Skip to main content

Cyswllt CaerdyddStraeon cynfyfyrwyrWomentoring

Fy mhrofiad Menywod yn Mentora – Kate Walsh

26 Mai 2023
Two women having a meeting in an office

Yn ddiweddar, cymerodd Kate Walsh (LLB 2010, PGDip 2011) ran yn ein cynllun mentora fflach blynyddol – Menywod yn Mentora, a chafodd gyfle i gael profiad gwerthfawr yn y diwydiant gan ei mentor. Yn yr erthygl hon, mae hi’n siarad am bwysigrwydd cynlluniau fel Menywod yn Mentora a sut y gallant fod yn fuddiol waeth pa gam rydych chi arno yn eich gyrfa.

Kate WalshFe wnes i gais am y cynllun Menywod yn Mentora gan fy mod yn chwilfrydig o ran pa mor effeithiol y gallai fod, yn enwedig cynllun mentora “fflach” a gyflwynwyd dros ychydig o sesiynau yn unig.

Roedd y mentora yn cynnwys cyfnewid ychydig o negeseuon ebost gyda fy mentor, Sitpah Selvaratnam (LLB 1988) cyn cael sesiwn grŵp gydag un mentorai arall. Roedd yn wych cael y sesiwn grŵp oherwydd wrth drafod pryderon y mentorai eraill, sylweddolais eu bod yn debyg iawn i’r pryderon a brofais i ar y cam hwnnw yn fy ngyrfa.

Weithiau mae’n ddefnyddiol iawn i siarad â rhywun nad yw’n ffrind agos neu’n aelod o’r teulu, oherwydd gallwch gael persbectif newydd ac edrych ar bethau’n wahanol. Roedd Sitpah yn ardderchog am arsylwi pa feysydd yn fy ngyrfa y siaradais fwyaf angerddol amdanynt, sydd wedi fy helpu i ganolbwyntio fy ymdrechion ar y meysydd hynny.

Roedd yn bwysig i mi fy mod yn cael fy mentora gan fenyw sy’n rhagorol yn ei maes. Rwy’n credu bod yna rai heriau gyrfaol sy’n wynebu menywod yn arbennig, felly mae’n ddefnyddiol siarad â rhywun sy’n gallu siarad o brofiad. Roedd hefyd yn hynod ddiddorol trafod uchafbwyntiau gyrfa gyda fy mentor.

Rwy’n teimlo fy mod yn dyst bod cynlluniau mentora yn effeithiol ar unrhyw adeg o’ch gyrfa, nid dim ond ar y dechrau. Byddwn yn argymell y cynllun hwn yn ddi os i unrhyw un sy’n ystyried cymryd rhan. Nid oes gennych unrhyw beth i’w golli trwy fod yn rhan o Menywod yn Mentora.

I unrhyw un o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy’n ystyried cofrestru i fod yn fentorai, bachwch y cyfle hwn â’ch dwy law. Gall fod yn ddefnyddiol iawn cael siecbwyntiau bach ar hyd eich gyrfa i sicrhau eich bod yn symud i’r cyfeiriad cywir.

Os ydych chi’n gyn-fyfyriwr o Gaerdydd sy’n awyddus i ddod o hyd i, neu ddod yn fentor i gyn-fyfyriwr, mae ein platfform rhwydweithio cyn-fyfyrwyr Cyswllt Caerdydd yn eich helpu chi i ddod o hyd i’r gyfatebiaeth gywir. Mae cofrestru’n gyflym ac yn hawdd, a gallwch chi hidlo yn ôl y diwydiant a’r lleoliad i chwilio am y rheiny sydd naill ai’n cynnig helpu neu’n gofyn am gymorth.

Mae yna hefyd lawer o ffyrdd eraill y gallwch chi wirfoddoli eich amser a’ch arbenigedd i helpu i ysbrydoli a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.