA 2023) sydd newydd raddio eleni, sy’n myfyrio ar ei chyfnod o fod yn fyfyriwr, a’r syniad o gymryd blwyddyn fwlch wedi’r brifysgol yn hytrach na mynd yn syth i fyd gwaith.

Dechreuais fy ngradd Saesneg ac ieithyddiaeth ym mis Medi 2020 ac rydw i newydd raddio. Mae wedi bod yn dair blynedd hir a dylanwadol, ond nawr mae wedi dod i ben, alla i ddim helpu ond teimlo ar goll a heb bwrpas. Fel llawer o’m cyfoedion, penderfynais gymryd blwyddyn allan ar ôl y brifysgol i ganolbwyntio’n wirioneddol ar geisiadau am swyddi a gwella fy mhrofiad gwaith. Mae pawb rydw i wedi siarad â nhw am hyn wedi bod yn hynod gefnogol i’r syniad, ac yn dweud pa mor galed rydw i wedi gweithio. Fodd bynnag, ers symud yn ôl adref rydw i wir yn cwestiynu pa mor ‘haeddiannol’ yw’r flwyddyn i ffwrdd hon mewn gwirionedd?  

Mae’n debyg mai’r rheswm dros y teimlad hwn yw fy mod newydd orffen interniaeth haf chwe wythnos, a chael fy ngadael gyda fy swydd lletygarwch rhan-amser yn fy nghadw (ddim yn ddigon) prysur. Roedd yr interniaeth gyda thîm cyfryngau cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, gan helpu i greu cynnwys ar gyfer Instagram o amgylch yr wythnos raddio. Roedd hyn mor bleserus ac yn bendant yn fuddiol iawn o ran rhagolygon fy ngyrfa yn y dyfodol. Fodd bynnag, ar ôl fy wythnos gyntaf o waith (dim ond 15 awr) roeddwn i’n teimlo wedi blino’n lân ac felly heb baratoi’n ddigonol ar gyfer gwaith llawn amser. Felly pam, wrth gymharu hyn â fy ffordd o fyw fel myfyriwr, nid wyf yn teimlo bod y llwyth gwaith ar draws fy nhair blynedd yn y brifysgol yn ddigon i warantu seibiant ‘haeddiannol’ am flwyddyn!

Yn ogystal â hyn, mae’r nifer o weithiau y llynedd y gwnes i fy argyhoeddi fy hun i hepgor darlithoedd yn gynnar yn y bore trwy ddweud wrth fy hun na fyddwn i byth yn gallu cysgu i mewn eto fel oedolyn, yn aneirif. Rwy’n dal i sefyll wrth hyn, fodd bynnag, ac nid wyf yn difaru unrhyw un o’r boreau hwyr! Cefais amser mor anhygoel yng Nghaerdydd ac roeddwn mor ffodus i gwrdd a byw gyda fy ffrindiau gorau. Roedd pob diwrnod yn wahanol, a phob diwrnod yn hwyl, a allai fod yn ffactor arall a gyfrannodd at wneud i mi deimlo’n euog am gyfaddef i mi gymryd seibiant ar ôl amser mor wych yn y brifysgol.  

Fe gyfaddefaf, ie, yn ystod tymor y dyddiadau cau, mae’n debyg nad oeddwn erioed wedi teimlo cymaint o straen, ac roedd yr holl oriau a dreuliais yn ysgrifennu traethodau’n fy mlino i. Yn yr un modd, nid oedd y teimlad o fod â dyddiad cau ar y gorwel bob amser, yn enwedig yn ystod y gwyliau, yn rhywbeth i’w golli mor hawdd. Gallwn hefyd wrth-ddweud fy hun drwy ddadlau bod carfan 2020 o fyfyrwyr wedi ei chael yn waeth nag erioed. Yn ystod y tair blynedd hyn rydym wedi gorfod wynebu cyfyngiadau symud COVID, streiciau darlithwyr, argyfwng costau byw a’r ansicrwydd sy’n dod gyda hynny i gyd. Gan mai dyma fy unig brofiad o fod yn fyfyriwr, ni allaf honni ein bod wedi ei chael hi’n anoddach nag eraill, ond gallaf weld pa mor anodd y bu’r blynyddoedd diwethaf hyn, a pham mae oedolion mor awyddus i mi gael blwyddyn i ffwrdd. Hefyd, dydw i ddim eisiau swnio fel fy mod yn tan-werthu fy hun neu’n ceisio bychanu cael gradd i dair blynedd o foreau hwyr! 

Felly, a yw’r angst hwn rwy’n ei deimlo o amgylch fy mlwyddyn i ffwrdd ar ôl y brifysgol yn rhyw fath o syndrom ymhonni, yn dweud wrthyf nad wyf yn ddigon da, nac yn haeddu blwyddyn allan? Gan i mi gael amser mor anhygoel yn y brifysgol, ydw i nawr yn teimlo’n anghywir am fod angen seibiant o’r holl waith caled, llawn straen? A allai esboniad arall fod oherwydd y gymhariaeth anochel yn fy mhen rhyngof i a’m cyd-fyfyrwyr? Mae llawer ohonyn nhw wedi mynd yn syth i mewn i waith, ac felly nawr rydw i gartref, yn sydyn dydw i ddim yn teimlo cystal â nhw, ac ar frys i ddechrau gwaith llawn amser? 

Ar y cyfan, felly, rwy’n gobeithio bod y blog byr hwn yn rhoi cipolwg ar feddyliau myfyriwr graddedig newydd, a gobeithio nad wyf ar fy mhen fy hun yn y teimlad hwn. A yw hyn yn deimlad cyffredin ar ôl y brifysgol? Os oes unrhyw un ohonoch sy’n darllen hwn yn cydymdeimlo, gobeithio y gallwch chi ei gymryd fel rhyw fath o gysur. Un peth rydw i’n ei atgoffa fy hun o hyd, os oes gen i amheuon am beidio â mynd i’r gwaith yn syth yw pam ddylwn i ruthro i gael swydd 9-5 pan mae gennym ni 40+ mlynedd i fod yn gwneud hynny!  

Byddwn wrth fy modd yn clywed barn/cyfraniadau unrhyw gyn-fyfyrwyr eraill am y cyfyng-gyngor hwn.  

Gallwch gysylltu â Lucy drwy ein platfform rhwydweithio ar gyfer cynfyfyrwyr Cysylltiad Caerdydd.

Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.