Skip to main content

Cyswllt CaerdyddDonateNewyddion

Dathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr 2023

26 Mai 2023
Volunteers' Week

Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol a gynhelir rhwng 1-7 Mehefin i glodfori’r cyfraniad mae miliynau o bobl ledled y DU yn ei wneud drwy wirfoddoli yn eu cymunedau.

Bob blwyddyn, mae ein cynfyfyrwyr anhygoel sy’n gwirfoddoli yn cael cryn effaith ar bopeth a wnawn yma ym Mhrifysgol Caerdydd, boed hynny’n cefnogi myfyrwyr drwy gynlluniau mentora, llywio strategaeth y Brifysgol, dychwelyd i Gaerdydd i roi cyflwyniad ar yrfaoedd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o raddedigion, neu gynnig interniaethau i’n myfyrwyr i gael profiad o’r diwydiant wrth gwblhau eu hastudiaethau.

Rydym am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn arbennig i bob un o’n cynfyfyrwyr sy’n gwirfoddoli ac sy’n cyfrannu at wneud gwahaniaeth yma ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn 2022 rhoddodd ein cynfyfyrwyr sy’n wirfoddolwyr 6,589 o oriau o’u hamser!

 

 

 

 

 

 

 

Rhagor o wybodaeth am wirfoddoli.

Mae ein cynfyfyrwyr sy’n gwirfoddoli wedi rhannu eu profiadau a dweud wrthym am y boddhad maen nhw’n ei deimlo wrth wirfoddoli.

Scott Bowers (BA 2003, PgDip 2004)
Partner Rheoli, Spectacle Partners

Darlithydd gwadd

“Ym mhob achos, rwyf wedi teimlo bod cymryd rhan wedi helpu pobl – fel y cefais i gymorth gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol pan oedden yn fyfyriwr yno. Mae’n gyfle braf i roi rhywbeth yn ôl, cwrdd â phobl newydd ac ehangu’ch rhwydwaith. Rydych chi’n teimlo’n dda yn ei wneud ac mae digonedd o gacennau ar gael hefyd!”

Nneka Akudolu KC (LLB 2001, PgDip 2002)
Bargyfreithiwr, 2 Hare Court

Cyflwyno sgwrs ar yrfaoedd

“Roeddwn yn falch iawn o gael fy ngofyn i roi sgwrs gyrfaoedd, gan fod Ysgol y Gyfraith Caerdydd yn rhan mor annatod o fy nhaith gyfreithiol. Roedd y gefnogaeth a’r anogaeth a gefais yno yn hanfodol o ran cael yr hyder i wneud cais am gyfnod prawf. “Rwy’n gobeithio bod y myfyrwyr yn sylweddoli pa mor gyraeddadwy yw gyrfa yn y Bar ar ôl clywed fy nghyflwyniad.”

Eleanor Wheeler (BSc 2009, MSc 2010)
Cyfarwyddwr Cysylltiol Ymchwil a Pholisi, The Health Policy Partnership

Cyfrannwyd at y gyfres blog ‘Bossing It’

“Mae gan Brifysgol Caerdydd ddarn enfawr siâp draig yn fy nghalon, felly roeddwn yn falch iawn o gyfrannu at ‘Bossing It’.”

Glyn Lloyd (LLB 2002, MSc 2003, PGDip 2007, PhD 2008) 
Partner a Sylfaenydd, Newfields

Cynigiodd interniaethau i fyfyrwyr

“Ar ôl sefydlu a rheoli fy musnes fy hun, rwy’n teimlo dyletswydd i rannu fy ngwybodaeth a’m profiad i helpu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol. Rydym yn byw mewn cyfnod heb ei debyg o’r blaen ac ni fydd y daith ymadfer ar ôl y pandemig yn un hawdd. Mae’r angen i gefnogi myfyrwyr ar ei fwyaf. Byddwn yn annog unrhyw gyflogwr i ystyried cynnig cyfleoedd. Mae’n brofiad gostyngedig a gwobrwyol. Rydych yn teimlo eich bod wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth.”

Joanna Dougherty – (BScEcon 2017)
Cyfarwyddwr Gweithrediadau Byd-eang, JLL

Cymerodd ran yn y rhaglen Menywod yn Mentora.

“Dyw cofrestru ar gyfer rhaglen fentora ddim yn cymryd gormod o’ch amser, ond o’m mhrofiad i, gallech gael effaith fawr ar rywun ar gam cynnar yn ei yrfa.”

Ni fyddai’n bosib cyflawni’r hyn rydyn ni’n ei wneud heb ein gwirfoddolwyr gwych, felly os hoffech chi roi rhywbeth yn ôl, ymunwch â ni. Beth am ddechrau heddiw drwy gofrestru ar gyfer ein platfform rhwydweithio i gynfyfyrwyr – Cyswllt Caerdydd.