Skip to main content

Bossing ItCyswllt CaerdyddNewyddion

Pŵer sgiliau trosglwyddadwy – Bossing It

27 Mehefin 2023

Gall datblygu sgiliau trosglwyddadwy fod yn amhrisiadwy i’ch dilyniant, boed hynny drwy wirfoddoli, profiad personol neu drwy eich astudiaethau prifysgol. Buom yn siarad ag aelodau o’n cymuned anhygoel o gynfyfyrwyr sydd wedi rhannu eu doethineb ynghylch sut y gall y sgiliau hyn fod o fudd i chi wrth ddechrau ar eich gyrfa.

Lauren Humphreys (BA 2015)

Graddiodd Lauren (BA 2015) o Brifysgol Caerdydd gyda gradd mewn Crefydd a Diwinyddiaeth yn 2015. Ers graddio mae Lauren wedi dilyn gyrfa ym maes Adnoddau Dynol ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Rheolwr AD. Mae hi’n gyfrifol am bob elfen o’r cylch bywyd cyflogaeth, yn ogystal â datblygu strategaethau sy’n cyd-fynd â nodau busnes, gweithredu datrysiadau ar draws ystod o fentrau a phrosiectau AD, a rhoi cyngor ac arweiniad arfer gorau i’r sefydliad.

Ewch ar drywydd yr hyn rydych chi’n dod o hyd i werth personol ynddo

Byddwn yn eich annog yn llwyr i ystyried y rhesymau dros ddewis eich gradd, a’r hyn yr ydych wedi’i ddysgu’n ymddygiadol amdanoch chi eich hun trwy eich astudiaethau i greu eich brand personol a datblygu eich llwybr gyrfa. Dilynais y radd roeddwn wedi’i dewis gan fod gennyf ddiddordeb mewn pobl a’u cymhellion. Trwy werthuso a deall eu barn a’u credoau, rwyf wedi medru trosglwyddo’r diddordeb hwn a dysgais sgiliau empathi a dylanwadu i’w cymhwyso i sefyllfaoedd yn fy ngyrfa.  Trwy gydol fy astudiaethau roedd yn ofynnol i mi werthuso gwybodaeth a gwneud argymhellion ac rwyf nawr yn cymhwyso’r sgiliau trosglwyddadwy hyn i greu a chymhwyso strategaethau ac atebion sy’n canolbwyntio ar bobl.

Mae Deallusrwydd Emosiynol yn sgil trosglwyddadwy gwerthfawr

Un darn o gyngor y byddwn yn ei rannu yw, os ydych chi’n medru adnabod, deall a rheoli’ch emosiynau, yn ogystal ag adnabod a dylanwadu ar yr emosiynau sy’n eich amgylchynu mewn unrhyw amgylchedd cydweithredol, byddwch chi’n medru ysgogi ac arwain yn llwyddiannus. Gellir cymhwyso hyn i ystod eang o osodiadau mewn busnes, chwaraeon, amgylcheddau cymdeithasol ac ymdrechion personol. Mae deallusrwydd emosiynol yn sgil gwerthfawr mewn amgylcheddau rheoli newid ac wrth weithio’n agos gydag ystod o randdeiliaid, boed yn datblygu theori, ymchwil neu arfer newydd yn eich maes.

Lizzie Romain (BMid 2014)

Cymhwysodd Lizzie (BMid 2014) gydag Anrhydedd Dosbarth 1af fel Baglor mewn Bydwreigiaeth yn 2014, ac mae bellach yn ymarfer rhan-amser fel Bydwraig i gynnal ei chofrestriad proffesiynol. Symudodd Lizzie i yrfa lawn amser fel newyddiadurwraig/cynhyrchwraig ar gyfer sianel newyddion yn y DU yn 2022, yn dilyn tair blynedd o gyflwyno a chynhyrchu ar gyfer Hayes FM 91.8 a Future Hits Radio.

Pwysigrwydd sgiliau trosglwyddadwy wrth newid eich gyrfa

Er roeddwn yn hoff iawn o weithio fel bydwraig amser llawn, sylweddolais fod yna ymdrechion creadigol eraill yr yswn am eu dilyn a na allwn anghofio amdanynt, ac roeddwn i’n barod i ymgymryd â’r her i newid.

Y peth gwych am weithio ym maes gofal iechyd yw eich bod yn datblygu ac yn hogi sgiliau trosglwyddadwy allweddol, sy’n ddeniadol i unrhyw ddarpar gyflogwr: y gallu i beidio â chynhyrfu dan bwysau, gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm amlddisgyblaethol, sgiliau cyfathrebu cryf iawn, cadw amser yn ddiwyd… mae’r rhestr yn hirfaith.

Mae’r sgiliau hyn yn sicr wedi bod yn hylaw wrth gymryd naid ffydd i’m swydd ddarlledu gyntaf fel newyddiadurwraig/cynhyrchwraig ar gyfer sianel newyddion yn y DU. Mae cadw’n bwyllog mewn ystafell newyddion fyw mor bwysig ar gyfer dynameg ehangach, ac mae cyfathrebu’n effeithiol â chydweithwyr wrth allbynnu newyddion sy’n torri yn hanfodol ar gyfer cynnal cyflymder a chywirdeb.

Roedd hi’n anodd newid gyrfaoedd yn fy ugeiniau hwyr, ond os weithiwch chi’n galed, ychwanegu ychydig o gyfleoedd amserol a thamaid o lwc, bydd y sgiliau trosglwyddadwy a ddysgwyd ar ddechrau eich gyrfa yn mynd â chi drwodd i’r brig…ond cofiwch fwynhau’r daith!

Gabby Kitney (BSc 2012)

Gabby yw Pennaeth Marchnata – Gogledd America yn The SR Group ac mae wedi bod yn gweithio ym maes cyfathrebu marchnata ers mwy na deg mlynedd ar ôl iddi weithio i frandiau megis Vistra, CFA Institute a Deloitte. Ymhell cyn ymwneud â maes cyfathrebu marchnata, dechreuodd chwarae hoci cae yn chwech oed – gan fynd ymlaen i chwarae dros dîm cenedlaethol Hong Kong am fwy na degawd. Chwaraeodd Gabby mewn nifer o dwrnameintiau’r FIH ar draws Asia, yn ogystal ag mewn nifer o gemau cyfeillgar yn erbyn timau a oedd yn paratoi ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Beijing. Drwy gydol ei hamser yn yr ysgol a’r brifysgol, bu hefyd yn ymwneud â phêl-droed, bocsio, athletau a thraws gwlad. Er bod anaf yn ei gorfodi i ailystyried chwaraeon cystadleuol, parhaodd i chwarae a hyfforddi hoci yn Hong Kong a bellach yn Efrog Newydd.

Cyfathrebu yw’r allweddair

Mae cymaint sydd wedi fy mharatoi ar gyfer fy sefyllfa bresennol ond does yr un dim sy’n debyg i chwaraeon – yn enwedig fy 25+ o flynyddoedd yn chwarae hoci. Mae cynifer o wersi a sgiliau rwy wedi’u dysgu o fyd chwaraeon sydd wedi cyfrannu 100% at lwyddiant yn fy mywyd corfforaethol – serch hynny, y peth mwyaf arwyddocaol yw cyfathrebu. Ar y cae, does dim byd gwaeth na bod yn dawel – does gennych chi’r un syniad am yr hyn sy’n mynd ymlaen ac yn amlach na dim, bydd y tîm yn colli.

Mae angen cyfathrebu cyson arnoch chi – geiriau sy’n annog ac yn gosod cyfeiriad. Mae angen adborth arnoch chi wedyn fel eich bod yn gwybod yr hyn y gallwch chi ei wneud i fod hyd yn oed yn well neu i gynnal y safon y tro nesaf. Allwch chi ddim cymryd pethau’n bersonol – mae’r hyn sy’n digwydd ar y cae yn aros ar y cae. Wedi dweud hynny, mae yna ffordd i gynnig adborth a chyfeiriad, a does dim angen gwneud hyn byth mewn ffordd niweidiol neu negyddol iawn. Yn y gwaith, rwy’n cael fy atgoffa’n gyson bod cyfathrebu’n hollbwysig – boed hynny’n cadw rhanddeiliaid yn y ddolen fel eu bod nhw’n gwybod eich bod yn gweithio gyda nhw ar y cyd i ddarparu’r hyn sydd ei angen arnyn nhw, neu’n cyfathrebu â chydweithwyr yn y tîm fel eich bod yn meithrin perthnasoedd er mwyn cydweithio yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl. Heb gyfathrebu da, ni fyddwch byth yn dîm go iawn, ond yn hytrach yn grŵp o unigolion sy’n digwydd ceisio cyflawni’r un peth.

Jamilla Hekmoun (MA 2018)

Mae Jamilla yn Gymrawd Ymchwil i’r prosiect Ffydd mewn Iechyd Meddwl yn Sefydliad Woolf. Ar hyn o bryd mae hi’n ysgrifennu ei PhD ar iechyd meddwl dynion Mwslemaidd lle mae’n archwilio’r berthynas rhwng ffydd, ethnigrwydd, gwrywdod, ac iechyd meddwl. Mae Jamilla yn gyn Ymddiriedolwr Bwrdd yn y Llinell Gymorth Ieuenctid Mwslimaidd ac mae’n Gadeirydd y Gynghrair Iechyd Meddwl Mwslimaidd; rhwydwaith o sefydliadau sy’n anelu at gydweithio ar iechyd meddwl yn y sector. Mae’n Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yng Nghyngor Mwslimaidd Cymru. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu pennod llyfr ar iechyd meddwl Mwslimaidd a gyhoeddwyd yn 2019. Enillodd Wobr (tua)30 Prifysgol Caerdydd 2022 yn ogystal â derbyn Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig am Actifiaeth Gymunedol.

Mae cymryd risgiau yn arwain at wytnwch

Pan oeddwn i newydd ddechrau ar fy ngyrfa yn fy ugeiniau cynnar, roeddwn yn ofni cymryd risgiau oherwydd doeddwn i ddim eisiau clywed y gair “na”. Roeddwn i’n teimlo ei fod yn fethiant personol a byddwn yn ei gymryd i galon. Newidiais fy meddylfryd i feddwl “y gwaethaf y gall rhywun ddweud yw “na”. Mae bod yn wydn yn sgil trosglwyddadwy rydw i wedi’i fabwysiadu ac yn aml nawr pan fydd rhywun yn dweud na, dwi’n clywed “ddim eto”. Mae’n fy sbarduno i ddal ati.

Hannah Sterritt (BMus 2015, MSc 2022)

Mae Hannah Sterritt (BMus 2015, MSc 2022) yn gweithio i Miller Research, cwmni ymchwil, gwerthuso ac ymgynghori sy’n ymwybodol o’r amgylchedd yn y Fenni. Hyd yn hyn, mae ei gyrfa amrywiol wedi canolbwyntio ar ymgysylltu a digwyddiadau, cyn troi at ganolbwyntio ar gynaliadwyedd trwy ddilyn MSc mewn Cynllunio Cynaliadwyedd a Pholisi Amgylcheddol. Mae gan Hannah sawl rôl wirfoddol hefyd, gan gynnwys fel Ymddiriedolwr Cymdeithas Dyfrffyrdd Mewndirol a oedd yn adeiladu ar y traethawd hir a gwblhaodd fel rhan o waith ei meistr.

Dysgu sut i drosglwyddo eich sgiliau ar draws gwahanol sectorau

Pan wnes i gais i’r brifysgol roeddwn i eisiau dilyn rhywbeth roeddwn i’n angerddol amdano ar lefel uwch.  Rhoddodd cerddoriaeth yr hyblygrwydd i mi ar ôl graddio i ystyried naill ai gyrfa yn y maes hwnnw neu, trwy ddefnyddio’r sgiliau trosglwyddadwy yr oeddwn i wedi’u dysgu fel gwaith tîm, arweinyddiaeth ac ymroddiad i offeryn penodol, i archwilio meysydd a diwydiannau eraill. Ar ôl gweithio ym maes ymgysylltu a digwyddiadau ar gyfer Prifysgol Caerdydd, roedd gen i ddiddordeb cynyddol mewn cymhwyso egwyddorion cynaliadwyedd i’r gwaith hwn. Fe wnaeth y swydd hon fy annog i ymgymryd â rolau hyrwyddwyr amgylcheddol a hefyd rhoddodd yr hyblygrwydd i mi astudio cwrs meistr yn rhan-amser. Trwy hyn, llwyddais i ddatblygu sgiliau newydd sy’n benodol i gyfeiriad gyrfa newydd, ac rwyf bellach yn gweithio fel ymgynghorydd cymunedau cynaliadwy sydd wedi cyfuno fy holl sgiliau gwirfoddol a phroffesiynol.

Vicky Lord (BA 2018, MA 2019)

Astudiodd Vicky (BA 2018, MA 2019) Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd ac arweiniodd ei phrofiad o fod yn Gynorthwy-ydd Golygyddol ar gyfer y cyfnodolyn Qualitative Research ac o ymgymryd â rolau Llysgennad Myfyrwyr / Cynorthwy-ydd Swyddfa ym maes Recriwtio Myfyrwyr at ei rôl bresennol sef Gweinyddwr Prosesau Busnes yn Pan Macmillan, ac mae hi wedi symud i Lundain er mwyn ymgymryd â’r rôl honno. Ar ôl bod yn Fentor Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn wirfoddolwr droeon, mae hi ar hyn o bryd yn Swyddog Cymorth Gyrfaoedd ar gyfer Cymdeithas y Cyhoeddwyr Ifanc (Llundain), yn helpu gweithwyr proffesiynol newydd ym myd cyhoeddi i ddefnyddio eu sgiliau hyd eithaf eu gallu, ac yn stiwardio Blaen Tŷ yn Theatr y Globe Shakespeare.

Beth am roi cynnig ar rywbeth newydd? 

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ennill sgiliau trosglwyddadwy newydd a gall fod yn drywydd hynod hyblyg, gan slotio i mewn i’ch ffordd o fyw a chyfrannu at eich nodau personol. Chi sy’n pennu’r ymrwymiad; digwyddiadau untro a pharhaol, ac efallai y byddwch yn chwilio am gyfle i wirfoddoli sy’n canolbwyntio ar yrfa neu archwilio angerdd a diddordebau eraill sy’n fath gwych o hunanofal. Yn enwedig ar ôl graddio, mae dewis gwirfoddoli yn amlygu cydberthynas rhwng eich diddordebau a’ch sgiliau, a gall gyfrannu at benderfynu ar lwybr gyrfa penodol. Gwirfoddoli yw’r ffordd hawsaf o roi cynnig ar gyfleoedd newydd ar gyfer maint, hyd yn oed os nad ydynt yn hollol addas, bydd gennych bob amser y sgiliau sydd newydd eu datblygu i’w trosglwyddo i’r rôl nesaf.

Bod yn hyblyg

 Mae bod yn hyblyg a dysgu wrth i chi fynd yn un o’r sgiliau trosglwyddadwy allweddol rydw i wedi’u datblygu trwy wirfoddoli. Yn aml mae hyn wedi gofyn am newid meddylfryd yn llwyr. Rydw i wedi mynd o greu adroddiadau ar gyfer golygyddion, i stiwardio blaen tŷ yn y theatr. Gall dysgu a chymhwyso gwybodaeth neu brosesau newydd yn gyflym deimlo fel atgyrch ond, mae’n sgil amlwg ac yn aml yn allweddol ar gyfer effaith gadarnhaol. Mae’n rhywbeth a fydd yn hynod werthfawr wrth i chi symud ymlaen trwy’ch gyrfa.

Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw o bobl sy’n barod iawn eu cymwynas ac yma i’ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Gallwch bori drwy eu cyngor a’u hawgrymiadau ar ystod eang o bynciau busnes yn ein cyfres ‘Bossing It’.