Skip to main content

Bossing ItCyswllt CaerdyddGyrfaoeddNewyddion

Peidiwch â Phryderu am y Peiriant: Diogelu dyfodol eich gyrfa yn oes deallusrwydd artiffisial (DA) – Bossing It

18 Mehefin 2026

Chwilfrydig am beth sydd gan ddyfodol gwaith i’w gynnig? Wrth i dechnoleg ddatblygu, felly hefyd y mae’r cyfleoedd i dyfu a llwyddo. O feithrin sgiliau y mae galw amdanyn nhw i gadw’n addasadwy, gofynnon ni rai o’n rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr gwych i rannu eu hawgrymiadau ar gyfer diogelu eich gyrfa yn y dyfodol.

Yaman Sood (MSc 2022)

Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd gyda MSc mewn Cyfrifiadureg Uwch, mae Yaman wedi datblygu ei yrfa ar groesffordd rhwng cyllid a thechnoleg. Yn rheoli systemau cyllid ar gyfer Lloyds Wealth ar hyd o bryd, mae’n gweithio ar drawsnewid systemau a phrosesau cyllid.

Byddwch yn chwilfrydig, nid yn ofnus

Meddyliwch am DA fel rhywbeth y bydd yn cynyddu eich capasiti, nid cymryd eich lle Rwy wedi gweld hyn yn uniongyrchol yn fy rôl fel rheolwr systemau cyllid, lle gall DA ac awtomeiddio helpu i ailfeddwl prosesau llafurus fel prosesu anfonebau, adrodd a gwirio data. Yn fy mhrofiad i, mae DA yn ychwanegu gwerth dim ond pan fydd yn cael ei baru a chrebwyll busnes da. Byddwch yn chwilfrydig, nid yn ofnus. Dysgwch ddigon i gwestiynu DA, ei arwain a’i ddefnyddio’n gyfrifol gan mai dyna lle byddwch chi’n gweld mantais gyrfa go iawn yn dod yn fyw.

Dimana Markova (BA 2017)

Mae Dimana Markova yn gynghorydd marchnata cynnwys ac yn sylfaenydd Down To Earth Marketing, sy’n helpu cwmnïau i droi syniadau cymhleth yn gynnwys clir a diddorol. Gyda thros saith mlynedd o brofiad ar draws strategaeth a gweithredu, mae hi’n arbenigo mewn arweinyddiaeth meddwl, marchnata cynnwys, optimeiddio peiriannau chwilio, a negeseuon brand sy’n cysylltu â chynulleidfaoedd go iawn ac yn ysgogi tyfiant.

Rhowch gynnig ar DA i fireinio eich allbwn, ond ailgydiwch yn eich sgiliau dynol

Rwy’n gweithio ym maes marchnata cynnwys, lle rwy’n defnyddio geiriau i bontio’r bwlch rhwng busnes a’i gynulleidfa. Gall DA fy helpu i ddewis rhai o’r geiriau hynny, ond ni all ddisodli’r cyd-destun y tu ôl iddyn nhw.

Mae gwneud hyn yn dda yn gofyn am ddealltwriaeth gref o anghenion busnes, y gallu i gynnal cyfweliadau effeithiol â rhanddeiliaid a’r rheolaeth prosiect i ddod â phopeth at ei gilydd.
Fy nghyngor i yw rhowch gynnig ar DA i fireinio eich allbwn, ond ailgydiwch yn eich sgiliau dynol. Byddwch yn chwilfrydig, byddwch yn empathetig â’ch darllenwr ac ysgrifennwch yn ddiffuant – oherwydd dyna sy’n gwneud i bobl fod eisiau darllen yr hyn rydych chi’n ei greu.

Tyrone Stewart (MSc 2022)

Mae Tyrone Stewart yn Rheolwr Cynnyrch yn Nisien AI, lle mae’n gweithio ar gynhyrchion sy’n seiliedig ar DA sy’n canolbwyntio ar niwed ar-lein, camwybodaeth a deallusrwydd risg digidol. Ers graddio, mae wedi gweithio ym meysydd DA, seiberddiogelwch ac arloesi mewn busnesau newydd, gan helpu i ddatblygu cynhyrchion sy’n cwmpasu cudd-wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, canfod twyll, a phlatfformau SaaS menter. Ochr yn ochr â’i waith â chynhyrchion, mae Tyrone wedi cefnogi sylfaenwyr newydd drwy fentora a mentrau datblygu busnesau newydd yn ecosystem technoleg Cymru.

Cyfuno addasrwydd, cyfathrebu a chwilfrydedd technegol â pherthnasoedd dynol cryf

Bydd eich rhwydwaith a’ch gallu i weithio gyda phobl yn dod yn fwy gwerthfawr, nid yn llai gwerthfawr! Gall DA awtomeiddio tasgau, ond ni all ddisodli ymddiriedaeth, perthnasoedd na’r gallu i ddeall problemau pobl yn wirioneddol.

Mae llawer o’r cyfleoedd rwy wedi’u cael ers gadael Prifysgol Caerdydd wedi dod drwy sgyrsiau, cymunedau, a chadw mewn cysylltiad â phobl ar draws technoleg, busnes a’r byd academaidd. Dyma pam rwy yma yn Nisien nawr. Siaradwch â darlithwyr, ewch i ddigwyddiadau, anfonwch negeseuon at gyn-fyfyrwyr a byddwch yn chwilfrydig am yr hyn y mae pobl eraill yn ei adeiladu.

Y bobl a fydd yn ffynnu ochr yn ochr â DA yw’r rhai sy’n cyfuno addasrwydd, cyfathrebu a chwilfrydedd technegol â pherthnasoedd dynol cryf.

Yn barod i gysylltu â chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch â’n grŵp LinkedIn a dechrau rhwydweithio.