Ym mis Hydref, yn hytrach na gwisgo ei got labordy yn ôl ei arfer, bydd yr Athro Duncan Baird yn rhoi ei fest rhedeg amdano ac yn rhoi cynnig ar redeg Hanner Marathon Caerdydd.
Nid yw dringo’r ysgol yrfaol yn rhywbeth rydych chi’n ei wneud ar eich pen eich hun – yn amlach na pheidio, mae llwyddiant yn digwydd drwy gydweithio a chyd-gefnogaeth.
Newyddiadurwr llawrydd, golygydd cynnwys, ac ymgyrchydd gofal iechyd yw Ellie Philpotts (BA 2017). Ar ôl cael diagnosis o ganser y gwaed yn ei harddegau, aeth Ellie ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, gan weithio i gefnogi unigolion eraill â chanser.
Bydd Darshni Vaghjiani (Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth 2022-) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref er cof am ei diweddar dad-cu.
A hithau’n aelod o #TeamCardiff, mae hi'n codi arian ar gyfer ymchwilwyr yma ar y campws, sy'n gwella canlyniadau i bobl sy'n byw gyda rhai o'r canserau mwyaf cyffredin.
Mae Charley Bezuidenhout (Seicoleg 2022-) a Lizzy Braithwaite (Seicoleg 2022-) yn ffrindiau ac yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Maen nhw wedi penderfynu rhedeg Hanner Marathon Caerdydd 2024 gyda’i gilydd er mwyn cefnogi’r ymchwil iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth hanfodol sy’n digwydd ar y campws.
Ym mis Hydref, bydd Isabel Irvine (BSc 2024) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi ei mam, a gafodd ddiagnosis o ganser y llynedd. Hyd yma, mae hi wedi codi swm anhygoel o £1,100 er budd ymchwil canser Prifysgol Caerdydd yn y cyfnod cyn y ras.
Eleni, bydd un o’n cyn-fyfyrwyr Daniel Nicolas (MBA 2000) yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd, i gefnogi ymchwil i niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd. Yma, mae'n sôn am ei gymhellion personol ar gyfer rhedeg Hanner Marathon Caerdydd, ei ras gyntaf ers y pandemig.
Cyn iddi ailhyfforddi i fod yn gogydd, treuliodd Ceri Jones (BMus 2003) ddegawd yn adeiladu gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth. Yma, mae hi’n myfyrio ar ei phrofiad o gymryd y naid, ac i le mae ei hangerdd am goginio wedi mynd â hi hyd yn hyn.
Ydych chi'n cofio sut oeddech chi'n teimlo wrth i chi gerdded ar lwyfan Neuadd Dewi Sant? Er bod blynyddoedd lawer wedi mynd heibio, gallwch chi ail-fyw'r foment trwy ddod o hyd i'ch hun yn ein harchifau Graddio.
Astudiodd Annabelle Earps (BA 2020) Newyddiaduraeth a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae hi bellach yn gweithio ym maes cysylltiadau cyhoeddus digidol. Yn yr erthygl hon, mae'n trafod sut beth oedd dechrau gyrfa mewn tirwedd ddigidol sy'n newid.
Gall amgylchedd niwrogynhwysol roi'r cymorth sydd ei angen ar staff i lwyddo, gwella lles a chynhyrchiant a rhoi gwerthoedd cwmniau pwysig ar waith. Fe wnaethon ni ofyn i’n cyn-fyfyrwyr arbenigol am eu cyngor ar sut i rymuso a bod yn gynghreiriad i gydweithwyr niwroamrywiol yn eich gweithle.
Mae Emma Weir (Biowyddorau 2021-) ym mlwyddyn olaf ei PhD yn Sefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, ac rwy’n ymchwilio i fecanweithiau anhwylderau niwroddatblygiadol megis Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), awtistiaeth, a sgitsoffrenia.
Ym mis Gorffennaf, bydd Isabelle (Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 2021-) yn mynd ar daith gyda’r nos i fyny'r Wyddfa yng nghwmni ei chyd-godwyr arian #TeamCardiff. Yma, mae Isabelle yn sôn am pam penderfynodd hi i gymryd rhan yn y sialens o gerdded copa uchaf Cymru.
Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol a gynhelir rhwng dydd Llun 3 Mehefin a dydd Sul 9 Mehefin eleni, gan gydnabod cyfraniad miliynau o bobl ledled y DU trwy wirfoddoli yn eu cymunedau.
Cymerodd Natalie ran yng nghynllun Menywod yn Mentora 2024 a oedd wedi paru 24 o fentoriaid â 60 o fentoriaid. Cafodd ei pharu â Joanna Dougherty (BScEcon 2017) Cyfarwyddwr Gweithrediadau Byd-eang Profiad y Cleientiaid JLL ac mae'n rhannu ei phrofiadau o fod yn fentorai yn y rhaglen.
Cymerodd Joanna ran yn ein cynllun Menywod yn Mentora yn 2024 a oedd wedi paru 24 o fentoriaid â 60 o fentoreion. Cafodd ei pharu â Natalie Atkinson (BSc 2018) Rheolwr Cynorthwyol Cynllunio a Datblygu yn YTL Developments (UK) Ltd. ac mae’n rhannu ei phrofiadau o fod yn fentor ar y rhaglen.
Yn 2023, enillodd yr entrepreneur Grace Munyiri (MSc 2023) Dyfarniad Menter Gymdeithasol Gavin Davidson. Mae'r dyfarniad, sy’n cael ei ariannu gan y cyn-fyfyriwr Gavin Davidson (MBA 1992), yn helpu myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n angerddol dros fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chreu newid cymdeithasol cadarnhaol.
Gall prosiectau creadigol ddysgu sgiliau newydd, agor drysau newydd a rhoi rhagor o amser gwerthfawr ichi ganolbwyntio ar eich diddordebau personol. P'un a ydych chi'n dymuno troi hobi’n yrfa neu ddod â syniadau'n fyw yn eich amser hamdden, gall ychydig o arweiniad eich rhoi ar ben eich ffordd. Gofynnon ni i rai o'n cyn-fyfyrwyr gwych sydd wedi gweithio ar ystod o brosiectau - o gylchgronau i bodlediadau - i rannu eu hawgrymiadau mwyaf defnyddiol.
Mae Bilal (Y Gyfraith 2023-) wedi penderfynu gosod her iddo ei hun – dringo’r Wyddfa gyda’r nos. Fel rhan o #TeamCardiff, bydd ei ymdrechion i godi arian yn cefnogi ymchwil ar ganser yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mae'n esbonio beth sy’n ei ysgogi i ymuno â'r daith, a'i gyngor i eraill sydd am gefnogi ymchwil o’r fath sy'n newid bywydau.