Skip to main content

Hydref 2022

Gair Rhydd – Dathlu 50 mlynedd

Gair Rhydd – Dathlu 50 mlynedd

Postiwyd ar 27 Hydref 2022 gan Jordan Curtis

Dathlu Pen-blwydd Gair Rhydd yn 50 oed eleni. Mae Gair Rhydd wedi gweld llu o newidiadau ers ei argraffiad cyntaf ar 3 Hydref 1972, o ysgrifennu erthyglau ar deipiaduron a’u pinio i fyrddau gosod i’w hargraffu, i gyhoeddi’r papur ar-lein yn ddidrafferth.

Cynfyfyrwyr Caerdydd yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd

Cynfyfyrwyr Caerdydd yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd

Postiwyd ar 26 Hydref 2022 gan Jordan Curtis

Mae Cwpan Rygbi'r Byd ar y gweill yn Seland Newydd. Dechreuodd Cymru eu hymgyrch gyda buddugoliaeth agos o 18-15 yn erbyn yr Alban. Mae’r flwyddyn hon yn arwyddocaol iawn gan mai dyma’r tro cyntaf i nifer o’r tîm fynd i’r twrnamaint gyda chytundebau proffesiynol.

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Dr Kerrie Thomas

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Dr Kerrie Thomas

Postiwyd ar 17 Hydref 2022 gan Alumni team

Mae Dr Kerrie Thomas yn Ddarllenydd yn y Sefydliad Ymchwil Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMHRI) ac yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Hodge ar gyfer Imiwnoleg Niwroseiciatrig. Nod ei hymchwil yw datblygu ein dealltwriaeth o PTSD (Anhwylder Straen Ôl-Drawmatig) ac, yn y pen draw, wella'r ffordd rydym ni'n trin y cyflwr dinistriol hwn.

Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr Caerdydd – golwg yn ôl ar y flwyddyn

Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr Caerdydd – golwg yn ôl ar y flwyddyn

Postiwyd ar 11 Hydref 2022 gan Alumni team

Mae myfyrwyr wrth galon Prifysgol Caerdydd, ond gall heriau ariannol atal y meddyliau gorau a mwyaf disglair rhag cael mynediad at yr addysg a'r cyfleoedd y maent yn eu haeddu. Y llynedd rhoddodd ein cefnogwyr swm syfrdanol o £68,000 tuag at gefnogi myfyrwyr Caerdydd i gyflawni eu llawn botensial, trwy roddion hael, yn ogystal ag anrhegion mewn Ewyllysiau ac er cof am anwyliaid. Rhoddodd ein cynfyfyrwyr eu hamser a’u harbenigedd hefyd i gefnogi ein myfyrwyr trwy fentora, gwneud cyflwyniadau am yrfaoedd a chynnig interniaethau i’w helpu i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl Caerdydd.

Mae enillydd gwobrau (tua)30 wedi’u dewis – rhagolwg arbennig

Mae enillydd gwobrau (tua)30 wedi’u dewis – rhagolwg arbennig

Postiwyd ar 4 Hydref 2022 gan Alumni team

Yn dilyn ymateb enfawr gan y gymuned o gynfyfyrwyr, mae Barry Sullivan, Pennaeth Cysylltiadau Cynfyfyrwyr, yn rhoi crynodeb i ni am yr hyn fydd yn digwydd nesaf, beth i edrych amdano ar y rhestr, ac efallai hyd yn oed awgrym am bwy sydd wedi’u henwebu ar gyfer y gwobrau (tua)30.

Codwyr arian #TeamCardiff yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd

Codwyr arian #TeamCardiff yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd

Postiwyd ar 3 Hydref 2022 gan Alumni team

Ddydd Sul 2 Hydref, rhedodd tua 70 o gynfyfyrwyr, myfyrwyr a staff yn Hanner Marathon Caerdydd, i godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff. Eu nod yw codi £25,000 ar gyfer niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, ac ymchwil canser.