Skip to main content

Cyswllt Caerdydd

Diweddariad i gynfyfyrwyr o Ysgol Busnes Caerdydd – Yr Athro Rachel Ashworth

25 Tachwedd 2022
Professor Rachel Ashworth Dean of Cardiff Business School

Mae’r Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau’r Ysgol a chyflawniadau cymunedol.

Helo bawb, a chyfarchion o Gaerdydd. Wrth i ddiwedd tymor yr hydref a 2022 agosáu, roeddwn am roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am newyddion a gweithgareddau Ysgol Busnes Caerdydd. Yn ogystal, hoffwn rannu digwyddiadau sydd ar y gweill a allai fod o ddiddordeb i chi.

Y tro diwethaf imi fod mewn cysylltiad, roedd pandemig COVID-19 yn ei anterth o hyd, ond mae’n bleser gennyf ddweud bod ein patrymau gwaith ac astudio wedi ennill eu plwyf erbyn hyn. Mae’r coridorau a’r theatrau darlithio yn brysur unwaith eto yn llawn myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n dychwelyd, o’r DU a ledled y byd. Mae mor braf clywed am y bwrlwm sydd wedi dychwelyd i’n hadeiladau a’n campws.

Pleser hefyd yw diolch i’n staff a’n myfyrwyr gwych gan fod yr ysgol wedi parhau i lwyddo, er gwaethaf heriau COVID. Dyma rai o’r uchafbwyntiau.

Arweinydd byd-eang cyfrifol

Datblygiad cyffrous yn y 12 mis diwethaf – ac un yr ydym yn falch iawn ohono – oedd derbyn achrediad gan Gymdeithas yr MBAs (AMBA). Hon yw’r safon uchaf o gyflawniad mewn addysg busnes ôl-raddedig ac fe’i dyfarnwyd ar ôl asesiad manwl yn 2021. Mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad i wella profiad y myfyrwyr a chyflwyno rhaglenni MBA rhagorol ac unigryw sy’n adlewyrchu ein diben o ran gwerth cyhoeddus.

Ar hyn o bryd mae ein portffolio MBA yn cynnwys rhaglen flaenllaw MBA Caerdydd a rhaglen MBA gyda Deallusrwydd Artiffisial, partneriaeth gyffrous gyda’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg. Rydym hefyd yn y broses o ailgynllunio ein rhaglen MBA ran-amser ac yn gobeithio dweud rhagor wrthych am hyn mewn diweddariadau yn y dyfodol.

Pwyslais ar ymchwil o werth cyhoeddus

Eleni, cawsom hefyd ganlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF), sef ymarfer sy’n asesu ansawdd ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch (SAUau) ledled y DU. Roeddem wrth ein bodd bod y canlyniadau yn dangos ein bod yn un o 2 ysgol busnes yn unig yn y DU sydd wedi cynnal y sgôr uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil ac roeddem yn 2il o blith 108 o ysgolion busnes y DU am bŵer ymchwil.

Cawsom ein canmol am ein diben o ran gwerth cyhoeddus ar ôl blaenoriaethu ymchwil sy’n canolbwyntio ar heriau byd-eang, megis gwaith gweddus, economïau teg a chynaliadwy, a llywodraethu da. Mae rhan o’r broses werthuso yn ystyried y strategaeth, yr adnoddau a’r seilwaith sydd ar waith i gefnogi ymchwil a galluogi effaith. Unwaith eto, mae’r canlyniadau’n dangos bod y diwylliant colegol, cynhwysol a chyfranogol yn yr ysgol yn darparu ymchwil ymgysylltiol, meddylgar ac effeithiol, sydd o fudd i fusnes a’r gymdeithas ehangach.

Gweithio i gefnogi ein cynfyfyrwyr

Ymunwch â’n cymuned ar LinkedIn
Rydym newydd greu tudalen LinkedIn newydd sy’n rhoi diweddariadau ar ein gweithgareddau, manylion am ein hymchwil, a gwybodaeth am ein digwyddiadau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ac yn cadw mewn cysylltiad.

Gwnewch gwrs Addysg Weithredol rhad ac am ddim
Gallwch fanteisio ar yr Addysg Weithredol yr ydym yn ei darparu. Mae’r tîm yn cynnig gweithdy deallusrwydd emosiynol AM DDIM dan arweiniad academydd newydd sydd wedi ymuno â’n cymuned, Artyom Kliuchnikov o Wcráin. Cysylltwch â Parry-JonesJ1@caerdydd.ac.uk am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar-lein a gynhelir ar 6 Rhagfyr. Os oes digwyddiadau a chyrsiau eraill a fyddai o ddefnydd i chi, rhowch wybod i ni.

Gwnewch y gorau o’n digwyddiadau hybrid
Mae’r pandemig wedi ein helpu i fod yn fwy arloesol hefyd. Er enghraifft, mae llawer o’n digwyddiadau bellach yn cael eu trefnu ar sail hybrid, fel bod cynifer o bobl a rhanddeiliaid â phosibl yn gallu cymryd rhan yn ein sgyrsiau a’n seminarau. Mae hyn yn sicrhau bod cymysgedd amrywiol – yn ddemograffig ac yn ddaearyddol – o bobl yn mynd iddynt, gan gyfoethogi’r trafodaethau a’r rhyngweithio â’r gynulleidfa.

The First Minister visiting Cardiff Business SchoolYn ddiweddar, croesawyd y Gwir Anrh. Mark Drakeford (MS), Prif Weinidog Cymru, i’r ysgol ar gyfer cynhadledd a dynnodd sylw at yr heriau i ffoaduriaid o ran dod o hyd i waith yng Nghymru. Roedd hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan gyflogwyr cyfrifol fel Tiny Rebel ac IKEA.

Byddem yn croesawu eich presenoldeb yn ein cyfres o Sesiynau Hysbysu dros Frecwast, sy’n llwyfannu ystod o siaradwyr amrywiol o fyd busnes, y byd academaidd a’r llywodraeth. Y mis hwn, roedd Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), Noel Mooney, yn sgwrsio â’r Athro Laura McAllister, cyn Gapten Menywod Cymru ac academydd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth y brifysgol, cyn seremoni agoriadol Cwpan y Byd yn Qatar.

Siaradodd Noel a Laura yn angerddol am ddyfodol pêl-droed Cymru (Wales), Cymdeithas Bel-droed Cymru ac effaith y pencampwriaethau sydd i ddod. Gallwch wylio’r recordiad byw i wrando ar y drafodaeth lawn. A gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar dudalen digwyddiadau’r ysgol, lle bydd Sesiynau Hysbysu dros Frecwast yn y dyfodol yn cael eu rhestru. Mae’r ddwy sesiwn olaf yn 2022 eisoes wedi’u hamserlennu:

Ein cynfyfyrwyr sydd wedi creu newid

30ish Award winnersAc ar nodyn i gloi, rydym yn llongyfarch holl gynfyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd a gymerodd ran yng Ngwobrau (tua)30 oed cyntaf y brifysgol. Cafodd Liz Tan (BSc 2004), Jon Szehofner (BSc Econ 2007), Oli Cook (BSc Econ 2007), Hosanna Hali (BSc 2016, MSc 2018) a George Bellwood (BSc 2019) gydnabyddiaeth am gyflawniadau ar draws categorïau amrywiol, yn amrywio o entrepreneuriaeth a gweithredaeth amgylcheddol i weithredu tegwch ac arloesedd.

Mae’n wych gweld cynifer o gynfyfyrwyr yn defnyddio’r wybodaeth a enillwyd yn ystod eu hastudiaethau, ochr yn ochr â’u sgiliau a’u profiadau proffesiynol, mewn meysydd amrywiol ac er lles arferion busnes a chymdeithas. Mae pob un ohonynt yn ymgorffori ein hegwyddorion o ran gwerth cyhoeddus a chred mewn newid er gwell. Mae gweld eu cyflawniadau a chlywed amdanynt yn rhoi cymaint o foddhad. Da iawn a diolch i gymuned gyfan cynfyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd am wneud gwahaniaeth a chael effaith ar gymunedau yng Nghymru, y DU a ledled y byd.

Dwi’n meddwl bod hynny’n ddigon o newyddion am y tro! Byddaf yn cysylltu cyn bo hir i roi rhagor o ddiweddariadau. Rydym hefyd yn gobeithio mynd ar daith a chwrdd â chynifer ohonoch â phosibl dros y flwyddyn i ddod. Yn y cyfamser, dymuniadau gorau i chi gyd. Cofiwch gadw mewn cysylltiad a bod croeso cynnes i chi yma yng Nghaerdydd bob amser – yn eich ysgol busnes chi.

Yr Athro Rachel Ashworth
Deon Ysgol Busnes Caerdydd