Skip to main content

Bossing ItCyswllt CaerdyddNewyddion

Sut i lwyddo yn eich cyfweliad nesaf – Bossing It

27 Hydref 2023

Gwych — rydych chi wedi cael gwahoddiad i gyfweliad am swydd newydd a chyffrous, ond beth nesaf!? Yn aml, bydd aros am gyfweliad yn gallu codi braw ar rywun, ond drwy baratoi’n effeithiol amdano, byddwch chi’n dawel eich meddwl wrth wybod y gallech fynd i’r afael ag ef yn llawn hyder. Cawson ni sgwrs gyda rhai o’n cyn-fyfyrwyr gwych, ac maen nhw wedi rhannu awgrymiadau da iawn ar sut i lwyddo yn eich cyfweliad nesaf.

Owain Gronow (BEng 2009, MSc 2010)

Mae Owain yn Beiriannydd Sifil Siartredig ac yn Brif Beiriannydd Sifil yn gweithio yn y sector pontydd, yn dylunio ac yn asesu pontydd. Ar hyn o bryd mae Owain yn gweithio ar Reilffyrdd Craidd y Cymoedd gydag Amey, yn cefnogi’r gwaith trawsnewid sydd ar y gweill o ran y rhwydwaith rheilffyrdd yn y De a datblygu’r Metro.

Mae parodrwydd a brwdfrydedd yn allweddol.

Os ydych chi wedi cael eich gwahodd i gyfweliad, mae hynny’n dangos bod gennych chi’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol ar gyfer y rôl. Yr hyn fydd yn eich gwneud yn wahanol i’r sawl sydd yn cystadlu yn eich erbyn nawr, yw’r cyfweliad. Mae cyfweliad llwyddiannus yn dibynnu ar eich ateb i gwestiynau a sut rydych chi’n cyflwyno’ch hun. Paratowch ar gyfer y cyfweliad gan ymchwilio i’r cwmni, y rôl a cheisio cwrdd ag aelodau posibl o’r panel cyfweld – efallai y byddant yn rhoi awgrymiadau i chi ynghylch pa gwestiynau y gellid eu gofyn. Yn aml, mae gan gyflogwyr ddiddordeb yn p’un ai ydych chi a’r tîm yn mynd i weddu i’ch gilydd, felly dangoswch frwdfrydedd a gofyn cwestiynau sy’n dangos eich bod yn awyddus.

Nadine Lock (BA 2001)

Astudiodd Nadine Lock (BA 2001) ar y cwrs Llenyddiaeth Saesneg gyda Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn cwblhau ei TAR. Arweiniodd waith Nadine gyda phobl at yrfa ym maes Adnoddau Dynol a Recriwtio yn y Sector Preifat a’r Trydydd Sector ar gyfer Co-operative Bank, Adecco a Hays. Mae Nadine wedi bod yn gweithio gyda Gofal Canser Tenovus am y deng mlynedd diwethaf, a nawr, mae hi ar secondiad lle mae hi’n rheoli recriwtio, a hithau ar gyfnod o flwyddyn seibiant o’i rôl yn Rheolwr yn yr adran Adnoddau Dynol a Gwirfoddoli.

Gweld cyfweliadau yn gyfle i’r ddwy ochr.

Yn sicr, gall cyfweliad beri i ni gyd deimlo ofn weithiau. Ond, efallai y dylem ei ail-fframio pethau yn y meddwl. Gallwn edrych ar y cyfweliad fel sgwrs lle byddwch chi a’r sawl sy’n cynnal y cyfweliad yn casglu gwybodaeth. Felly, dyma’r amser i chi wirio mai dyma’r lle iawn i chi o ran bod yn le i chi wneud yr hyn rydych chi’n ei wneud yn dda, a dysgu a datblygu hefyd.

Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau i ganfod hyn a dangoswch fod gennych ddiddordeb gwirioneddol yn y cyfle. Gwnewch nodiadau ynghylch eich cwestiynau, a gallwch gyfeirio atynt yn y cyfweliad os yw hynny’n helpu. A, gofynnwch ar y diwedd a ydych chi wedi ymdrin â’r hyn oedd ei angen ar y cyfwelydd cyn diolch iddyn nhw am eu hamser.

Mae cyfwelwyr yn chwilio am sgiliau trosglwyddadwy cryf fel sgiliau datrys problemau, creadigrwydd, rhesymeg a sut rydym yn mynd ati i gyfathrebu. Byddant yn asesu a allwch ychwanegu’r pethau hynny i’r tîm ac ychwanegu gwerth. Felly, gwrandewch ar y cwestiynau, gan oedi a chymryd amser i feddwl am eich atebion i sicrhau eich bod chi’n dweud wrthyn nhw pam y dylen nhw fuddsoddi ynoch chi.

Joe Lowe (BA 2020)

Astudiodd Joe Lowe (BA 2020) Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd a dechreuodd weithio yn Admiral Group PLC ar yr un adeg ac yr oedd yn astudio. Aeth ymlaen wedyn i reoli rhaglenni cylchdro Admiral ar gyfer datblygu talent (gan gynnwys eu rhaglenni ar gyfer graddedigion). Mae hyn yn golygu creu llif o bobl dalentog sydd â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i sicrhau eu twf a’u llwyddiant yn y dyfodol. Mae Joe wedi dechrau yn ei rôl newydd yn ddiweddar yn Arweinydd Gweithrediadau Data – yn Academi Data Admiral.

Dychmygwch eich hun yn y rôl.

Fy un darn o gyngor ynghylch cyfweliadau fyddai meddyliwch am sut y byddwch chi’n gwneud y rôl – sut fydd eich 30 diwrnod cyntaf, 90 diwrnod, blwyddyn? Bydd canolbwyntio ar sut y byddech chi’n gwneud y swydd yn hytrach na chanolbwyntio ar sicrhau’r swydd yn unig yn llywio’ch ymchwil ac yn eich helpu i baratoi mewn ffordd gyflawn, ymarferol a dilys yn hytrach na thrwy roi atebion generig.

Snow Thant (BSc 2018)

Graddiodd Snow Thant (BSc 2018) o Brifysgol Caerdydd gyda gradd ym maes Niwrowyddoniaeth cyn dechrau ei gyrfa ym maes recriwtio. Mae Snow bellach yn Uwch Gydymaith Recriwtio Myfyrwyr yn PwC.

Gwnewch eich gwaith ymchwil!

Fy nghyngor mwyaf ynghylch cyfweliadau yw gwnewch eich ymchwil! Ymchwiliwch i’r cwmni a’r rôl, ac os gallwch chi, ceisio gair â’r sawl fu’n ymgymryd â’r rôl o’ch blaen chi. Defnyddiwch offer fel Google, gwefan y cwmni, GlassDoor a LinkedIn. Mae eich profiad yn bwysig ond mae’n bwysicach fyth bod y cyflogwyr yn gwybod eich bod yn deall y cwmni, ei ddiwylliant, a’r rôl. Eich gwybodaeth fydd yn gwneud i chi fod ar y blaen o blith yr ymgeiswyr eraill, fydd yr un mor addas ar gyfer y swydd â chi.

Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw o bobl sy’n barod iawn eu cymwynas ac yma i’ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Gallwch bori drwy eu cyngor a’u hawgrymiadau ar ystod eang o bynciau busnes yn ein cyfres ‘Bossing It’.