Skip to main content

#TeamCardiffCyswllt CaerdyddI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Rhedeg am eich bywyd – sut all rhedeg helpu eich iechyd meddwl – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

20 Tachwedd 2023

Mae George Watkins (BA 2018) yn rhedwr Hanner Marathon Caerdydd profiadol ac yn gyn-Swyddog Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn 2018, 2019 a 2022, rhedodd yn rhan o #TeamCardiff, gan godi arian ar gyfer gwaith ymchwil hanfodol Prifysgol Caerdydd ym maes niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl. Yma, mae George yn rhannu ei daith gyda rhedeg a’i iechyd meddwl ei hun. 

Mae rhedeg marathon yn syniad ofnadwy. Sylweddolais i hwn ar ôl rhedeg tua 15 milltir yng nghyrion Manceinion, wrth i mi lusgo un goes ddolurus o flaen y llall ar fore Sul arferol. Ond wrth i mi basio Costa Coffee a Tesco yng nghanol Altrincham, ddechreuais i grio.

O rasio wedi gwisgo fel Siôn Corn fel plentyn i gystadlu ar drac go iawn, roeddwn i’n arfer cael trafferth esbonio pam fy mod i’n cael fy nhynnu at redeg. O’n i jest yn gwybod bod unrhyw esgus i wisgo esgidiau a gadael y tŷ yn ddigon da i fi. Dim ond pan ddechreuais i brofi broblemau gyda fy iechyd meddwl y sylweddolais pa mor bwysig oedd hyn i mi.

Un noson aeaf pan oeddwn yn fy arddegau, roeddwn i’n eistedd gartref a phrofais yr hyn a sylweddolais yn ddiweddarach oedd fy ymosodiad panig cyntaf. Rhedais allan o’r tŷ a dechrau loncian o gwmpas y cae lle roeddwn yn cerdded y ci. Daeth fy mam gyda fi – fe wnaethon ni mwynhau gyda’n gilydd nes i’r adrenalin tawelu ac roeddwn i’n teimlo’n ddigon blinedig i stopio.

Roedd gorbryder yn her oedd yn dominyddu fy llencyndod a drwy gydol fy mywyd. Byddwn yn gwneud penderfyniadau ynghylch ble i gerdded, beth i’w wneud a sut i ymddwyn yn seiliedig ar y ffiniau yr oeddwn yn ei chael fy hun yn fwyfwy caeth ynddynt. Roedd y cyfan yn ganfyddiad o’r hyn y gallwn i ac na allwn ei wneud, ond roedd yn deimlad pwerus tu hwnt. Hyd yn oed pan ddes i Brifysgol Caerdydd i astudio yn 2015, eisteddais ar flaen y ddarlithfa i fod ger y drws, gwrthodais fynd i ddigwyddiadau cymdeithasol ac roeddwn yn teimlo’n hiraethus.

Wedi diflasu un noson ar ôl i’r darlithoedd ddod i ben, es i allan i redeg am y tro cyntaf ers amser maith. Ro’n i wedi anghofio’r teimlad o fy ngwaed yn rhuthro i fy mochau, wrth i wynt oer Caerdydd chwythu yn fy wyneb. Yn 2016, fe wnes i gofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd, ac er bod gen i ofn llwyddais i’w orffen, ac roeddwn i wrth fy modd.

Mae iechyd meddwl yn aml yn cael ei bortreadu mewn diwylliant poblogaidd fel brwydr. Fel rhywbeth y mae angen i ni ei wrthsefyll. Fel problem y mae angen ei datrys. Mae’n llawer haws trafod iechyd meddwl y dyddiau hyn nag erioed o’r blaen, ond i lawer ohonom gall deimlo fel rhywbeth i fod â chywilydd ohono, rhywbeth a all wneud i ni deimlo fel ein bod wedi methu. Rydym yn anghofio y gall pob un ohonom brofi iechyd meddwl gwael yn ystod cyfnodau anodd yn ein bywydau. Gall hyn gael ei achosi gan unrhyw beth, o newid mawr yn eich bywyd i gwpl o nosweithiau gwael o gwsg.

Mae’n well gweld eich iechyd meddwl fel peth i’w ymarfer, fel eich cyhyrau. Yn sicr, nid yw cynnydd bob amser yn llinol. Yn fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, cymerais seibiant o redeg oherwydd roeddwn i’n profi cyfnod anodd gydag iselder, lle roeddwn i’n teimlo’n fel lladd fy hun. Llwyddais i gael yr help yr oeddwn ei angen gan dimau cymorth lles y Brifysgol. Roeddwn i’n teimlo’n fwy parod i ymarfer fy lles personol a gwneud y pethau roeddwn i’n gwybod byddai’n fy helpu i fynd yn ôl ar y trywydd iawn. Gorffennais y flwyddyn yn ymgeisio i fod yn Swyddog Iechyd Meddwl cyntaf Undeb y Myfyrwyr. Roedd ennill yn teimlo fel llwyddiant personol, ond roedd cael y cyfle i wrando ar leisiau myfyrwyr yn teimlo hyd yn oed yn fwy ystyrlon.

Y flwyddyn ddiwethaf hon oedd yr hapusaf tra dwi wedi bod yn rhedeg. Mae fy amserau gorau personol yn gwella yn raddol, gan fy mod yn teimlo’n gryfach ac yn gryfach. Yn anffodus, collais y ci yr oeddwn i’n arfer rhedeg ag ef y llynedd, felly roedd yn teimlo fel yr amser iawn i gymryd y naid a chofrestru ar gyfer Marathon Manceinion. Tynnais datŵ bach o ddau glust ci ar fy arddwrn i gadw fy hun yn frwdfrydig yn ystod y ras. Yn sicr, fe helpodd pan roedd hi’n arllwys y glaw wrth i ni blymio’n ôl tuag at ganol y ddinas, a rhedodd foi a oedd yn jyglo ar gyfer y ras gyfan heibio.

Y broblem fawr gyda rhedeg yw na waeth faint rydych chi’n ei gasáu, rydych chi’n tueddu i ddod yn ôl bob amser. Efallai mai dewis personol yw marathonau.

Gallwch ddilyn George ar X yma.

Bydd ras y flwyddyn nesaf yn cael ei chynnal ddydd Sul 6 Hydref, a gallwch chi bellach wneud cais am un o’r ychydig leoedd elusennol #TeamCardiff. Fel arall, dewiswch ddigwyddiad rhedeg arall i redeg dros #TeamCardiff neu dyluniwch eich her weithredol eich hun gyda ‘Dewis eich Her‘.

Mae gwaith codi arian #TeamCardiff yn cefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd i’r niwrowyddorau, iechyd meddwl, a chanser. Drwy gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch chi helpu i ddod o hyd i ddarganfyddiadau yn gyflymach. Bydd hyn yn newid bywydau er mwyn gwella’r gwaith o atal, rhoi diagnosis a chynnig triniaeth i bobl sy’n byw gydag ystod eang o gyflyrau.