Skip to main content

#TeamCardiffCyswllt CaerdyddDonate

Cerdded mynydd uchaf Cymru dros ymchwil canser

16 Ebrill 2024

Mae Bilal (Y Gyfraith 2023-) wedi penderfynu gosod her iddo ei hun – dringo’r Wyddfa gyda’r nos. Fel rhan o #TeamCardiff, bydd ei ymdrechion i godi arian yn cefnogi ymchwil ar ganser yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mae’n esbonio beth sy’n ei ysgogi i ymuno â’r daith, a’i gyngor i eraill sydd am gefnogi ymchwil o’r fath sy’n newid bywydau.

Beth oedd wedi eich ysbrydoli i gofrestru ar gyfer y daith a chodi arian ar gyfer ymchwil canser Prifysgol Caerdydd?

Yn ystod anterth COVID-19 a’r cyfnod clo, fe gafodd aelod o fy nheulu ddiagnosis o ganser y colon. Yn anffodus, fe wnaethant ei ddal yn rhy hwyr, gan fod y canser wedi lledaenu. Felly dyna pam mae cofrestru ar gyfer y daith hon a chodi arian ar gyfer ymchwil canser Prifysgol Caerdydd yn golygu llawer ar lefel bersonol, ac rwy’n falch o fod yn rhan o hyn.

Sut ydych chi’n bwriadu hyfforddi a chodi arian dros y misoedd nesaf?

Rwy’n weddol egnïol, yn chwarae pêl-droed y rhan fwyaf o benwythnosau ac yn mynd i’r gampfa o leiaf bedair gwaith yr wythnos. Wedi dweud hynny, dydy cardio a fi ddim yn cyd-weld. Rwy’n gwneud lot o ymarfer corff i hyfforddi ar gyfer y daith, megis mynd i redeg, heicio, a hyd yn oed beicio. Trwy gynyddu’r dwyster yn raddol, byddaf yn fwy na pharod pan fydd yr amser yn dod i gerdded.

Beth ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf ato am y daith?

Rwy’n edrych ymlaen at wneud ffrindiau yn bennaf. Mae’r berthynas/cyfeillgarwch rydych chi’n eu gwneud â phobl wrth ddringo mynydd heb ei ail. Hefyd, rydw i yn mwynhau her a bydd yr Wyddfa yn rhoi fy nherfynau meddyliol a chorfforol ar waith – felly rydw i yn barod amdani.

Sut mae eich teulu a’ch ffrindiau wedi ymateb i chi yn ymuno â’r daith?

Ar y dechrau, roedd Mam braidd yn amheus ynglŷn â cherdded dros nos ond unwaith iddi ddarganfod ein bod yn ei gwneud dros achos da, roedd hi’n hynod o falch.

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth fyfyrwyr eraill o Gaerdydd sy’n meddwl cofrestru ar gyfer her yr Wyddfa?

Peidiwch a cholli’r cyfle i greu atgofion. Dychmygwch y straeon y byddech yn gallu dweud wrth eich plant am y diwrnod y gwnaethoch chi gerdded yr Wyddfa dros nos – pwy yw’r rhiant anhygoel nawr?

Cefnogwch Bilal

Dangoswch eich cefnogaeth i Bilal a’i helpu i gyrraedd ei darged codi arian. Noddwch Bilal ar JustGiving.

Cerdded Yr Wyddfa dan awyr serennog a chodi arian dros niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, Prifysgol Caerdydd neu ymchwil canser. Cofrestrwch i gerdded gyda #TeamCardiff naill ai 20 i 21 Gorffennaf 2024 neu 19 i 20 Hydref. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr her, ebostiwch donate@caerdydd.ac.uk.