Skip to main content

#TeamCardiffEin Cyn-fyfyrwyrNewyddion

Codwyr arian #TeamCardiff yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd

28 Medi 2023

Ddydd Sul 1 Hydref, gwnaeth dros 100 o gynfyfyrwyr, myfyrwyr a staff yn rhedeg Hanner Marathon Principality Caerdydd fel rhan o #TeamCardiff. Mae’r tîm wedi cyrraedd eu targed codi arian o £25,000 ond bydd pob ceiniog ychwanegol a godir yn mynd i gefnogi niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd, ac ymchwil canser.

Gwnaeth tua 30 aelod o’n cymuned o gynfyfyrwyr fynd ar daith 13.1 milltir drwy’r ddinas i redeg 20fed Hanner Marathon Caerdydd. Gyda’i gilydd, bydd ymdrechion #TeamCardiff yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gan helpu i gyflymu darganfyddiadau a datblygu triniaethau ar gyfer ystod o gyflyrau.

Cefnogwch #TeamCardiff

Gallwch ddal i gefnogi ein rhedwyr #TeamCardiff drwy eu tudalennau JustGiving unigol neu drwy gyfrannu at y tîm cyfan.

Ein tîm o redwyr sy’n gyn-fyfyrwyr

Reza Ahmadian (PhD 2010)

Nadeem Akhtar (BSc 2014)

Elizabeth Beaumont (BSc 1997, MSc 2007)

Jonathan Brooks-Jones (MA 2010)  

Lauren Constance (BA 2019)  

James Daly (MESci 2017)

Leila David (MSc 2011)

Camilla Edlin (BSc 2000)

Dr Michelle Edwards (MSc 2008, PhD 2011) 

Chloe Evans (BA 2014)

Hannah Furness (BSc 2021)   

Tara Halliday (BA 2010)

Dr Patrick Hardinge (PhD 2015)  

Rhys Hughes (BScEcon 2022)  

Madison Hutchinson (BSc 2023)  

Toby Kerry-Campbell (BEng 2023)

Emyr Kreishan (MSc 2021)

Aled Lewis (BA 2002)

Mollie Lewis (BSc 2022)  

Joshua Little (MEng 2019)

Dr Angharad Naylor (BA 2003, PhD 2010)

Oliver Newbery (BA 2022)

Deio Owen (BA 2023)

Paolo Rosario (MBioMed 2018)

Ali Shahid (BSc 2022)   

Reverend David Sheen (BA 2004, MA 2008)  

Kai Silver (MEng 2021)  

Katy Thomas (BA 2004)  

James Touhey (BSc 2021) 

Sam Welsh (BScEcon 2023)  

Nick Whiteside (BSc 1998)  

Darren Xiberras (BScEcon 1993) 

Ymunwch â’r tîm yn 2024

Diddordeb mewn rhedeg gyda #TeamCardiff y flwyddyn nesaf? Gallwch nawr rag-gofrestru eich diddordeb yn Hanner Marathon Caerdydd 2024.  

Fel arall, gallwch Ddewis eich Her a chodi arian mewn ffordd sy’n addas i chi. Os hoffech chi ddarganfod mwy am godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd, cysylltwch â Steph Cuyes, Swyddog Codi Arian Cymunedol drwy donate@caerdydd.ac.uk.