Gall sefydlu busnes o'r newydd fod yn heriol. Felly gall dysgu o'ch taith eich hun yn ogystal â rhai pobl eraill fod yn hanfodol i sicrhau bod eich menter yn llwyddiant. Cawsom sgwrs â rhai o'n cyn-fyfyrwyr gwybodus sydd wedi rhannu eu cyngor ar gychwyn eich busnes newydd.
Dathlu Pen-blwydd Gair Rhydd yn 50 oed eleni. Mae Gair Rhydd wedi gweld llu o newidiadau ers ei argraffiad cyntaf ar 3 Hydref 1972, o ysgrifennu erthyglau ar deipiaduron a’u pinio i fyrddau gosod i’w hargraffu, i gyhoeddi’r papur ar-lein yn ddidrafferth.
Mae Cwpan Rygbi'r Byd ar y gweill yn Seland Newydd. Dechreuodd Cymru eu hymgyrch gyda buddugoliaeth agos o 18-15 yn erbyn yr Alban. Mae’r flwyddyn hon yn arwyddocaol iawn gan mai dyma’r tro cyntaf i nifer o’r tîm fynd i’r twrnamaint gyda chytundebau proffesiynol.
Mae Dr Kerrie Thomas yn Ddarllenydd yn y Sefydliad Ymchwil Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMHRI) ac yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Hodge ar gyfer Imiwnoleg Niwroseiciatrig. Nod ei hymchwil yw datblygu ein dealltwriaeth o PTSD (Anhwylder Straen Ôl-Drawmatig) ac, yn y pen draw, wella'r ffordd rydym ni'n trin y cyflwr dinistriol hwn.
Mae myfyrwyr wrth galon Prifysgol Caerdydd, ond gall heriau ariannol atal y meddyliau gorau a mwyaf disglair rhag cael mynediad at yr addysg a'r cyfleoedd y maent yn eu haeddu.
Y llynedd rhoddodd ein cefnogwyr swm syfrdanol o £68,000 tuag at gefnogi myfyrwyr Caerdydd i gyflawni eu llawn botensial, trwy roddion hael, yn ogystal ag anrhegion mewn Ewyllysiau ac er cof am anwyliaid. Rhoddodd ein cynfyfyrwyr eu hamser a’u harbenigedd hefyd i gefnogi ein myfyrwyr trwy fentora, gwneud cyflwyniadau am yrfaoedd a chynnig interniaethau i’w helpu i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl Caerdydd.
Yn dilyn ymateb enfawr gan y gymuned o gynfyfyrwyr, mae Barry Sullivan, Pennaeth Cysylltiadau Cynfyfyrwyr, yn rhoi crynodeb i ni am yr hyn fydd yn digwydd nesaf, beth i edrych amdano ar y rhestr, ac efallai hyd yn oed awgrym am bwy sydd wedi’u henwebu ar gyfer y gwobrau (tua)30.
Ddydd Sul 2 Hydref, rhedodd tua 70 o gynfyfyrwyr, myfyrwyr a staff yn Hanner Marathon Caerdydd, i godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff. Eu nod yw codi £25,000 ar gyfer niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, ac ymchwil canser.
Gall newid gyrfa fod yn frawychus, ond hefyd yn hynod werth chweil. Cawsom sgwrs gyda rhai o'n cynfyfyrwyr sydd wedi cymryd y cam mawr i lwybr gyrfa hollol newydd.
Astudiodd Ross Clarke (MA 2014) Newyddiaduraeth Cylchgronau ac mae bellach yn awdur bwyd a theithio i deitlau fel National Geographic Traveller a The Independent. Mae'n rhannu ei rysáit fritterau hawdd a blasus â'r cyn-fyfyrwyr.
Ym mis Mawrth, cymerodd Esther Morris (BA 2018), Uwch Swyddog Gweithredol Cyfrifon yn Nelson Bostock Ultd, ran yn ein cynllun mentora blynyddol ar gyfer cyn-fyfyrwyr Caerdydd - Menywtora. Cafodd Esther ei pharu â’i chyd-fyfyriwr Rebecca Harris (BA 2008), Uwch Reolwr Masnachol yn The Walt Disney Company. Mae Esther yn rhannu ei phrofiadau o’r rhaglen a’r manteision a gafodd o gael ei pharu â mentor.