Skip to main content

Mawrth 2021

Lansio Strategaeth y Gymraeg Newydd

Lansio Strategaeth y Gymraeg Newydd

Postiwyd ar 25 Mawrth 2021 gan Alumni team

Yn ddiweddar, lansiodd y Brifysgol Strategaeth Gymraeg newydd a chynhwysfawr a fydd yn canolbwyntio ar ddathlu, hyrwyddo a chysylltu â'r Gymraeg ar draws pob agwedd ar fywyd y Brifysgol. Mae'r strategaeth yn cynnig agenda diwylliannol a chymunedol clir a diffiniedig, wedi'i chynllunio i ategu a chyfrannu at ddyheadau ymchwil, addysgu a rhyngwladol cyffredinol y Brifysgol.

Bragu storm: Sarah John heb os yw’r Bòs

Bragu storm: Sarah John heb os yw’r Bòs

Postiwyd ar 25 Mawrth 2021 gan Kate Morgan (BA 2017)

Mae Sarah John (BA 2011), sylfaenydd a chyfarwyddwr Boss Brewing, yn fenyw sy'n benderfynol i gyflawni ei nodau a thorri rhwystrau ar hyd y ffordd. Yma, mae'n disgrifio taith gyffrous llawn llwyddiannau busnes, gan frwydro yn erbyn cewri corfforaethol, dod â'i baban newydd-anedig i gyfarfodydd, a herio'r drefn sydd ohoni yn gyffredinol.

Pennaeth Newydd Ysgol Deintyddiaeth

Pennaeth Newydd Ysgol Deintyddiaeth

Postiwyd ar 25 Mawrth 2021 gan Anna Garton

Ar ôl saith mis yn y swydd fel Pennaeth newydd yr Ysgol Deintyddiaeth, cawsom air gyda'r Athro Nicola Innes am ei phrofiad yn y rôl, ei blaenoriaethau a'i gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Rhwydweithio i adeiladu busnes llwyddiannus – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Rhwydweithio i adeiladu busnes llwyddiannus – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Postiwyd ar 24 Mawrth 2021 gan Alumni team

Cheryl Luzet (BA 1999), yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol asiantaeth farchnata ddigidol Wagada. Mae ei thîm yn helpu cwmnïau ledled y byd i ddatblygu a chreu cysylltiadau. Enwodd Small Business Britain hi yn un o 100 o entrepreneuriaid benywaidd mwyaf ysbrydoledig y DU. Yma, mae Cheryl yn rhannu eu hawgrymiadau defnyddiol ar rwydweithio ar gyfer pan fydd digwyddiadau wyneb yn wyneb yn dychwelyd.

Pam roedd 2020 yn gyfnod pwysig i epidemiolegwyr

Pam roedd 2020 yn gyfnod pwysig i epidemiolegwyr

Postiwyd ar 17 Mawrth 2021 gan Alumni team

Aeth bywyd proffesiynol a phersonol Adetoun Mustapha (MPH 1999) yn Nigeria yn brysur iawn pan darodd COVID-19. Cafodd ei hun mewn sefyllfa i helpu i ysgogi newid go iawn a brwydro yn erbyn newyddion ffug o amgylch iechyd y cyhoedd. Yma, mae'n disgrifio ei phrofiad o lywio ffordd newydd o weithio a byw, astudio lledaeniad COVID-19, a siarad allan am faterion cyfiawnder amgylcheddol.

Menywtora ‘21 – Cynfyfyrwragedd Prifysgol Caerdydd yn mentora cynfyfyrwragedd Prifysgol Caerdydd

Menywtora ‘21 – Cynfyfyrwragedd Prifysgol Caerdydd yn mentora cynfyfyrwragedd Prifysgol Caerdydd

Postiwyd ar 15 Mawrth 2021 gan Anna Garton

Y mis Mawrth hwn, i ddathlu Mis Hanes Menywod rydym yn cynnal ein digwyddiad mentora fflach cyntaf, Menywtora '21.

Hanes un teulu o rymuso menywod

Hanes un teulu o rymuso menywod

Postiwyd ar 12 Mawrth 2021 gan Alumni team

Ym 1898, cynigiodd Prifysgol Caerdydd gyfle i fenyw ifanc a gafodd effaith enfawr nid yn unig arni hi, ond ar y menywod yn ei theulu a ddilynodd ei holion traed. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, rydym yn siarad ag wyresau Cassie am bwysigrwydd addysg ar gyfer grymuso menywod.

Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru: Dathlu 10 mlynedd o lwyddiant

Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru: Dathlu 10 mlynedd o lwyddiant

Postiwyd ar 10 Mawrth 2021 gan Kate Morgan (BA 2017)

Mae Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru (WARC) wedi bod wrth wraidd polisïau ac arferion pwysig ers 10 mlynedd, gan ddarparu data y gellir ei drosi yn gamau gweithredu ac sy'n cael effaith wirioneddol ar weithwyr proffesiynol yn y gymuned awtistig. Mae cyn-gyfarwyddwyr a chyfarwyddwyr presennol WARC yn cwrdd i fyfyrio ar eu cyflawniadau gan edrych ymlaen at y 10 mlynedd nesaf.

COVID-19 a chanser: Deall agweddau a thorri rhwystrau

COVID-19 a chanser: Deall agweddau a thorri rhwystrau

Postiwyd ar 9 Mawrth 2021 gan Kate Morgan (BA 2017)

Anthropolegwr meddygol yw Harriet Quinn-Scoggins (PhD 2019) sy'n canolbwyntio ar ymchwil canser. Roedd unwaith yn rhan o raglen Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol (FLiCR), ac mae bellach yn cymryd rhan yn yr astudiaeth agweddau ac ymddygiadau canser COVID-19. Yma mae'n esbonio pam bod ymagwedd anthropolegol yn bwysig, a sut gall yr ymchwil hon wella diagnosis cynnar o ganser.

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Dr Erik Mire

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Dr Erik Mire

Postiwyd ar 8 Mawrth 2021 gan Alumni team

Gwnaethom siarad â Dr Erik Mire, Prif Ymchwilydd a Chymrawd Ymchwil Hodge yn Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, am ei ymchwil sy'n edrych sut y gall dietau mamau effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd mewn babanod yn y groth.