Skip to main content

Bossing ItCyswllt CaerdyddEin Cyn-fyfyrwyrGyrfaoedd

Awgrymiadau gwych cyn dechrau eich prosiect creadigol – Bossing It

25 Ebrill 2024

Gall prosiectau creadigol ddysgu sgiliau newydd, agor drysau newydd a rhoi rhagor o amser gwerthfawr ichi ganolbwyntio ar eich diddordebau personol. P’un a ydych chi’n dymuno troi hobi’n yrfa neu ddod â syniadau’n fyw yn eich amser hamdden, gall ychydig o arweiniad eich rhoi ar ben eich ffordd. Gofynnon ni i rai o’n cyn-fyfyrwyr gwych sydd wedi gweithio ar ystod o brosiectau – o gylchgronau i bodlediadau – i rannu eu hawgrymiadau mwyaf defnyddiol.

Claudia Rutherford (BA 2019)

Claudia yw Golygydd Sefydlol Santes Dwynwen Magazine, cyhoeddiad celfyddydau a diwylliant sy’n canolbwyntio ar Gymru. Tra’n fyfyriwr, bu ar Leoliad Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Prifysgol Caerdydd, yn ymchwilio i ymatebion y cyfryngau, y cyhoedd a gwleidyddion i dân Tŵr Grenfell. Ochr yn ochr â’i hastudiaethau mewn Athroniaeth, bu’n gynhyrchydd a chyflwynydd ar Radio Xpress sy’n rhan o Gyfryngau Myfyrwyr Caerdydd, a bu’n cyfrannu’n rheolaidd i gylchgrawn Quench. A hyn o bryd mae’n gweithio ym maes addysg.

Does dim rhaid i chi adnabod y bobl ‘gywir’ cyn i chi ddechrau

Mae diwydiannau creadigol yn atgyfnerthu pwysigrwydd rhwydweithio, ond dydy hyn ddim bob amser yn hygyrch. Rydw i wedi gweithio mewn caffis ac archfarchnadoedd ers pan oeddwn i yn fy arddegau. Gall y cysylltiadau a’r sgiliau y byddwch yn eu meithrin wrth wasanaethu pobl yn eich cymuned fod yn fwy gwerthfawr nag adnabod gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.

Bydd cysylltu a chydymdeimlo â phob math o bobl, nid yn unig y rhai sy’n gweithio mewn meysydd creadigol, yn gwneud eich gwaith yn fwy gwreiddiol a dilys. Yn ogystal â datblygu eich sgiliau cyfathrebu, rydych chi’n dod i ddeall yr hyn sy’n bwysig i bobl – rhywbeth roeddwn i’n teimlo oedd yn hanfodol wrth greu fy nghylchgrawn.

Elinor Terry (BA 2017)

Elinor yw Pennaeth Dylunio a Chyfryngau Cymdeithasol Redbricks Media. Hi oedd un o gyd-sylfaenwyr y cwmni cynhyrchu digidol yma yn 2023. Mae Redbricks Media yn arbenigo mewn ffilmiau digidol, podlediadau, y cyfryngau cymdeithasol a gwefannau.

Cyn hynny, treuliodd Elinor bum mlynedd yn y BBC, yn gyntaf yn Ymchwilydd Digidol ac yn ddiweddarach yn Swyddog Gweithredol Cyfryngau Cymdeithasol. Bu’n gweithio ar ymgyrch BBC Education, Tiny Happy People, gan lansio eu strategaeth gymdeithasol ar y cyd â’r Sefydliad Brenhinol a Phalas Kensington. Ar ôl graddio yn 2017, bu Elinor yn diwtor rhan-amser, yn creu cynnwys i YouTube ac yn awdur llawrydd.

Dylech chi greu fel petai neb yn gwylio nac yn gwrando (mae’n bur debyg nad ydyn nhw)!

Fyddwn i ddim wedi cael unrhyw un o’r swyddi na’r cyfleoedd gyrfaol rydw i wedi’u cael heb bortffolio amrywiol o brosiectau creadigol. Yn aml, dim ond fy mam a’i ffrindiau Facebook oedd yn eu gweld. Prin fod gan fy mhrosiectau, gan gynnwys fy mlog Blwyddyn Dramor a fy sianel Booktube, rhyw 100 o ddilynwyr. Dydw i erioed wedi creu unrhyw beth oedd ‘wedi llwyddo’ o ddifri.

Fodd bynnag, fe wnaeth y sgiliau a ddysgais ar hyd y daith fy helpu i gael fy swydd gyntaf yn y BBC, a dechrau fy nghwmni cyfryngau digidol fy hun. Roedd y sgiliau hyn yn cynnwys siarad yn hyderus ar gamera, golygu fideo a sain, ac optimeiddio peiriannau chwilio. Fe wnaeth yr enghreifftiau hyn o brofiad ymarferol helpu fy CV i greu argraff (gobeithio).

Yn y byd cynhyrchu digidol, dydy llwyddiant ddim bob tro’n cael ei fesur gan nifer y bobl sy’n eich ‘hoffi’ neu eich ‘gwylio’. Byddwch yn dysgu llawer drwy greu prosiect creadigol – felly daliwch ati. Dydych chi byth yn gwybod beth fydd y canlyniad. Gall fod yn gam tuag at gyfle hyd yn oed yn well, o leiaf.

Ffion Clarke (MA 2020)

Mae Ffion yn gynhyrchydd sain llawrydd arobryn. Mae hi wedi gweithio mewn sawl genre, gan gynnwys ffyrdd o fyw, hanes, chwaraeon a sioeau cwis, gyda darlledwyr newydd a phrofiadol. O 2022, cynhyrchodd un o bodlediadau hyder corff gorau’r DU, ‘Go Love Yourself.’

Mae Ffion yn angerddol am allu sain i gadw cwmni ar bobl a chreu’r cymunedau wyneb yn wyneb gorau posibl. Caiff ei chefnogi gan ei Chynhyrchydd Cynorthwyol – ei chi a’i ffrind gorau, Maggie.

Dod i adnabod eich cynulleidfa

Mae gan bodlediadau y ffordd anhygoel unigryw hon o ymgysylltu â’r gwrandäwr – maent yn dewis treulio cryn dipyn o amser gyda chi yn eu bywyd o ddydd i ddydd. Ac yn ddelfrydol mae angen i chi ddefnyddio’r cysylltiad hwn a gweithio arni, fel eich bod bron yn rhan o hunaniaeth yr unigolyn hwnnw. Rydych chi am iddyn nhw feddwl: “Mae’n ddydd Llun, amser i wrando ar [insert show]”.

Felly, wrth ddechrau prosiect creadigol, mae angen i chi feddwl: ar gyfer pwy yw hwn / at ba fath o gynulleidfa rydw i am eu denu? A yw’n llenwi bwlch? Sut byddaf yn ymgysylltu â fy nghynulleidfa? A oes ffyrdd y gallaf fynd â’r gymuned hon ymhellach (er enghraifft, trwy grwpiau Facebook )? Ydw i’n rhoi rhywfaint o werth iddyn nhw? Deunydd y gallant fynd yn ôl gyda nhw?

Kacie Morgan (BA 2010)

Mae Kacie yn awdur bwyd a theithio arobryn. Yn 2010, sefydlodd ei blog bwyd ‘The Rare Welsh Bit’ i ddatblygu ei phortffolio ysgrifennu ar ôl graddio. Heddiw, mae Kacie yn gweithio’n llawn amser ar ei blog a’i sianeli cymdeithasol, sydd wedi ymddangos ar BBC One, BBC Wales, Food 52, a Metro. Yn aelod o ‘The Guild of Food Writers’, mae Kacie hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau amrywiol, gan gynnwys Croeso Cymru, ‘Sainsbury’s Magazine’, a ‘Co-op Food Mag’.

Anelu at adeiladu cymuned gefnogol, ysbrydoledig o bobl greadigol o’r un anian

Gallai cymryd yr amser i ddod i adnabod pobl greadigol eraill eich helpu i sicrhau mwy o waith yn eich arbenigedd a hyd yn oed cwrdd â darpar staff i’w cyflogi yn y dyfodol. Hefyd, mae’n golygu y bydd gennych chi grŵp o ffrindiau â diddordebau tebyg i gymdeithasu â nhw hefyd – sy’n arbennig o bwysig os byddwch chi’n gweithio ar eich pen eich hun, ar sail lawrydd.

I ddechrau, ewch i ddigwyddiadau perthnasol yn eich ardal (mae CreativeMornings yn arbennig o boblogaidd), ymunwch â grwpiau Facebook a LinkedIn i gysylltu ag eraill a rhyngweithio â chyfrifon tebyg ar X, Instagram, neu TikTok.

Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw o bobl sy’n barod iawn eu cymwynas ac yma i’ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Mae ein cyfres ‘Bossing It’ yn dod â chyngor gan gyn-fyfyrwyr mewn sawl maes at ei gilydd – dewch i fanteisio ar eu doethineb a phori drwy awgrymiadau gwych ar ystod eang o bynciau.