Skip to main content

Mawrth 2024

Pennod newydd yn hanes Rygbi Prifysgol Caerdydd: rhannwch eich atgofion personol

Pennod newydd yn hanes Rygbi Prifysgol Caerdydd: rhannwch eich atgofion personol

Postiwyd ar 25 Mawrth 2024 gan Alumni team

Mae Chris Davies, sydd newydd ei benodi fel Pennaeth Rygbi, eisiau cysylltu chwaraewyr presennol â straeon a phrofiadau cyn-fyfyrwyr oedd yn chwaraewyr rygbi. Os gwnaethoch chi chwarae i unrhyw un o dimau rygbi Prifysgol Caerdydd (neu UCC, UWIST, UWCM), bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych.

Datblygu triniaethau cynnar hanfodol ar gyfer canser y pancreas 

Datblygu triniaethau cynnar hanfodol ar gyfer canser y pancreas 

Postiwyd ar 4 Mawrth 2024 gan Alumni team

Ar hyn o bryd, dim ond 5% yw’r gyfradd oroesi (o ddeng mlynedd) ar gyfer y rheiny sy’n dioddef o ganser y pancreas. Gan mai anodd yw canfod y clefyd yn ei gamau cynnar, mae ymyrraeth yn aml yn dod yn rhy hwyr i nifer fawr o gleifion. Mae Josh D'Ambrogio (Y Biowyddorau 2021-) wedi bod wrthi’n astudio canser y pancreas yn ei gamau cynnar, er mwyn dod o hyd i ddulliau pellach a all ganfod y clefyd yn fwy cynnar, a strategaethau ar gyfer ei drin yn fwy effeithiol. 

“Roeddwn i’n argyhoeddedig na fyddwn i byth yn gallu rhedeg eto”: cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer ymchwil canser

“Roeddwn i’n argyhoeddedig na fyddwn i byth yn gallu rhedeg eto”: cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer ymchwil canser

Postiwyd ar 1 Mawrth 2024 gan Alumni team

Cyn-fyfyriwr ac aelod o staff Prifysgol Caerdydd yw Abyd Quinn-Aziz (MPhil 2012) sydd wedi bod yn rhedwr brwd ers ei ieuenctid. Yn dilyn rhai problemau iechyd, mae wedi dychwelyd i redeg yn ddiweddar ac mae wedi gosod her Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref eleni.