Skip to main content

Cyswllt CaerdyddEin Cyn-fyfyrwyrNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Cymru i’r Byd — Myfyrwyr y Gyfraith yn Florida yn cwrdd â chynfyfyrwyr Caerdydd

17 Gorffennaf 2023

Ar 15 Mehefin gwnaethom gynnal digwyddiad rhwydweithio ar gyfer 20 o fyfyrwyr y gyfraith ar ymweliad o Brifysgol Florida a chyn-fyfyrwyr lleol Prifysgol Caerdydd sy’n gweithio ym maes y gyfraith a gwleidyddiaeth.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys trafodaeth banel yn cynnwys arweinwyr syniadau polisi Cymru, yr Athro Richard Wyn Jones (Cyfarwyddwr, Canolfan Llywodraethiant Cymru a Deon Materion Cyhoeddus) a’r gwestai arbennig Auriol Miller (Cyfarwyddwr, Sefydliad Materion Cymreig). Cadeirydd y panel oedd Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol, cyn-fyfyriwr sy’n gwirfoddoli, Dr Ed Bridges (BScEcon 2004, MSc 2005, PhD 2011).

Yn arwain y grŵp o fyfyrwyr yn ymweld â Chymru o’r Unol Daleithiau oedd un o raddedigion Caerdydd, Dr Matthew Jones (MA 2017) a ddywedodd: “Mae holl nodau a phwrpas rhaglen haf 2023 Prifysgol Florida yng Nghymru yn dod i’r amlwg ym mhanel ‘Heriau a Chyfleoedd i Gymru ym Mhrydain ar ôl Brexit’. Daeth ein myfyrwyr i Gaerdydd i ddysgu mwy am gyfraith ddomestig a rhyngwladol Cymru a Phrydain, ac i ddirnad effeithiau Brexit ar fywyd cyfreithiol a chymdeithasol Cymru yn well. Profiad anhygoel felly yw gweld awdurdodau blaenllaw Cymru yn trafod effeithiau Brexit a ffyrdd Cymru ymlaen, yn ogystal â chyfarfod pobl amlwg eraill ym meysydd cyfreithiol Cymru.

“Rydw i mor hapus i fedru dweud bod Prifysgol Caerdydd wedi fy nghysylltu â byd byw fy mhroffesiwn pan oeddwn yn fyfyriwr yma yn 2015/16, a’i bod hefyd yn cysylltu fy myfyrwyr â’r bydoedd y maent yn anelu at weithio ynddynt.”

Ychwanegodd Barry Sullivan, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pennaeth Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr: “I mi, roedd hon yn foment ‘cylch llawn’ fendigedig. Cefais y pleser o ddysgu am waith ysbrydoledig Matt yn gwella cysylltiadau trawsatlantig fel rhan o’n Gwobrau (tua) 30 — lle rydym yn dathlu’r rhai sy’n gweithredu newid, sy’n arloesi ac yn torri rheolau yng nghymuned cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Derbyniodd Matt gydnabyddiaeth arbennig yng nghategori ‘Cymru i’r Byd’. Roedd ei weld yma nawr, yn arwain grŵp o fyfyrwyr o Brifysgol Florida, yn foment falch i mi. Rydym yn hynod ddiolchgar i’n panelwyr, cefnogwyr, a chyn-fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli, sydd eu hunain yn arweinwyr sy’n cael effaith gadarnhaol ym maes y gyfraith, gwleidyddiaeth, polisi ac eiriolaeth, am ymuno â’r drafodaeth. Gobeithiwn eu bod nhw wedi ysbrydoli rhai o ôl-raddedigion y dyfodol Prifysgol Caerdydd.”

Diolch i’r holl gyn-fyfyrwyr a gymerodd ran, gan gynnwys:
Dr Ed Bridges (BScEcon 2004, MSc 2005, PhD 2011), Dr Simon Tew (PhD 2014), Natalie Zhivkova (BScEcon 2018), Joe Rossiter (MA 2018), Marine Furet (PhD 2022), Karen Davies (LLB 2014, PgDip 2016), Angharad Price (PgDip 2004, LLM 2014), Nye Davies (BScEcon 2015, PhD 2020), Dr Matthew Jones (MA 2017), Laura Ikin (LLB 2006, PgDip 2007), Miguela Gonzalez (MBA 2002, Astudiaethau Busnes PhD 2022-), Matthew Rees (MScEcon 2013), Brett John (BScEcon 2020), Sanjiv Vedi OBE (BSc 1984), Eleanor Mulligan (BScEcon 2004) a Glyn Lloyd (LLB 2002, MSc 2003, PgDip 2007, PhD 2008).

Dysgwch fwy am wirfoddoli eich amser a’ch arbenigedd i gefnogi Prifysgol Caerdydd.