Skip to main content

#TeamCardiffNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Codwyr arian #TeamCardiff yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd

3 Hydref 2022

Ddydd Sul 2 Hydref, rhedodd tua 70 o gynfyfyrwyr, myfyrwyr a staff yn Hanner Marathon Caerdydd, i godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff. Eu nod yw codi £25,000 ar gyfer niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, ac ymchwil canser.

Daeth miloedd o redwyr i gymryd rhan yn ail Hanner Marathon Caerdydd i gael ei gynnal yn ystod 2022. Rhedon nhw 13.1 milltir o amgylch y strydoedd gan edmygu rhai o dirnodau mwyaf eiconig y ddinas. Ym Milltir 8, cafodd ein rhedwyr eu cyfarch gan ein Gorsaf Codi Hwyliau a’u hannog gan ein cefnogwyr a Dylan y Ddraig.

Rhedodd Laura Stephenson (BA 2008) er cof am ei ffrind Areesha (Reesh). Mae’n codi arian dros ymchwil canser. Cafodd ei hysbrydoli gan gryfder ei ffrind yn wyneb diagnosis ofnadwy a’i hagwedd ‘dweud ie i bopeth’.

Ym mis Mawrth 2021, cafodd fy ffrind uchelgeisiol, hyderus a doniol Reesh, ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd. Credai mai’r ffordd orau o wynebu triniaeth oedd meddwl yn gadarnhaol. Ac, ar yr arwyneb o leiaf, fe wnaeth hi. Doedd hi ddim eisiau cael ei diffinio gan ei salwch, felly fe wnaethon ni, ei ffrindiau, wneud yn siŵr nad oedd hi.

Yn anffodus, ar 19 Chwefror 2022, bu farw Reesh. Dydw i erioed wedi teimlo colled o’r fath. Cefais fy ysbrydoli gan ei hagwedd ‘dweud ie i bopeth’ a chefais fy ysgogi gan yr atgof o ba mor fyr yw bywyd, felly cofrestrais ar gyfer yr Hanner Marathon gyda #TîmCardiff i godi arian ar gyfer ymchwil canser. Rydw i wedi cael fy syfrdanu gan haelioni’r rhai sydd wedi rhoi yn barod. Mae’n fy ysgogi ymhellach ar y dyddiau hynny pan nad oes awydd gen i fynd i redeg.

Cefnogwch ymdrech codi arian Laura.

Rhedodd Gethin Bennett (LLB 2015, PgDip 2016) Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref er cof am ei dad, a fu farw yn 2007 o ganlyniad i iselder.

Yn anffodus bu farw fy nhad yn 2007 o ganlyniad i iselder pan oeddwn yn 14. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi ceisio codi arian i gefnogi elusennau a sefydliadau iechyd meddwl. Gan fy mod yn gynfyfyriwr i Brifysgol Caerdydd, ces i’r ebost am yr Hanner Marathon a sylwais y gallwn godi arian tuag at ymchwil iechyd meddwl. Felly roedd yn gwneud synnwyr i mi gofrestru a chefnogi fy hen brifysgol eleni! Rwy’n mwynhau bwrlwm ac awyrgylch y diwrnod.

Cefnogwch ymdrech codi arian Gethin.

Rhedodd Chris Jones (BScEcon 1999) er cof am ei gydweithiwr Kevin Leonard.

Cefais yr anrhydedd o fod yn rheolwr llinell Kevin am flynyddoedd lawer. “Heb amheuaeth, fe oedd y person mwyaf hynaws i mi gwrdd ag ef erioed. Fel minnau, roedd yn dwlu ar bêl-droed yr Adar Gleision a Chymru, ac roedd hefyd yn rhedwr ymroddedig a medrus. Roedd yn hoff iawn o Hanner Marathon Caerdydd ac fe oedd wedi fy mherswadio i gymryd rhan am y tro cyntaf yn 2016. Roedd yn aelod angerddol o #TeamCardiff a chododd fwy na £600 ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd yn ras 2018. Cyn i ni ei golli, addewais y byddwn i’n rhedeg yn y ras unwaith eto – bellach mae’n bryd i mi gadw at fy addewid.

Cefnogi ymdrech codi arian Chris.

Gallwch helpu #TeamCardiff i gyrraedd eu targed codi arian a chodi £25,000 i gefnogi ymchwil canser Prifysgol Caerdydd, ac ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl. Drwy gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch helpu i gyflymu darganfyddiadau sy’n newid bywydau er mwyn gwella atal, diagnosis a thriniaeth i bobl sy’n byw gydag ystod eang o gyflyrau.

Cefnogwch ymdrech codi arian #TeamCardiff gyda rhodd

Oes gennych ddiddordeb rhedeg Hanner Marathon Caerdydd gyda TeamCardiff ar gyfer Prifysgol Caerdydd yn 2023? Ymunwch â #TeamCardiff.