Skip to main content

Cyswllt CaerdyddDonate

Ble maen nhw bellach – diweddariad ar ein hymchwilwyr canser ar ddechrau eu gyrfa

20 Mehefin 2023

Mae rhaglen Arweinwyr y Dyfodol mewn Ymchwil Canser (FLiCR) Prifysgol Caerdydd yn rhoi’r sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen ar ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i lwyddo yn eu maes. Mae FLiCR yn fan cychwyn i’r ymchwilwyr gorau a disgleiriaf lansio eu gyrfaoedd a dod yn genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil canser. Dyma hanes tri Arweinydd y Dyfodol o’n carfan 2017 a lle maen nhw heddiw.

Ar ôl colli ei chwaer i sarcoma, roedd Dr Magda Meissner (PhD 2019) yn datblygu triniaethau therapi imiwnedd
ar gyfer y canser prin hwn, pan ymunodd â FLiCR. Galluogodd y cyllid a dderbyniodd i Magda gymryd rhan mewn cwrs cystadleuol ar ddylunio treialon clinigol a chael mewnbwn gan arbenigwyr blaenllaw’r byd. Erbyn hyn, mae Magda yn arwain treial clinigol sy’n cael ei gyflwyno ledled Cymru, sy’n edrych ar brawf gwaed biopsi hylif arloesol ar gyfer gwneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint, prif achos marwolaethau canser yng Nghymru. Mae treial Magda yn edrych ar sut y gall defnyddio’r prawf yn gynharach yn y broses ddiagnostig wella a chyflymu diagnosis, lleihau’r amser rhwng diagnosis a thriniaeth, ac yn y pen draw llywio sut y gellir defnyddio’r dechnoleg hon ar gyfer mathau eraill o ganser.

Siaradodd Magda â ni am ei hymchwil yn 2018.

Roedd Dr Martin Scurr (PhD 2013) yn treialu triniaeth imiwnotherapi ar gyfer canser y coluddyn yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr graddedig FLiCR. Y rhan bwysicaf o FLiCR i Martin oedd y ffocws ar hyfforddiant cyfryngau a dysgu’r ffordd orau i gynulleidfaoedd ehangach ddehongli ei ymchwil yn effeithiol.

Ers hynny, drwy ei waith yn y maes imiwnotherapi, mae Martin wedi cyflawni cymorth hanfodol yn y frwydr yn erbyn COVID-19, gan ddatblygu prawf sy’n canfod ymateb celloedd T a gwrthgorff i’r firws yn fanwl gywir mewn un sampl gwaed. Drwy arddangos ymateb imiwnedd ein corff i COVID-19, gallai’r prawf helpu i reoli achosion yn y dyfodol, nodi unigolion sydd mewn perygl, ac mae eisoes wedi profi bod ail ddos ​​y brechlyn yn hanfodol i gleifion canser gynnal amddiffyniad eu brechlyn.

Siaradodd Martin â ni am ei ymchwil yn 2018.

Ar ôl dod yn aelod o FLiCR, llwyddodd Dr Jason Webber (BSc 2005, PhD 2008) i ennill datblygiad gyrfa penodol a hyfforddiant ysgrifennu grantiau, sgiliau hanfodol “i ffwrdd o’r fainc” a alluogodd iddo rannu a gwella’i ymchwil. Canolbwyntiodd ymchwil Jason ar ganser y brostad, clefyd y mae 1 o bob 5 dyn yng Nghymru yn cael diagnosis ohono sy’n rhy hwyr i’w wella.

Bellach yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe, nod Jason yw gwella proses ddiagnostig canser y brostad. Mae ef a’i dîm yn datblygu prawf gwaed anfewnwthiol sy’n ymchwilio i siwgrau penodol a geir yn llif gwaed cleifion canser y brostad, gan bennu’r risg o ddatblygu’r clefyd a pha mor debygol ydyw o ledaenu.

Gallai’r prawf hwn yn y pen draw ddarparu diagnosis cynharach, sy’n hanfodol i drin canser y prostad oherwydd unwaith mae’r canser yn lledaenu y tu hwnt i’r brostad, nid oes modd ei wella. Drwy ddileu’r angen am brofion mewnwthiol, mae posibilrwydd y gallai prawf gwaed Jason gynnig diagnosis i lawer mwy o gleifion canser y brostad cyn ei bod yn rhy hwyr.

Siaradodd Jason â ni am ei ymchwil yn 2018.

Fel Arweinwyr y Dyfodol mewn Ymchwil Canser, roedd Magda, Martin a Jason wedi’u cyfarparu â’r hyfforddiant a’r gefnogaeth oedd eu hangen arnynt i fwrw ati’n syth yn eu gyrfaoedd. Maent wedi mynd ymlaen i drawsnewid y dirwedd ymchwil canser drwy ddiagnosis cynharach a thriniaethau newydd arloesol.

Dysgwch ragor am Arweinwyr y Dyfodol mewn Ymchwil Canser a sut y gallwch gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser.