Skip to main content

DonateStraeon cynfyfyrwyr

Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr Caerdydd – golwg yn ôl ar y flwyddyn

11 Hydref 2022

Mae myfyrwyr wrth galon Prifysgol Caerdydd, ond gall heriau ariannol atal y meddyliau gorau a mwyaf disglair rhag cael mynediad at yr addysg a’r cyfleoedd y maent yn eu haeddu.

Y llynedd rhoddodd ein cefnogwyr swm syfrdanol o £68,000 tuag at gefnogi myfyrwyr Caerdydd i gyflawni eu llawn botensial, trwy roddion hael, yn ogystal ag anrhegion mewn Ewyllysiau ac er cof am anwyliaid. Rhoddodd ein cynfyfyrwyr eu hamser a’u harbenigedd hefyd i gefnogi ein myfyrwyr trwy fentora, gwneud cyflwyniadau am yrfaoedd a chynnig interniaethau i’w helpu i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl Caerdydd.

Mae’r cymorth hwn wedi’i gwneud hi’n bosibl i gannoedd o fyfyrwyr barhau â’u hastudiaethau mewn cyfnodau anodd, cael mynediad at gyfleoedd efallai na fyddent wedi gallu eu gwneud, a datblygu’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol.

Cymorth ariannol mewn argyfwng costau byw

Gall caledi ariannol gael effaith enfawr ar ein myfyrwyr, ac yn aml mae’n anodd iddynt gydbwyso gwaith ac astudiaethau. Gall yr anawsterau hyn olygu eu bod yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl, yn colli cyfleoedd, neu weithiau’n rhoi’r gorau i’w hastudiaethau’n gyfangwbl. Diolch i roddwyr hael, gellir lleddfu’r pwysau ariannol hyn, a gall y cymorth a gynigir helpu i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cwblhau eu hastudiaethau a manteisio i’r eithaf ar eu hamser yn y brifysgol. Eleni cefnogwyd dros 200 o fyfyrwyr trwy fwrsariaethau, ysgoloriaethau a gwobrau .

“Sylweddolais fy mod eisiau astudio Meddygaeth tra’n gweithio mewn cartref gofal i oedolion ag anafiadau i’r ymennydd. Ond roedd astudio Meddygaeth yn fyfyriwr aeddfed yn heriol yn ariannol. Roeddwn yn 36 ac wedi cael plentyn yn ddiweddar. Roeddem yn dibynnu ar incwm fy mhartner, felly roedd yn anodd talu am ofal plant ac roedd hyn yn effeithio ar ba mor aml y gallai fy mab fynd i feithrinfa. Roedd cost tanwydd i deithio yn ôl ac ymlaen i’m lleoliadau clinigol yn cynyddu’r costau a oedd yn ein hwynebu.

“Cafodd Bwrsari Rashid Domingo effaith enfawr ar fy sefyllfa. Roedd yn lleddfu’r beichiau ariannol hyn a’r straen sy’n dod gyda nhw, gan ganiatáu i mi ymgolli’n llwyr yn fy ngradd. Mae wedi helpu fy nheulu’n aruthrol ac rwy’n gwybod y bydd yn cael effaith barhaus wrth i mi ddechrau fy ngyrfa yn feddyg.” Anhysbys (MBBCh 2022)

Sgiliau a Phrofiad

Mae ein gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith trwy fentora, interniaethau a lleoliadau ymchwil i helpu ein myfyrwyr i gael gwybodaeth, sgiliau a thanio angerdd am yrfaoedd yn y dyfodol. Yn aml, interniaeth yw’r tro cyntaf i fyfyriwr gael profiad “go-iawn” o waith â thâl ac mae ein cefnogwyr yn ein helpu i hwyluso interniaethau â chyflog a fydd yn gwella cyflogadwyedd, ac yn aml yn arwain at fwy o gyfleoedd cyflogaeth. Mae’r cyfleoedd hyn yn aml yn cael eu cynnig gan ein cynfyfyrwyr, gan helpu ein myfyrwyr i ddatblygu eu rhwydweithiau, a meithrin cysylltiadau defnyddiol. Eleni gwnaeth 217 o gynfyfyrwyr gynnig interniaethau neu fentora, i gefnogi cenhedlaeth nesaf cynfyfyrwyr Caerdydd.

“Ar ddechrau fy ail flwyddyn, doedd gen i ddim syniad beth roeddwn i eisiau ei wneud ar ôl y brifysgol na ble i ddechrau. Gwnes i gais ar gyfer y cynllun mentora a chefais interniaeth trwy fy mentor. Trwy hyn rydw i wedi dysgu llawer iawn am y diwydiant celfyddydol ac wedi cael nifer o sgiliau newydd.”

“Cyn hynny, doedd gen i ddim syniad am fyd gwaith mewn gwirionedd, ac roedd hyn yn fy ngwneud yn nerfus ac yn bryderus. Er nad wyf yn gwybod o hyd sut olwg fydd ar fywyd ar ôl prifysgol i mi, nid wyf bellach yn poeni am y dyfodol, a’r peth mwyaf gwerthfawr i mi ei gael o’r profiad hwn yw hyder.”  Ally-Joh Gowan-Day (Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 2020-)

Gweithio, astudio neu wirfoddoli dramor

Mae ein cefnogwyr wedi helpu i gael gwared ar y rhwystrau ariannol i weithio, astudio neu wirfoddoli dramor i lawer o’n myfyrwyr na fyddent efallai wedi gallu fforddio gwneud hynny fel arall. Mae’r rhaglen Cyfleoedd Byd-eang yn cefnogi ein myfyrwyr i ddarganfod diwylliannau eraill, dysgu sgiliau ac ieithoedd newydd, a ffurfio cyfeillgarwch gydol oes. Mae’r profiadau hyn yn rhoi hwb i’w hyder, eu CV a’u cyflogadwyedd, ac yn helpu i ddatblygu dinasyddion gwirioneddol fyd-eang. Eleni, cefnogwyd miloedd o fyfyrwyr i weithio neu wirfoddoli dramor.

“Yr haf hwn cefais gyfle i ymweld â Washington DC lle bues i’n gweithio yng ngwersyll diwrnod Sandy Spring i blant rhwng pedair a 12 oed. Cynghorwr oeddwn i ac yn y boreau roeddwn i’n arbenigwr cyfrifiadurol, ac yn defnyddio’r hyn a ddysgais yn fy ngradd cyfrifiadureg i addysgu rhaglenni cyfrifiadurol amrywiol i’r myfyrwyr. Dydw i erioed wedi bod yn yr Unol Daleithiau o’r blaen ac nid oedd cyfle tebyg i hwn o fewn cyrraedd i rywun fel fi.”

“Cefais gefnogaeth anhygoel, gan gynnwys y cyllid i’m helpu i reoli cost y daith a’r cymorth gan y rhwydwaith o staff i’m helpu i gynllunio’r daith a’i gwneud mor hawdd â phosibl. Roedd cael y gefnogaeth hon wedi rhoi’r hyder i mi gamu allan o’m hardal gysur a gwneud rhywbeth nad wyf erioed wedi meddwl oedd yn bosibl o’r blaen.” Zaria Cameron (Cyfrifiadureg 2020-)

Canolfan Bywyd y Myfyrwyr newydd

Ym mis Medi 2021, lansiwyd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr newydd yng nghanol y campws, gan ddod ag ystod o wasanaethau myfyrwyr ynghyd o dan yr un to. Yn ystod y deuddeg mis diwethaf mae miloedd o fyfyrwyr wedi dod i’r adeilad deinamig hwn i gael cymorth gyrfaol, cwnsela a gwasanaethau lles, a chyngor ar arian a thai.

Ym mis Mehefin 2022, lansiwyd gwasanaeth iechyd meddwl GIG newydd ar gyfer myfyrwyr Caerdydd, i helpu i bontio’r bwlch rhwng gwasanaethau’r Brifysgol ei hun a gwasanaethau’r GIG. Bydd y gwasanaeth hwn, sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, yn helpu gydag asesiadau iechyd meddwl manwl ac atgyfeiriadau ac arweiniad drwy wasanaethau’r GIG, i wneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Diolch enfawr i’n holl gefnogwyr am wneud cymaint o wahaniaeth y llynedd i’n myfyrwyr.

Rhagor o wybodaeth am gefnogi myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a gwneud pob cyfle yn hygyrch i genhedlaeth nesaf cyn-fyfyrwyr Caerdydd. Cyflwynwch anrheg ariannol. Rhowch eich amser neu arbenigedd.