Skip to main content

Newyddion

Pennod newydd yn hanes Rygbi Prifysgol Caerdydd: rhannwch eich atgofion personol

25 Mawrth 2024

Sut mae, gyn-fyfyrwyr a selogion Rygbi Prifysgol Caerdydd.

Chris Davies ydw i, Pennaeth Rygbi newydd Prifysgol Caerdydd. Ar ôl treulio tri thymor yn y tîm hyfforddi, mae’n anrhydedd ac yn fraint imi allu ymgymryd â’r rôl hon, ac rwy’n gwbl ymwybodol o’r gwaddol cyfoethog a adawodd ein rhagflaenwyr dros y blynyddoedd yn ogystal â chyfraniadau lu ein haelodau.

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae fy uchelgais ar gyfer y swydd hon yn mynd y tu hwnt i fuddugoliaethau ar y cae rygbi. Rwy’n llwyr ymroddedig i ail-gysylltu â’r cyn-fyfyrwyr, gan geisio gwella safon rygbi heddiw a’r profiad cyffredinol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Hoffen ni glywed gennych chi

Os buoch chi’n chwarae dros unrhyw un o dimau rygbi Prifysgol Caerdydd (neu Goleg Prifysgol Caerdydd, Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST) neu Goleg Meddygaeth Prifysgol Cymru (UWCM)), hoffen ni glywed gennych. Bellach, gallwch chi rannu eich cysylltiad personol chi â Chlwb Rygbi Prifysgol Caerdydd, er mwyn inni fedru rhannu’r cyfleoedd a’r newyddion perthnasol â chi.

O ran cyn-aelodau’r clwb, mae’ch taith, yn ystod eich cyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd ac ar ôl hynny, yn ysbrydoliaeth i’n chwaraewyr cyfredol ac i ddarpar chwaraewyr. Bydd ail-gysylltu â’n cyn-aelodau yn y fath modd nid yn unig yn talu teyrnged i’n hanes cyffredin, ond hefyd yn ein helpu ni i feithrin cymuned rygbi sy’n fwy cefnogol. Gyda’n gilydd, gallwn ni agor cil y drws ar fentora, rhwydweithio, ac ymdeimlad dyfnach o berthyn ymhlith ein myfyrwyr presennol. Gall eich hanesion a’ch dealltwriaeth gael effaith ddofn ar eu datblygiad a chynnig arweiniad gwerthfawr iddyn nhw oddi ar y cae rygbi hyd yn oed.

Buddugoliaethau diweddar

Mae ein clwb rygbi wedi ehangu i gynnwys saith tîm y dynion, gan gynnwys pum prif dîm a dau dîm i feddygon, ynghyd â dau dîm y menywod. Mae tîm cyntaf y dynion wedi ennill ei le yng nghynghrair BUCS Super Rugby, ac mae’r 7fed tîm wedi cipio Tlws y Western Conference. Heblaw hynny, mae timau’r menywod wedi chwarae am y tro cyntaf yng Nghynghrair Genedlaethol y Menywod (WNL), gan gadw eu lle ar gyfer y tymor nesaf. Adeg hanesyddol yw campau o’r fath yn hanes rygbi ym Mhrifysgol Caerdydd, gan fod timau dynion a menywod yn cystadlu ar y lefelau uchaf ym myd rygbi prifysgol – tipyn o gamp sy’n dyst i’w hymroddiad a’u dawn.

Gwnaeth tîm cyntaf y Dynion wneud hanes yn nhymor 2022/23. Am y tro cyntaf erioed, trechon ni ein cystadleuwyr, Met Caerdydd (UWIC), gan eu goddiweddyd yn safleoedd BUCS Super Rugby. Cyrhaeddon ni hefyd y rownd gynderfynol am y tro cyntaf ers degawdau – gornest a ddaeth i ben pan enillodd y tîm arall o drwch blewyn yng Nghaerwysg.

Ymhlith yr hanesion helaeth am lwyddiannau unigol, rydyn ni’n dathlu chwaraewyr sydd wedi symud ymlaen i chwarae rygbi ar y lefel ryngwladol, rhanbarthol a domestig, ac mae Dr Jamie Roberts (MBBCh 2013) yn enghraifft wych o rywun sydd wedi rhagori ar y cae rygbi ac yn ei weithgareddau academaidd.

Y llwybr ymlaen

Wrth imi gofleidio pennod newydd yn hanes Rygbi Prifysgol Caerdydd, fy ngobaith yw creu rhaglen fydd yn talu teyrnged i’n gorffennol, yn dathlu ein presennol ac yn braenaru tir y dyfodol. Wrth inni baratoi at y gêm hanesyddol Gornest y Prifysgolion yn erbyn Prifysgol Abertawe ar Ebrill 24, mae pawb yn edrych ymlaen yn eiddgar ati. Mae’r gêm hon, sydd â hanes hir o gystadlu a balchder, yn fwy na gêm yn unig. Mae’n dyst i’n brwdfrydedd, ein gwytnwch, a’n hymrwymiad i rygbi. Ni fydd paratoi ar gyfer y gêm hon ond yn ymwneud â thactegau a hyfforddiant – yn hytrach, mae’n golygu manteisio ar gefnogaeth pawb yn ein cymuned, gan gynnwys ein cyn-fyfyrwyr gwerthfawr.

Felly, dyma’ch gwahodd i ymuno â ni yn y daith gyffrous hon. Gadewch i ni ail-gysylltu â’n gilydd, hel atgofion a chyfrannu at hanes llewyrchus a pharhaus Rygbi Prifysgol Caerdydd. Cymerwch y cam cyntaf heddiw drwy rannu eich cysylltiad personol chi â’r clwb.

Cofion cynnes, Chris Davies – Pennaeth Rygbi, Prifysgol Caerdydd