Skip to main content

Bossing ItCyswllt Caerdydd

Cromlin ddysgu dechrau busnes – Bossing It

22 Tachwedd 2022

Gall sefydlu busnes o’r newydd fod yn heriol. Felly gall dysgu o’ch taith eich hun yn ogystal â rhai pobl eraill fod yn hanfodol i sicrhau bod eich menter yn llwyddiant. Cawsom sgwrs â rhai o’n cyn-fyfyrwyr gwybodus sydd wedi rhannu eu cyngor ar gychwyn eich busnes newydd.

Gerwyn Holmes (BSc 2005)

Gerwyn yw sylfaenydd EcoSlurps busnes newydd arobryn, ac mae bob amser wedi bod yn angerddol am ailgylchu a’r amgylchedd. Ar ôl astudio yn Ysgol Busnes Caerdydd, bu’n gweithio mewn busnes ailgylchu newydd, lle sylweddolodd faint rydym yn dibynnu ar gynhyrchion plastig untro. Yn 2019 sefydlodd EcoSlurps, busnes sy’n cynnig dewisiadau amgen ailddefnyddiadwy a bioddiraddadwy i ni yn lle cynhyrchion plastig untro. Mae’r busnes yn plannu coed bob dydd i wrthbwyso allyriadau ac yn cefnogi prosiectau ailgoedwigo ledled y byd.

Dechrau arni, methu’n gyflym, a dysgu ohono

Peidiwch bod ofn methu! Mentrwch a methu’n gyflym er mwyn gweld a fydd eich syniad yn llwyddiant. Gorau po gyntaf y byddwch yn dechrau, y cynharaf y byddwch yn methu, y cynharaf y byddwch yn dysgu, a gorau po gyntaf y byddwch yn symud ymlaen. Nid ydych yn gwneud unrhyw gynnydd wrth sefyll yn llonydd yn meddwl am syniad. Mae methu, a dysgu o’r methiannau hynny yn rhan hanfodol o ehangu unrhyw fusnes llwyddiannus. Cofiwch nad yw’r rhai sydd heb fethu, erioed wedi trio. Nid yw methiant yn eich atal rhag llwyddo yn y pen draw, mae’n gam hanfodol wrth greu’r ateb cywir i’r broblem yn y farchnad rydych chi’n ceisio’i datrys.

Gwnewch rywbeth rydych chi’n frwd amdano

Er mwyn helpu i gynnal brwdfrydedd hirdymor yn eich busnes mae’n fuddiol bod yn angerddol am y sector yr ydych yn mynd iddo, a’r broblem yr ydych yn ceisio ei datrys. Pan fo pethau’n anodd, mae’n llawer haws gweithio ar fusnes mewn diwydiant sy’n wirioneddol bwysig i chi. Bydd entrepreneuriaid sy’n angerddol am y farchnad y maent yn gweithio ynddi yn cael llawer mwy o lwyddiant, gan fanteisio ar gyfleoedd y byddant yn dod ar eu traws yn y farchnad o gymharu â’r rhai sydd yno i wneud elw’n unig. Mae’n hawdd nodi dilysrwydd ac entrepreneuriaid a busnesau sy’n cael eu harwain gan werthoedd yn y byd cyflym yr ydym yn byw ynddo. Defnyddiwch eich angerdd i ddod yn arbenigwr yn eich marchnad, a chreu cynulleidfa o ddilynwyr ffyddlon a fydd, gobeithio, yn y pen draw yn dod yn gwsmeriaid sy’n talu ac yn hyrwyddo’r busnes.

Paris Collingbourne (BA 2018)

Paris yw sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr yr asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus Loud Llama, cwmni bach sy’n gweithio gyda brandiau byd-eang a busnesau newydd cyffrous. Ar ôl bod yn y diwydiant cysylltiadau cyhoeddus ers bron i wyth mlynedd, gwelodd Paris fwlch ar gyfer asiantaeth a yrrir gan bobl ifanc yn Ne Cymru gyda chenhadaeth graidd o fod yn asiantaeth sy’n gwneud i chi deimlo’n dda ac sy’n rhoi pobl yn gyntaf.

Byddwch yn gyfforddus gyda’r anghyfforddus!

Mae popeth yn anodd cyn iddo ddod yn haws. Peidiwch â bod ofn rhoi cynnig arni. Dydych chi ddim yn dysgu cerdded drwy ddilyn rheolau. Rydych chi’n dysgu trwy wneud a thrwy syrthio. Yn bennaf, rydym yn ceisio datrys problemau ar hyd y ffordd, ac mae hynny’n iawn. Rydw i wedi dysgu mai’r llethu rwy’n teimlo mewn busnes o bryd i’w gilydd yw’r llwyddiant rydw i wedi bod yn dyheu amdano. Yr allwedd i ffynnu mewn cyfnod anodd yw sylwi ar y pethau cadarnhaol mewn sefyllfa a manteisio arnynt. Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi’ch trechu, rwy’n eich annog i geisio newid eich persbectif a chaniatáu i chi’ch hun weld y cyfle (sy’n amlwg fel arfer!). Cofiwch, chi sy’n chi’n rheoli eich busnes ac nid yw’n eich rheoli chi!

Cadwch mewn cysylltiad â’r bobl sydd eisiau i chi gael rhagor, ac nid nhw.

Gan mai hwn yw eich profiad cyntaf o fod yn sylfaenydd, mae’n anochel y byddwch yn gwneud camgymeriadau. Amgylchynwch eich hun â phobl sy’n eich ysbrydoli ac yn eich annog i fod yn well. Rhai o’r gwersi gorau dwi wedi dysgu yw gwrando ar bobl sydd ‘wedi bod yno ganwaith o’r blaen’. Maent wedi dysgu o’u camgymeriadau eu hunain ac mewn sefyllfa unigryw i helpu sylfaenwyr am y tro cyntaf i osgoi gwneud yr un rhai. Gosodais nod i mi fy hun pan ddechreuais Loud Llama i siarad â rhywun a’m hysbrydolodd bob wythnos. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rydyn ni nawr yn gweithio gyda rhai o’r perchnogion busnes hyn!

Rifhat Qureshi (BSc 1999, MSc 2021)

Rifat yw sylfaenydd Modest Trends London, busnes ffasiwn sy’n darparu dillad ac ategolion moesegol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o fenywod Mwslimaidd. Yn 2019 enillodd y wobr am Fusnes Newydd y Flwyddyn yng ngwobrau BBaChau Cymru a dyma’r siop Abaya a Hijab gyntaf ar Stryd Rhydychen, Llundain. Mae’r brand yn ymfalchïo mewn ffynonellau moesegol, cyfraniad cymunedol ac amrywiaeth.

Cymrwch gamau bach bob dydd ond cofiwch gael tipyn o freuddwyd!

Yn ystod fy sgwrs TED yn 2018 fe wnes i siarad am sut roeddwn i wastad eisiau dechrau fy musnes fy hun. Fodd bynnag, wrth i’r blynyddoedd fynd heibio aeth y freuddwyd ymhellach ac ymhellach i ffwrdd, er gwaethaf cael gradd mewn Gweinyddu Busnes! Roeddwn yn teimlo wedi fy llethu ac yn ofn methu gan nad oeddwn yn gwybod ble i ddechrau nac at bwy i fynd am gyngor a chefnogaeth. Roeddwn i’n amau fy hun, felly fe gymerodd 20 mlynedd i mi fentro a dechrau fy musnes fy hun. Er ei fod wedi bod yn heriol ar adegau, dyma un o’r penderfyniadau gorau i mi ei wneud erioed.

Gallwch wneud pethau anhygoel, ond does dim angen i chi eu gwneud ar eich pen eich hun.

Gofynnwch am help bob amser pan fyddwch ei angen. Gofynnwch i fentoriaid eich arwain a’ch cefnogi, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi rhywbeth yn ôl hefyd. Rydw i wrth fy modd yn cefnogi eraill ar eu taith dechrau busnes a’u helpu i ddatblygu’r meddylfryd arwain. Felly, yn 2020 penderfynais ddychwelyd i astudio a gwneud MSc Strategaeth Busnes mewn Entrepreneuriaeth, i roi’r adnoddau a’r iaith i mi i helpu i gefnogi sylfaenwyr benywaidd eraill. Mae bod yn entrepreneur wedi rhoi profiadau sy’n trawsnewid bywyd i mi. Rydw i wedi cwrdd â phobl o gefndiroedd gwahanol sy’n rhannu’r un brwdfrydedd ac angerdd i ddatrys problemau a gwneud gwahaniaeth yn y byd.

Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw o bobl sy’n barod iawn eu cymwynas ac yma i’ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Gallwch bori drwy eu cyngor a’u hawgrymiadau ar ystod eang o bynciau busnes yn ein cyfres ‘Bossing It’. Hoffech chi gael rhagor o gymorth gan rai o’n cyn-fyfyrwyr gwych? Beth am ddefnyddio’r adnodd ‘Dod o hyd i Fentor’ ar Cysylltiad Caerdydd?