Skip to main content

#TeamCardiffCyswllt CaerdyddStraeon cynfyfyrwyr

Cefnogi ymchwil canser sy’n trawsnewid bywydau – Mollie Lewis (BSc 2022)

8 Mawrth 2023

Mae Mollie Lewis (BSc 2022) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref i helpu i godi arian ar gyfer yr ymchwil canser sy’n trawsnewid bywydau a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd. Gan mai dyma’r tro cyntaf iddi redeg hanner marathon, mae Mollie yn rhannu ei syniadau am ddechrau ymarfer yn ogystal â’r gefnogaeth anhygoel y mae wedi’i chael gan deulu, ffrindiau a #TeamCardiff.

Rydw i wedi bod eisiau herio fy hun ers amser i gofrestru ar gyfer hanner marathon, ond nid wyf erioed wedi bod yn ddigon dewr. Pan sylweddolais y gallwn redeg yn rhan o #TeamCardiff a chodi arian at achos gwych, roedd yn rhaid i mi ymuno.

Yn 2021 cafodd fy mam ddiagnosis o ganser y fron. Roedd y diagnosis yn sioc i’n teulu cyfan. Yn ystod y misoedd yn dilyn ei diagnosis cafodd lawdriniaethau, triniaethau a meddyginiaeth hirdymor.

Diolch byth, oherwydd ymchwil anhygoel i ganser, datganwyd bod fy mam yn ddi-ganser yn 2022. Mae Chwefror 2023 yn nodi blwyddyn gyfan o fod yn rhydd o ganser, sy’n gymhelliant gwych i mi ddechrau rhedeg a chodi arian ar gyfer ymchwil i salwch a thriniaethau sy’n trawsnewid bywydau.

Ie, dyma fy her redeg gyntaf un ac nid yw’n un hawdd. Dim ond ar ôl cofrestru ar gyfer yr hanner marathon y dechreuais redeg. A chyn hynny, doeddwn i erioed wedi ceisio rhedeg hyd yn oed 5K, gan fod hynny’n ymddangos yn bell! Y syniad o allu hyfforddi ar gyfer yr her hon, tra’n codi arian ar gyfer ymchwil mor wych, yw’r cymhelliant gorau y gallwn o bosibl ofyn amdano.

Dechreuais hyfforddi ar ddechrau mis Ionawr. Penderfynais mai’r ffordd orau i ddechrau hyfforddi oedd ei gychwyn ar ddechrau’r flwyddyn newydd, yn y gobaith o greu arferiad newydd. Nid yw wedi bod yn hawdd, yn enwedig gan fod y nosweithiau gaeafol yn dywyll ac yn oer. Yn ffodus, wrth i’r wythnosau fynd heibio, rydw i’n dechrau teimlo’n fwy cyfforddus a hyderus wrth redeg.

Mae hefyd yn gyfle gwych i gamu i ffwrdd o dechnoleg gan fy mod yn treulio oriau yn gweithio ar fy nghyfrifiadur yn ystod fy oriau gwaith ac yn aml byddaf yn mynd yn syth adref i syllu ar fy ffôn neu deledu. Mae rhedeg wedi gwneud i mi gymryd hoe i ffwrdd o fy sgrin ac mae bron wedi fy ngorfodi i gymryd seibiant o’r byd digidol oedd ei angen yn fawr.

Mae pawb wedi bod yn hynod gefnogol. Mae fy nheulu wedi bod yn galonogol iawn, er gwaethaf y sioc fawr fy mod wedi cofrestru. Mae fy nghydweithwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn ac yn hyderus y gallaf gyflawni hyn.

Mae llawer ohonyn nhw wedi rhedeg ar ran #TeamCardiff o’r blaen, felly maen nhw wedi rhoi cymorth a chyngor hyfforddi i mi. Mae’n ddefnyddiol clywed am yr holl bethau y dylech ac na ddylech eu gwneud yn y cyfnod cyn y diwrnod mawr.

Mae’r gefnogaeth gan Brifysgol Caerdydd a #TeamCardiff wedi bod yn hyfryd. Mae’r awgrymiadau ar gyfer hyfforddi a sut i baratoi wedi bod yn ddefnyddiol. Mae wedi bod yn wych derbyn cylchlythyr #TeamCardiff, gyda geiriau ysgogol a chyngor ar gyfer codi arian.

Rwy’n edrych ymlaen at weld Caerdydd ar ddiwrnod y ras yn llawn pobl a chyffro. Mae’n hyfryd gweld y ddinas rwy’n byw ac yn gweithio ynddi, yn llawn hwyl a chwerthin. Mae hefyd yn ffordd wych o weld cymuned Caerdydd yn dod at ei gilydd i ddathlu llwyddiannau pawb a gymerodd ran. A dwi, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at orffen yr hanner marathon!

Gallwch gefnogi ymdrechion codi arian Mollie drwy ei thudalen JustGiving. Oes gennych ddiddordeb rhedeg Hanner Marathon Caerdydd yn 2023? Gwnewch gais am un o’n lleoedd sy’n weddill.

Mae gwaith codi arian #TeamCardiff yn cefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd i niwrowyddoniaeth, iechyd meddwl, a chanser. Drwy gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch chi helpu i ddod o hyd i ddarganfyddiadau yn gyflymach. Bydd hyn yn newid bywydau er mwyn gwella’r gwaith o atal, rhoi diagnosis a chynnig triniaeth i bobl sy’n byw gydag ystod eang o gyflyrau.