Dathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr 2026
26 Mai 2026
Dathlu 7,853 o oriau o gyn-fyfyrwyr yn gwirfoddoli
Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol a gynhelir o ddydd Llun 1 Mehefin i ddydd Sul 7 Mehefin i gydnabod cyfraniad miliynau o bobl ledled y DU trwy wirfoddoli yn eu cymunedau.
Bob blwyddyn, mae ein cyn-fyfyrwyr gwych sy’n gwirfoddoli yn cael effaith enfawr ar bopeth a wnawn yma ym Mhrifysgol Caerdydd, boed hynny wrth gefnogi myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr eraill drwy gynlluniau mentora, eistedd ar fyrddau’r Brifysgol, bod yn rhan o gangen cyn-fyfyrwyr, dychwelyd i Brifysgol Caerdydd i roi cyflwyniad ar yrfaoedd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o raddedigion, neu gynnig interniaethau i’n myfyrwyr. Dysgwch fwy am wirfoddoli.
Rydyn ni am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn arbennig i bob un o’n cyn-fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli. Mae eich cefnogaeth chi yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gymuned Prifysgol Caerdydd.

Mae ein cyn-fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli wedi rhannu eu profiadau a sôn am y boddhad maen nhw’n ei gael wrth wneud hynny.
Maddison Coomber (LLB 2023)
Ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, mae’r rhaglen Llwybrau at y Gyfraith yn cefnogi myfyrwyr talentog ysgolion a cholegau lleol i ystyried y sector cyfreithiol. Daeth Maddison yn ôl i’r Brifysgol i sgwrsio â grŵp o 50 o fyfyrwyr Blwyddyn 12 am eu profiadau o ymuno â byd y gyfraith a sut beth yw’r proffesiwn mewn gwirionedd. Rhagor o wybodaeth.
“Dyma oedd y trydydd tro i mi wirfoddoli, ac rwy’n mwynhau dal i fyny â’r staff a ddylanwadodd ar fy mhrofiad a chwrdd â myfyrwyr sydd ar ddechrau eu profiadau eu hunain. Mae wir yn cwblhau’r cylch. Pan oeddwn i’n fyfyriwr, roedd clywed gan gyn-fyfyrwyr yn gwneud i ddyfodol ym maes y gyfraith deimlo’n llai haniaethol ac yn fwy cyraeddadwy. Trodd ‘Ryw ddydd, rwy’n gobeithio…’ yn ‘Mae hyn yn bosibl i mi.’”
Hannah Williams (BSc 2014)
Roedd Hannah yn fentor yn ein cynllun Menywod yn Mentora 2026 a welodd 24 o fentoriaid sy’n gyn-fyfyrwyr yn cael eu paru â mentoreion sy’n gyn-fyfyrwyr ar ddechrau eu gyrfa.
“Mae’r profiad wedi bod yn ddymunol ac yn fuddiol i bawb. Rwy wir wedi gwerthfawrogi cyfle i rannu fy safbwynt, wrth hefyd edrych yn ôl ar fy nysgu fy hun drwy’r sgyrsiau hyn. Braint go iawn oedd cael fy newis yn un o’r 24 o fentoriaid sy’n gyn-fyfyrwyr, ac rwy’n ddiolchgar iawn o fod wedi bod yn rhan o’r rhaglen eleni. Mae mentora yn un o’r cyfleoedd prin hynny lle rydych chi’n rhannu dealltwriaeth ond yn ei chael yn ôl ar ei chanfed– ac mae’r profiad hwn wedi bod yn union hynny.”
Dale Perrett (BScEcon 1989)
Dale yw un o’r cyfarwyddwyr a sefydlodd Novo Executive Search and Selection ac mae’n angerddol dros feithrin y genhedlaeth nesaf o dalent. Dros lawer o flynyddoedd, mae Novo wedi cynnig profiad yn y byd go iawn, mentora proffesiynol a llwybr i swydd ar ôl graddio i fyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd. Rhagor o wybodaeth.
“Mae myfyrwyr ar leoliad yn dod â safbwyntiau newydd i’r busnes. Maen nhw’n herio rhagdybiaethau mewn ffordd adeiladol ac yn aml yn sylwi ar bethau nad yw eraill wedi’u hystyried. “Mae llawer o’n graddedigion wedi dod drwy’r llwybr hwn, sy’n golygu eu bod yn ymuno â ni eisoes yn deall ein diwylliant a’n disgwyliadau. Mae rhywbeth unigryw am fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd. Maen nhw’n dueddol o fod yn bragmatig, yn feddylgar, ac yn fasnachol ymwybodol yn gynharach na llawer. Roedd cynnig lleoliadau yn caniatáu i ni roi profiad go iawn i fyfyrwyr tra ein bod hefyd yn adeiladu ffrwd o weithwyr talentog y dyfodol ar gyfer Novo. Mae partneriaethau cryf yn creu llif dwy ffordd o werth. Mae Prifysgolion yn cael cipolwg ar y diwydiant, ac mae sefydliadau yn cael mynediad cynnar at dalent newydd.”
Mina Okuru Addico (MA 2019)
Mina yw un o arweinwyr Cangen Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn Ghana. Rhagor o wybodaeth am Ganghennau Cyn-fyfyrwyr.
“Ers dychwelyd i Ghana yn 2019 ar ôl fy astudiaethau, rwy wastad wedi bod eisiau dwyn ynghyd bobl o Ghana a astudiodd ym Mhrifysgol Caerdydd – wedi’r cyfan, cafodd rhai o’r meddyliau disgleiriaf sy’n cyfrannu at Ghana heddiw eu hyfforddi yno. Gweithio gyda’r swyddfa cysylltiadau â chyn-fyfyrwyr i wireddu’r weledigaeth hon oedd yn ffordd berffaith i’w wneud. Roedd arwain lansiad Cangen Ghana Prifysgol Caerdydd yn bleser. Rhoddodd gyfle i mi gysylltu â chyn-fyfyrwyr rwy’n edmygu eu gwaith a’u heffaith yn fawr ar draws gwahanol feysydd, a chreu platfform ar gyfer rhwydweithio, rhannu gwybodaeth a chreu effaith ar y cyd yn Ghana.”
Emma Barlow (BA 2009)
Cymerodd Emma ran yn rhaglen mentora gyrfaoedd y Brifysgol a chafodd ei pharu ag Erin, sy’n fyfyriwr. Gwnaeth Emma ac Erin gysylltu yn gyflym ac arweiniodd yr hyn a ddechreuodd fel cyfres o sesiynau mentora ar-lein at interniaeth, gan roi cyfle i Erin gael profiad ymarferol. Rhagor o wybodaeth.
“Ar ôl sawl sesiwn ar-lein gydag Emma, daeth yn amlwg ein bod wedi sefydlu perthynas dda, ac roeddwn i wedi rhannu llawer am fy ngwaith a’r diwydiant. Roeddwn i’n gwybod y byddai profiad gwaith yn werthfawr – fel yr oedd wedi bod i mi – a byddai Erin yn ffitio i mewn yn berffaith yn Northstar. Diolch byth, cytunodd fy nghyfarwyddwyr gwych.” Adeiladodd yr interniaeth ar y pethau roedden nhw wedi’u trafod yn ystod eu sesiynau mentora a rhoddodd gyfle i Erin weld yn uniongyrchol sut mae’r diwydiant yn gweithio.”
Ni fyddai’n bosib cyflawni’r hyn rydyn ni’n ei wneud heb wirfoddolwyr gwych, felly os hoffech chi roi rhywbeth yn ôl, dewch i gymryd rhan. Darganfod mwy.
- Awst 2026
- Mehefin 2026
- Mai 2026
- Mawrth 2026
- Ionawr 2026
- Tachwedd 2025
- Medi 2025
- Gorffennaf 2025
- Mehefin 2025
- Mai 2025
- Ebrill 2025
- Mawrth 2025
- Chwefror 2025
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018