Skip to main content

Cyswllt CaerdyddEisteddfodI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrStraeon cynfyfyrwyr

Beth mae’r Eisteddfod yn ei olygu i mi Beti George (BA 1960) — I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

26 Gorffennaf 2023
Beti George (BA 1960)

Astudiodd Beti George (BA 1960) y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n ddarlledwr teledu a radio Cymreig o fri. Mae Beti yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno’r rhaglen newyddion nosweithiol, Newyddion yn ogystal â rhaglen wythnosol BBC Radio Cymru, Beti a’i Phobol ac mae’n llysgennad dros y Gymraeg. Yma, mae Beti yn rhannu atgofion ei phlentyndod o’r Eisteddfod, ac yn sôn am yr hyn y mae hi, a’r Gymraeg yn ei olygu iddi.

Os ydych yn bwriadu mynd i Eisteddfod Genedlaethol 2023, dewch i gyfarfod â’ch cyd-gynfyfyrwyr yn Nerbyniad Cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ddydd Iau, 10 Awst.

Cefais fy magu yng nghefn gwlad yn y gorllewin – ym mhentre’ Coedybryn lle bu’r Prifardd a’r awdur T. LLew Jones yn brifathro ar ysgol fach y pentre’. Roedd Eisteddfod yn y gwaed ac roedd ‘na ddisgwyl i ni blant gystadlu yn yr eisteddfodau fyddai ‘n cael eu cynnal rhywle yn yr ardal bob nos Sadwrn bron. Canu oedd y gamp yn ein tŷ ni a ‘nhad yn ein hyfforddi ni – fy mrawd a finne. Er fy mod i’n casáu cystadlu, roedd hi fel petai’n fater o ddyletswydd. Ar ben fy hunan roeddwn mor nerfus, ond pan roedd y ddau ohonom yn canu deuawd, fe fuse’r nerfau yn diflannu. Roedden ni’n ennill ymhobman. Gallwch ddychmygu y ddau blentyn bach ‘ma, brawd a chwaer a’r lleisiau yn asio i’r dim. Fy mrawd yn soprano, finne’n alto! Heddi, does dim dwywaith, fe fusen ni’n serennu yn X factor, neu Britain’s Got Talent!

Aethon ni ddim i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol – doedd dim car ‘da ni i fynd ta beth!

Ond roedden ni’n meddwl bod ennill yn y Genedlaethol yn gyfystyr ag ennill gwobr aur yn y gemau Olympaidd. Dw i’n cofio, yn blentyn bach, pan roedden ni ar fws yn mynd draw i draeth Langrannog, roedd mam yn siarad â dyn oedd newydd ennill y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Finne yn edrych arno fel y dyn pwysica’ yn y byd, ac eisiau gwbod ble roedd y gadair!
Gallwn gyfri ar un llaw faint o Eisteddfodau Cenedlaethol i fi eu mynychu cyn 1981! Wedyn, daeth y cyfle i fi gyflwyno Tocyn Wythnos o’r Eisteddfod a bum wrthi tan 2019. Am fraint!
Alla i ddim dweud fy mod yn hollol gyffyrddus gyda’r peth cystadlu ‘ma. Hynny oherwydd mod i’n casáu gweld pobl yn colli! (Efallai mai fi sy’n casáu colli!) Digon hawdd yw dweud “byddwch yn gollwyr da”! Dw i’n amau a ydi hynny’n bosib! Fuswn i byth yn gallu bod yn feirniad achos pwy ydw i i ddweud pwy sy’n haeddu ennill a phwy sy’n HAEDDU colli.

A buswn i ddim yn ddigon dewr i fod yn feirniad. Mae angen croen crocodeil ar feirniad yn ôl straeon dw i wedi ei glywed am agwedd ymosodol ambell i riant ar ôl i’w hepil gael cam!
‘Sdim dwywaith, mae cythraul y canu yn fyw ac yn iach!

Eto, rych chi’n clywed am sêr fel Syr Bryn Terfel yn canu clodydd cystadlu mewn eisteddfodau oherwydd bod hynny wedi gosod sylfaen gref i’w yrfa, sydd wrth gwrs mor gystadleuol.
Mae rhai yn ofni bod y newidiadau sy’n digwydd ar hyn o bryd yn mynd i arwain at droi’r Eisteddfod yn Ŵyl gyda llai o bwyslais ar y cystadlu. Er mai llugoer yw fy agwedd i at gystadlu, dw i ddim yn gweld diben cynnal eisteddfod heb fod yr elfen honno yn ganolog iddi. Dyna sy’n denu’r miloedd yn fy marn i achos yn y bôn dw i’n meddwl bod gweld pobl yn ennill A cholli yn rhan o natur dyn gwaetha’r modd!

Yn ddiweddar mae ‘na drafodaeth danllyd wedi bod ynglŷn ag unieithrwydd yr Eisteddfod. Yr unig beth ddweda i yw, fy mod i am un wythnos y flwyddyn, yn gwerthfawrogi’r cyfle i ail wefru’r batris Cymraeg sy’ yn fy ngwaed.

Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.