Skip to main content

Cyswllt CaerdyddDonateEin Cyn-fyfyrwyrNewyddion

Talu’r cymorth ymlaen: Y cyn-fyfyriwr sy’n helpu merched ifanc i gael mynediad at addysg

1 Mai 2024

Yn 2023, enillodd yr entrepreneur Grace Munyiri (MSc 2023) Dyfarniad Menter Gymdeithasol Gavin Davidson. 

Mae’r dyfarniad, sy’n cael ei ariannu gan y cyn-fyfyriwr Gavin Davidson (MBA 1992), yn helpu myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy’n angerddol dros fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a chreu newid cymdeithasol cadarnhaol. Dyfarnwyd £3,000 i Grace am ei gwaith yn rhan o Cacumator Mentorship, ar ôl dangos sgiliau busnes cryf a syniad gydag effaith gymdeithasol.   

Yma, mae’n dweud wrthon ni am ei chenhadaeth i wella mynediad at addysg, a sut mae’r cymorth a gafodd wedi ei helpu i adeiladu dyfodol mwy disglair i bawb. 

Dywedwch wrthon ni amdanoch chi a’ch gwaith yn rhan o Cacumator Mentorship. 

Mae Mentoriaeth Cacumator yn rhaglen ond mae hefyd yn genhadaeth hynod bersonol. Cefais fy magu yn Kenya ac roeddwn i’n wynebu’r heriau y mae llawer o ferched ifanc yn Affrica yn wynebu wrth geisio cael mynediad at addysg. Roedd yn rhaid i mi gerdded am adeg hir i gyrraedd yr ysgol, roedd adnoddau yn brin, ac fe wnaeth y rhain yn ogystal â phwysau cymdeithasol bron â difethi fy mreuddwydion. Rwy’n cofio’r nosweithiau a dreuliais yn astudio yng ngolau cannwyll, yn teimlo’n amheus, ac yn ddiweddarach yr ymdeimlad o gyflawniad ar ôl graddio.

Roedd gweld llawer o ferched ifanc a orfodwyd i roi’r gorau i’r ysgol oherwydd bod yn rhaid iddynt briodi’n ifanc, lle nad oedd parch mawr at addysg i ferched, ond yn fy ngwneud yn fwy penderfynol i sefydlu Cacumator Mentorship yn 2016. Mae’r rhaglen yn rhoi cymorth, adnoddau a hyfforddiant sgiliau i unigolion er mwyn galluogi nhw i gael mynediad at addysg, ac yn y pen draw llwyddo yn eu bywydau proffesiynol a phersonol. Rydyn ni wedi cefnogi cannoedd o ferched ifanc yn Affrica hyd yma, ac rydyn ni’n bwriadu helpu llawer mwy. 

Pan oeddwn i’n iau, roeddwn i’n ffodus o gael mentoriaid a oedd yn credu ynof fi ac a oedd yn fy nghefnogi bob cam o’r ffordd. Cacumator Mentorship yw fy ffordd o dalu’r cymorth hwnnw ymlaen, gan sicrhau bod pob merch ifanc, waeth beth yw ei chefndir, yn cael yr un cyfleoedd a wnes i.

Sut wnaeth eich mentoriaid eich cefnogi yn eich gyrfa academaidd? 

Mae arweiniad fy mentoriaid wedi bod yn allweddol.  Roedden nhw’n gweld potensial ynof fi pan nad oeddwn i’n gallu ei weld ynof fy hun, gan roi’r dewrder i mi wthio fy hun ymlaen. Mae eu geiriau o ddoethineb, anogaeth a chefnogaeth ddiddiwedd wedi bod yn hollbwysig, gan fy siapio i mewn i’r fenyw rydw i heddiw. Eu heffaith yw’r rheswm y tu ôl i’m hymrwymiad i fentoriaeth.

Beth yw eich nodau yn y tymor hir ar gyfer Cacumator Mentorship, a sut mae Dyfarniad Menter Gymdeithasol Gavin Davidson wedi eich helpu i wneud cynnydd tuag atynt? 

Mae’r dyfarniad o £3,000 wedi ein helpu i ehangu ein cyrhaeddiad a dyfnhau ein heffaith, gan weithio tuag at newid sy’n mynd y tu hwnt i genedlaethau.  

Un fenter sylweddol a gefnogir gan yr arian hwn oedd ein hymdrechion allgymorth i gymunedau newydd. Roedd yr ymweliadau hyn yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i ymgysylltu’n uniongyrchol â merched Affricanaidd a’u teuluoedd, gan ddechrau sgyrsiau am bwysigrwydd addysg a gobaith ysbrydoledig am ddyfodol mwy disglair. 

Roedd y dyfarniad hefyd yn ein galluogi i wella’r rhaglenni presennol a rhoi cymorth cynhwysfawr, o ddeunyddiau addysgol i weithdai adeiladu sgiliau. Fe wnaethon ni feithrin partneriaethau gydag ysgolion lleol i greu llwybrau cynaliadwy ar gyfer ymgysylltu hirdymor, ac i feithrin gwerthoedd o wydnwch ac uchelgeisiau yng nghalonnau merched ifanc.  

Rydyn ni hefyd yn cydnabod y rôl hanfodol y mae teuluoedd yn ei chwarae wrth lunio amgylchedd cefnogol ar gyfer gyrfaoedd academaidd merched. Drwy drefnu gweithdai a seminarau i rieni, rydyn ni’n cynnig arweiniad ar sut y gallant gefnogi dyheadau eu merched yn weithredol.  

Yn y tymor hir, rwy’n rhagweld bydd pob merch ifanc sy’n ymuno â’n rhaglen yn cyflawni ei nodau addysgol a hefyd yn helpu i ysgogi newid yn ei chymuned. Fy nod yw torri’r cylch tlodi ac anghydraddoldeb sy’n effeithio llawer o ferched Affricanaidd, gan eu grymuso i ddod yn arweinwyr, gwneuthurwyr newid, ac eiriolwyr dros addysg. 

 Sut oeddech chi’n teimlo pan gawsoch eich cyhoeddi yn enillydd y dyfarniad? 

Roedd cyrraedd y rhestr fer a chael fy nghyhoeddi’r enillydd yn foment o lawenydd a diolchgarwch pur. Cefais fy llethu gan emosiwn, gyda dagrau o lawenydd yn llifo i lawr fy wyneb. Mae wedi cadarnhau bod yr oriau o waith caled, ymroddiad ac aberth y mae tîm Cacumator Mentorship a minnau wedi’u rhoi i’r rhaglen hon yn werth chweil.

Roedd hefyd yn ein hatgoffa bod ein gwaith yn cael ei gefnogi a’i werthfawrogi, gan ein hannog i barhau i ymdrechu am ragoriaeth wrth rymuso merched ifanc.

Sut beth oedd eich profiad yn astudio gradd meistr ym Mhrifysgol Caerdydd? 

Mae astudio MSc mewn Gwyddorau Data a Dadansoddeg ym Mhrifysgol Caerdydd wedi bod yn drawsnewidiol. Mae’r brifysgol wedi rhoi addysg o’r radd flaenaf i mi, a hefyd wedi rhoi llwyfan i mi ehangu fy llais a gwneud gwahaniaeth yn y byd. Rydw i wedi cymryd rhan weithredol mewn rolau amrywiol o fewn tîm arweinyddiaeth Undeb y Myfyrwyr yn ogystal ag ymgysylltu â sawl clwb. Mae’r gefnogaeth a gefais gan fy athrawon, cyd-ddisgyblion, tîm Dyfodol y Myfyrwyr a chymuned ehangach y brifysgol wedi bod yn amhrisiadwy wrth lunio fy nhaith a gwaith Cacumator Mentorship. 

Beth fyddet ti’n ei ddweud wrth gyn-fyfyriwr sy’n ystyried cefnogi myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a’u huchelgeisiau? 

Gallwch chi newid bywydau drwy eich cefnogaeth.  Mae eich buddsoddiad yn eu dyfodol yn fuddsoddiad mewn byd mwy disglair, a theg i bawb.  

Mae un o fy mentoriaid, gyn-fyfyriwr arall o Brifysgol Caerdydd, wedi cychwyn Ysgoloriaeth Imisa Mategwa – Nina Sauti, a fydd yn cefnogi menyw o Affrica Is-Sahara yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant. Dyma un enghraifft yn unig o sut y gall cyn-fyfyrwyr helpu myfyrwyr i gael gafael ar yr adnoddau a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu breuddwydion. 

Rhagor o wybodaeth am gefnogi myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. 

Mae hefyd lawer o ffyrdd eraill y gallwch chi wirfoddoli eich amser a’ch arbenigedd i helpu i ysbrydoli a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.