Skip to main content

Bossing It

Sut i lwyddo yn eich cyfweliad nesaf – Bossing It

Sut i lwyddo yn eich cyfweliad nesaf – Bossing It

Postiwyd ar 27 Hydref 2023 gan Alumni team

Gwych — rydych chi wedi cael gwahoddiad i gyfweliad am swydd newydd a chyffrous, ond beth nesaf!? Yn aml, bydd aros am gyfweliad yn gallu codi braw ar rywun, ond drwy baratoi’n effeithiol amdano, byddwch chi’n dawel eich meddwl wrth wybod y gallech fynd i'r afael ag ef yn llawn hyder. Cawson ni sgwrs gyda rhai o'n cyn-fyfyrwyr gwych, ac maen nhw wedi rhannu awgrymiadau da iawn ar sut i lwyddo yn eich cyfweliad nesaf.

Pŵer sgiliau trosglwyddadwy – Bossing It

Pŵer sgiliau trosglwyddadwy – Bossing It

Postiwyd ar 27 Mehefin 2023 gan Emma Lewis (BA 2017)

Gall datblygu sgiliau trosglwyddadwy fod yn amhrisiadwy i'ch dilyniant, boed hynny drwy wirfoddoli, profiad personol neu drwy eich astudiaethau prifysgol. Buom yn siarad ag aelodau o’n cymuned anhygoel o gynfyfyrwyr sydd wedi rhannu eu doethineb ynghylch sut y gall y sgiliau hyn fod o fudd i chi wrth ddechrau ar eich gyrfa.

Menywod yn Arwain – Bossing It

Menywod yn Arwain – Bossing It

Postiwyd ar 28 Ebrill 2023 gan Emma Lewis (BA 2017)

Buom yn siarad yn ddiweddar â rhai o’n harweinwyr benywaidd llwyddiannus o gymuned cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Gwnaethant rannu ychydig y gyngor y bydden nhw'n ei roi i'w hunain pan yn iau.

Cymryd seibiant yn eich gyrfa – Bossing It

Cymryd seibiant yn eich gyrfa – Bossing It

Postiwyd ar 24 Ionawr 2023 gan Emma Lewis (BA 2017)

Mae cymryd seibiant gyrfa yn rhywbeth y bydd llawer ohonom yn ei wneud yn ystod ein bywydau ac mae'n rhywbeth i fod yn falch ohono. Mae yna lawer o resymau dros gymryd seibiant gyrfa - boed hynny er mwyn datblygu eich sgiliau proffesiynol, cymryd amser i’w dreulio gyda'r teulu, neu i fachu profiadau newydd. Cawsom sgwrs â rhai o'n cymuned o gynfyfyrwyr sydd wedi rhannu eu cyngor ar fanteision seibiant gyrfa, a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich amser.

Cromlin ddysgu dechrau busnes – Bossing It

Cromlin ddysgu dechrau busnes – Bossing It

Postiwyd ar 22 Tachwedd 2022 gan Emma Lewis (BA 2017)

Gall sefydlu busnes o'r newydd fod yn heriol. Felly gall dysgu o'ch taith eich hun yn ogystal â rhai pobl eraill fod yn hanfodol i sicrhau bod eich menter yn llwyddiant. Cawsom sgwrs â rhai o'n cyn-fyfyrwyr gwybodus sydd wedi rhannu eu cyngor ar gychwyn eich busnes newydd.

Newid llwybr yn eich gyrfa – Bossing It

Newid llwybr yn eich gyrfa – Bossing It

Postiwyd ar 30 Medi 2022 gan Emma Lewis (BA 2017)

Gall newid gyrfa fod yn frawychus, ond hefyd yn hynod werth chweil. Cawsom sgwrs gyda rhai o'n cynfyfyrwyr sydd wedi cymryd y cam mawr i lwybr gyrfa hollol newydd.

Hyrwyddo eich hun – Bossing It

Hyrwyddo eich hun – Bossing It

Postiwyd ar 29 Gorffennaf 2022 gan Emma Lewis (BA 2017)

Rydym wedi siarad â rhai o'n graddedigion llwyddiannus sydd wedi rhoi eu cynghorion gorau ynghylch pam ei fod yn beth cadarnhaol i 'frolio eich hunain'!

Cael eich troed yn y drws – Bossing It

Cael eich troed yn y drws – Bossing It

Postiwyd ar 23 Mai 2022 gan Emma Lewis (BA 2017)

Gall dechrau yn y 'byd go iawn' ar ôl graddio ymddangos yn frawychus, a chanfod (a sicrhau) y swydd berffaith honno, yn dasg amhosibl. Rydym wedi siarad â chynfyfyrwyr o Gaerdydd sy'n dechrau ar eu gwaith o lywio llwybr eu gyrfa fel graddedigion newydd. Dyma eu cynghorion ar gyfer cael eich troed yn y drws...

Eich llwybr at hyder gyrfaol – Bossing It

Eich llwybr at hyder gyrfaol – Bossing It

Postiwyd ar 24 Mawrth 2022 gan Emma Lewis (BA 2017)

Yn y farchnad swyddi gystadleuol, a’r byd cyflym sydd ohoni heddiw, mae hunan-gred yn bwysicach nag erioed. Yn aml, gall deimlo fel petai gan gydweithwyr, cyfoedion a'r rhai yr ydym yn eu hedmygu yn ein diwydiannau, beth wmbreth ohono, ond ydi hynny'n wir mewn gwirionedd? Fe fuom yn siarad â rhai o'n cynfyfyrwyr llwyddiannus am hyder o ran gyrfa, a gofynnwyd iddyn nhw rannu eu hawgrymiadau a'u triciau ar gyfer teimlo'n ddi-ofn a bod yn feiddgar yn eich gyrfa.

Awgrymiadau ar gyfer adnewyddu eich CV — Bossing It

Awgrymiadau ar gyfer adnewyddu eich CV — Bossing It

Postiwyd ar 26 Ionawr 2022 gan Kate Morgan (BA 2017)

P'un a ydych yn dechrau CV o'r newydd neu'n rhoi sglein newydd ar hen un, mae cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yma i helpu. Cewch wybod beth mae ein harbenigwyr ym maes recriwtio ac Adnoddau Dynol yn ei argymell ar gyfer creu CV trawiadol yn y byd cystadleuol sydd ohoni.