Skip to main content

#TeamCardiffCyswllt CaerdyddEin Cyn-fyfyrwyrNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

“Roeddwn i’n argyhoeddedig na fyddwn i byth yn gallu rhedeg eto”: cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer ymchwil canser

1 Mawrth 2024

Cyn-fyfyriwr ac aelod o staff Prifysgol Caerdydd yw Abyd Quinn-Aziz (MPhil 2012) sydd wedi bod yn rhedwr brwd ers ei ieuenctid. Yn dilyn rhai problemau iechyd, mae wedi dychwelyd i redeg yn ddiweddar ac mae wedi gosod her Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref eleni. 

Roeddwn i’n arfer rhedeg yn rheolaidd ac wedi rhedeg Hanner Marathon Caerdydd sawl gwaith o’r blaen, yn ogystal â marathonau llawn. Ond yn ddiweddar rydw i wedi cael seibiant gan fy mod i wedi bod yn cael trafferth gyda COVID hir. Chwe mis yn ôl, allwn i ddim rhedeg milltir heb orfod stopio, felly mae hyn yn ymwneud ag adeiladu fy nerth ac ail gydio ynddi. Dydw i ddim eisiau mynd allan o wynt yn cerdded i fyny’r grisiau rhagor.  

Yn ogystal â gwneud hyn er fy iechyd fy hun, rwy’n rhedeg gyda #TeamCardiff i godi arian ar gyfer ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd fy ngwraig Sue ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2017 ac er gwaethaf triniaeth, daeth yn ôl yn 2019. Dywedwyd wrthi y byddai angen llawdriniaeth enfawr arni i achub ei bywyd, rhywbeth nad oedd ar gael yng Nghymru. Bu’n rhaid iddi symud i Birmingham i gael y llawdriniaeth arloesol hon. Bu’n llwyddiannus ac mae hi bellach yn rhydd o ganser.

Trwy gydol triniaeth Sue, roedd fy nghyfaill rhedeg Paul yno i mi. Roedden ni’n ffrindiau am 20 mlynedd ac fe welodd e fi drwy gyfnodau tywyll. Roedd yn ffrind ffyddlon ac yn ddyn hyfryd. Yn anffodus, derbyniodd ei ddiagnosis ei hun o ganser yn 2022 a bu farw’n gyflym iawn. Sue a Paul yw’r rheswm pam fy mod i’n codi arian ar gyfer ymchwil canser. Rwyf am wneud fy rhan i helpu i wella diagnosis cynharach/cynnar a datblygu triniaethau gwell sydd ar gael i bawb.

Rhedais yn yr ysgol ac am ychydig yn ystod blynyddoedd cyntaf yn y brifysgol ond yna rhoi’r gorau iddi. Fe wnes i ddychwelyd i redeg yn fy mhedwardegau ar ôl i fy mab cael ei eni . Roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr fy mod i’n gallu cadw i fyny ag ef! Dechreuais loncian o amgylch Penarth ac yna fe wnes i ymuno â chlwb Penarth a Dinas Runners. Roedd y clwb mor groesawgar, es i nôl i rhedeg pellteroedd hir, ac ar ôl ychydig o argyhoeddi, dechreuais rhedeg marathonau.

Un o’r prif bethau mae rhedeg yn ei wneud i mi yw rhoi lle i mi ddianc o’r gwaith; bod allan gyda rhywun yn sgwrsio a rhoi’r byd yn ei le. Mae’n helpu fy lles meddyliol ac yn amlwg mae manteision iechyd corfforol hefyd. Er ar ôl sesiwn fynydd weithiau nid yw’n teimlo fel bod ‘na unrhyw fudd iddo o gwbl! 

Yn fwy diweddar, ar ôl bod yn sâl roeddwn ar fin cael gwared ar fy holl bethau rhedeg, gan fy mod yn argyhoeddedig na fyddwn byth yn gallu rhedeg eto. Ond gyda chefnogaeth y clwb, teulu a ffrindiau, rydw i nôl allan yna ac yn cryfhau bob dydd. Er mwyn helpu i gael fy ffitrwydd yn ôl i fyny, ymunais â rhaglen ‘Couch to 5K’ a oedd newydd fy nghael yn ôl i rythm o redeg tair gwaith yr wythnos. Daeth hynny â’r teimlad cadarnhaol hwnnw a’r positifrwydd yn ôl ar ôl rhedeg. 

Fy nghyngor i unrhyw redwyr newydd yw cofio bod rhedeg mewn gwirionedd yn hwyl, er efallai na fydd yn teimlo fel hynny ar y pryd! Dwi wrth fy modd yn mynd allan a dod adref gyda theimlad ‘haeddiannol’ yn hytrach na theimlad blinedig o’r gwaith yn unig.  

Rwy’n edrych ymlaen at fwrlwm diwrnod y ras. Mae yna gyffro o fod gyda grŵp o bobl, i gyd yn gwneud yr un peth. Mae’r llwybr yn wych hefyd, ac rwyf wrth fy modd yn rhedeg o amgylch y Bae. Ac mae croesi’r llinell derfyn o flaen Adeilad Morgannwg, lle dwi’n gweithio, yn wych! 

Cefnogi Abyd

Dangoswch eich cefnogaeth i Abyd a’i helpu i gyrraedd ei darged codi arian. Noddwch Abyd ar JustGiving 

Beth am redeg Hanner Marathon Caerdydd yn 2024? 

Rhedwch Hanner Marathon Caerdydd ar Sul 6 Hydref a chodi arian ar gyfer niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd, neu ymchwil canser. Gwnewch gais am un o leoedd elusennol cyfyngedig #TeamCardiff. 

Neu os oes gennych chi awydd ymgymryd â her yn fwy, mae hefyd nifer gyfyngedig o leoedd elusennol i redeg Marathon APB Casnewydd Cymru ar 28 Ebrill 2024. 

I gael gwybod rhagor am godi arian ym Mhrifysgol Caerdydd, e-bostiwch donate@caerdydd.ac.uk.