Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin 2023

13 Gorffennaf 2023
Deborah Boden MBE
Credit: Kirstin Prisk
Deborah Boden MBE Credit: Kirstin Prisk

Mae aelodau o gymuned cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi cael eu cydnabod am eu llwyddiannau eithriadol yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin ar gyfer 2023.

Syr Ian Gray (Hon 2012) yw Cyfarwyddwr Awyrofod Prifysgol Cranfield. Mae wedi cael ei wneud yn Farchog Baglor am wasanaethau i’r diwydiant awyrofod. Gweithiodd Ian i British Aerospace o 1979 tan 2007 cyn trosglwyddo i wasanaethau’r llywodraeth yn brif swyddog gweithredol cyntaf y Bwrdd Strategaeth Technoleg.

Ceri Morgan (BSc 2007) yw Cyfarwyddwr Masnach Ryngwladol a’r UE ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Dyfarnwyd CBE iddi am ei gwasanaethau o ran galluoedd a chynhwysiant ym maes masnach ryngwladol.

Vincent Bailey (MA 2010) yw Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr yng Nghyngor Bro Morgannwg. Dyfarnwyd OBE iddo am ei wasanaethau gwleidyddol, gwirfoddol ac elusennol.

Dyfarnwyd OBE i Matthew Lodge (MSc 1994) am ei wasanaethau i’r diwydiant rheilffyrdd. Matthew yw Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd yr Adran Drafnidiaeth.

Dyfarnwyd OBE i Shamini Jayanathan (LLB 1994) am wasanaethau i reolaeth y gyfraith ac i ddatblygiad rhyngwladol.

Emily Reuben (PgDip 1997) yw Cyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr Duchenne UK. Bu gynt yn gyflwynydd teledu a gohebydd, a dyfarnwyd OBE iddi am ei gwasanaethau i elusennau ac i bobl â Dystroffi’r Cyhyrau Duchenne (DMD). Duchenne UK yw prif ddiwydiant DMD y DU, ac mae’n cysylltu gwyddonwyr, y GIG, a theuluoedd i wella ymchwil a dod â’r triniaethau gorau i bawb y mae DMD yn effeithio arnynt.

Dyfarnwyd MBE i Deborah Boden (BA 1986) am ei gwasanaethau ym maes treftadaeth. Bellach yn ymgynghorydd yn cynghori ar reoli tirweddau gwarchodedig a buddsoddi ar gyfer twf amgylcheddol, Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Cernyw, a Chadeirydd grŵp Argyfwng Hinsawdd Treftadaeth y Byd y DU, goruchwyliodd Deborah reoli tirwedd ddiwydiannol Safle Treftadaeth y Byd fwyaf yn y DU am 18 mlynedd.

Dyfarnwyd MBE i Mark Bretton (BScEcon 1982) am ei wasanaethau i fusnes, yr economi ac i elusennau, yn enwedig yn ystod COVID-19.

David Heyburn (BA 1996) yw Pennaeth Gweithrediadau Microbioleg a Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dyfarnwyd MBE iddo am ei wasanaethau i’r GIG.

Dyfarnwyd MBE i Dr Gareth Jones (MBBCh 1976) am wasanaethau i feddygaeth chwaraeon ac ymarfer corff yng Nghymru. Mae Dr Jones yn feddyg tîm i Undeb Rygbi Cymru.

Asitha Panditharatna (BSc 1994, UGDip 1996) yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyflogaeth y Forward Trust. Dyfarnwyd MBE iddo am ei wasanaethau i addysg bellach a sgiliau.

Mae’r Athro Elizabeth Rix yn Brif Nyrs yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Ysbytai Portsmouth a dyfarnwyd MBE iddi am wasanaethau i arweinyddiaeth nyrsio. Mae’r Athro Rix wedi gweithio yn y GIG am fwy na 40 mlynedd, gyda bron 15 ohonynt yn Brif Nyrs — a’r pedair olaf yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Ysbytai Portsmouth

Dyfarnwyd MBE i Alison Ryland (BSc 2013) am wasanaethau i ofal iechyd mewn carchardai yn Sir Fynwy. Hi yw Pennaeth Gofal Iechyd Carchardai EM Brynbuga a Phrescoed.

Mae Richard Stanton (PGDip 1995) yn ymgyrchydd dros wasanaethau mamolaeth gwell i Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Amwythig a Telford. Dyfarnwyd MBE iddo am wasanaethau i ofal iechyd mamolaeth ar ôl ymgyrchu ochr yn ochr â’i bartner Rhiannon.

Emma Garrett (BA 2010) yw Pennaeth Profiad Ymwelwyr Orielau Celf y Tate. Dyfarnwyd MBE iddi am wasanaethau i Angladd y Wladwriaeth ar gyfer Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.

Dyrchafiadau a phenodiadau i Adain Filwrol Urdd Fwyaf Anrhydeddus y Baddon

Dyfarnwyd MBE i Is-gomander Anthony James Rodney Lofts (BEng 2006)

Dyfarnwyd MBE i Robbie George Beech (BEng 2006) Swyddog Gwarantedig Dosbarth 1.

Rydym mor falch o’n cymuned o gynfyfyrwyr yng Nghaerdydd. Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi’u cydnabod am eu hymroddiad a’u cyflawniadau.