Skip to main content

Donate

Cwrdd â’r Ymchwilydd – Dr Kerrie Thomas

17 Hydref 2022

Mae Dr Kerrie Thomas yn Ddarllenydd yn y Sefydliad Ymchwil Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMHRI) ac yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Hodge ar gyfer Imiwnoleg Niwroseiciatrig. Nod ei hymchwil yw datblygu ein dealltwriaeth o PTSD (Anhwylder Straen Ôl-Drawmatig) ac, yn y pen draw, wella’r ffordd rydym ni’n trin y cyflwr dinistriol hwn.

Dywedwch ychydig wrthym am eich ymchwil

Hunllefau, ôl-fflachiadau, colli cof, anhunedd: Mae Anhwylder Straen Ôl-Drawmatig (PTSD) yn gyflwr gwanychol ac ar hyn o bryd nid oes gennym gyffuriau effeithiol i’w drin.

Gan weithio gyda’r Athro Paul Morgan (BSc 1977, MBBCh 1980, PhD 1984), cefais grant Sefydliad Hodge i ymchwilio i brosiect peilot i ddarganfod a allai targedu’r system ategol ei hun helpu cleifion â PTSD.

Mae cleifion â PTSD yn dioddef o’r hyn rydym yn ei alw’n atgofion ofn cyndyn, anhyblyg. Mae’r atgofion hyn yn anodd eu prosesu. Maent yn ymwthiol ac yn arbennig o fyw. Rydym wedi canfod y ceir newid yn hipocampws (hyb atgofion) yr ymennydd pan fo atgofion ofn yn cael eu galw i gof – fel y maent yn aml
yn y rhai sydd â PTSD. Yn benodol, ceir newid yn y system ategol sydd ar waith yno.

Mae’r system ategol yn rhan o’r system imiwnedd. Mae’n gwella proses y corff o ddileu achosion clefydau, ac mae’n sicrhau gweithrediad arferol yr ymennydd, gan fireinio’r cysylltiadau rhwng celloedd yr ymennydd. Nod ein prosiect yw archwilio’r newidiadau i’r system ategol mewn cleifion PTSD yn fanylach, er mwyn trin yr anhwylder hwn.

Rydym yn gofyn a allai’r cyfathrebu fod yn ddwyffordd – gan fod atgofion ofn yn effeithio ar y system ategol, a allai hefyd addasu atgofion ofn, ac felly a allai fod yn darged i drin PTSD?

Yn benodol, rydym yn ymchwilio i rôl microglia, a oedd yn cael ei ystyried yn y gorffennol fel celloedd cymorth, ond sy’n cael eu deall yn fwyfwy fel rhai arwyddocaol mewn ymatebion imiwnedd, gan actifadu’r system imiwnedd.

Rydym eisoes wedi gallu dangos bod un dos systemig o gyffur sy’n lleihau actifadu microglia yn gallu lleihau atgofion ofn yn y tymor hir. Dyma’r dystiolaeth gyntaf i ddangos y gall lleihau actifadu microglia ar ôl galw atgofion i gof leihau atgofion ofn ac y gallai triniaethau dros gyfnod penodol sy’n targedu microglia fod yn effeithiol wrth drin anhwylderau seiciatrig.

I ddysgu mwy am yr hyn sy’n digwydd o dan y canfyddiadau hyn, rydym ar hyn o bryd yn ymchwilio a yw rhwystro’r system signalau ategol yn arwain at ganlyniadau tebyg.

Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer eich ymchwil a’i budd i bobl yn y dyfodol?

Gobeithio y gallwn barhau gyda’n hymchwil i helpu i ddatblygu triniaeth newydd ar gyfer anhwylderau sy’n gysylltiedig â phroblemau’r cof. Gall ein gwaith hefyd hysbysu pryd i roi’r driniaeth ac i ba is-boblogaeth, am y cyfleoedd gorau i adfer. Er enghraifft, ceir blwch mawr yn ein dealltwriaeth o ran a yw triniaethau cyffuriau’r un mor effeithiol ym mhobl o’r ddau rhyw. Mae ein data ein hunain yn dangos bod effeithiau tebyg ein cyffur i’w gweld mewn dynion a menywod, ond mae rhai gwahaniaethau bach ond pwysig. Rydym yn credu bod hyn yn faes pwysig i ganolbwyntio arno.

Beth wnaeth eich ysbrydoli neu sydd o ddiddordeb i chi yn y maes ymchwil penodol hwn?

Dwi wastad wedi bod â diddordeb yn y ffordd mae’r ymennydd yn creu ac yn defnyddio atgofion. Er gwaethaf dros 100 mlynedd o wyddoniaeth arbrofol, dydyn ni dal ddim yn deall y fioleg sylfaenol yn llwyr yn ei chymhlethdod llawn a rhyfeddol. Fodd bynnag, rydym mewn cyfnod newydd cyffrous gyda dulliau newydd o ddelweddu’r ymennydd ar waith, dod i wybod ei thirwedd enetig a deall sut mae’n rhyngweithio â systemau eraill fel y systemau imiwnedd a pherfedd, i allu cael mewnwelediadau defnyddiol iawn i iechyd ac afiechyd. Mae’n fraint fawr cael bod yn rhan o’r broses.

Beth yw manteision gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd?

Mae’r gymuned academaidd niwrowyddorau a’r adnoddau ymchwil yn rhagorol – o safon ryngwladol. Mae Caerdydd wedi creu amgylchedd cymharol unigryw lle mae’n hawdd cydweithio â chydweithwyr ar draws Ysgolion, a hynny drwy ofodau a rennir a mentrau ariannu eraill.

Beth yw eich hoff bethau am Gaerdydd?

Y mannau gwyrdd yn y ddinas a’r cyffiniau, ei hymdeimlad o hunaniaeth trwy ddiwylliant a chwaraeon, a’r amrywiaeth helaeth o fwyd da! Mae’n lle gwych i fagu teulu. Mae’n lle sy’n annog cymuned y tu mewn a’r tu allan i’r Brifysgol.

Beth byddech chi’n ei ddweud wrth roddwyr a chodwyr arian sydd wedi helpu i gefnogi eich ymchwil?

Diolch. Mae eich rhoddion yn rhan hanfodol o’r dirwedd ariannu. Maent yn darparu cyllid Seedcorn i’n helpu ymchwilwyr i wireddu syniad newydd, gan ei dynnu oddi ar y papur i ddangos prawf cysyniad trwy arbrawf. Mae eich cefnogaeth yn ein galluogi i fod yn wirioneddol greadigol a rhoi cyfle i ni roi cynnig ar atebion newydd i faterion hirsefydlog.

Rhagor o wybodaeth am ymchwil niwrowyddorau ac iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd.