Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Mae enillydd gwobrau (tua)30 wedi’u dewis – rhagolwg arbennig

4 Hydref 2022

Yn dilyn ymateb enfawr gan y gymuned o gynfyfyrwyr, mae Barry Sullivan, Pennaeth Cysylltiadau Cynfyfyrwyr, yn rhoi crynodeb i ni am yr hyn fydd yn digwydd nesaf, beth i edrych amdano ar y rhestr, ac efallai hyd yn oed awgrym am bwy sydd wedi’u henwebu ar gyfer y gwobrau (tua)30.

Gofynnon ni. Ac fe wnaethoch chi ymateb. Yn sicr fe wnaethom danamcangyfrif faint ohonoch fyddai’n ymateb! Cyflwynwyd 283 o enwebiadau i fod yn fanwl gywir – neu (tua) 280 hyd yn oed! Rydyn ni’n gwybod bod ein cynfyfyrwyr yn gwneud y byd hwn yn lle gwell, ond fe ddaethon ni o hyd i lawer o ddarganfyddiadau newydd anhygoel, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu rhai o’r straeon hyn gyda chi.

A dweud y gwir, gallai’r panel fod wedi llenwi’r holl leoedd gyda chynfyfyrwyr sydd wedi bod yn gweithio’n ddiflino yn y rheng flaen yn ystod y pandemig. Neu dim ond gydag entrepreneuriaid arloesol. Peidiwch â’n cam-gymryd— mae digon ohonyn nhw ar y rhestr ac yn derbyn gwobr. Ond byddwn hefyd yn dathlu’r bobl ddylanwadol, gan fod eu henwebiadau yn dod i’r amlwg. Ymgyrchwyr, trefnwyr cymunedol, eiriolwyr, cyflogwyr, dylanwadwyr a chymysgwyr*, i enwi rhai’n unig.

Rydyn ni nawr yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n gallu gwneud cyfiawnder â stori pob enillydd pan fyddwn ni’n cyhoeddi’r rhestr (tua)30, felly cewch chi ragor o wybodaeth ym mis Hydref! Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i’r straeon sy’n bwysig i chi byddwn yn eu rhannu’n grwpiau ar y rhestr:

  • Actifydd cymunedol
  • Cymru a’r Byd
  • Actifydd cydraddoldeb
  • Actifydd amgylcheddol
  • Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau
  • Arloesedd
  • Entrepreneuriaeth

Gobeithio y cewch chi rywfaint o ysbrydoliaeth ar gyfer eich gwaith eich hun, neu hyd yn oed ar gyfer gwobrau’r flwyddyn nesaf! Ar ôl ymateb mor gadarnhaol gan ein cymuned rydym yn weddol hyderus y bydd (tua) 30 yn dychwelyd yn y dyfodol. Rydym hefyd wedi gwrando ar adborth a byddwn yn ystyried sut y gallwn ddathlu straeon o bob rhan o’r sîn cynfyfyrwyr.

Mae’r (tua) 30 enillydd y byddwn yn eu dathlu ym mis Hydref eisoes wedi’u hysbysu a’u gwahodd yn ôl ar gyfer ein digwyddiad gwobrwyo arbennig. Byddwn yn adrodd yn ôl wedyn i rannu straeon a lluniau a fydd, gobeithio, yn eich gwneud chi mor falch o fod yn gyn-fyfyriwr Caerdydd fel yr ydym ni.

Bydd hon yn noson o ddathlu ar gyfer ein cynfyfyrwyr arloesol o Gaerdydd. Bydd yn cael ei chynnal gan cyd-gynfyfyriwr Pat Younge (BSc 1987), a meistr y seremonïau fydd y cynfyfyrwyr Babita Sharma (BA 1998).

Graddiodd Babita Sharma (BA 1998) o JOMEC gyda BA mewn Newyddiaduraeth, Ffilm a Darlledu ac mae wedi darlledu am ddigwyddiadau newyddion pwysig ar y BBC ers dros ddau ddegawd yn Brif Gyflwynydd Newyddion a dogfennwr. Mae Babita hefyd yn awdur arobryn ac mae wedi curadu sawl prosiect diwylliannol sy’n hyrwyddo amrywiaeth ledled y DU.

Graddiodd Pat Younge (BSc 1987) o EARTH gyda BSc mewn Daeareg Gloddio – ond yn y cyfryngau, datblygodd yrfa lwyddiannus, a oedd yn cynnwys cyfnodau yn Llywydd The Travel Channel (UDA), a Phrif Swyddog Creadigol y BBC, cyn sefydlu Cardiff Productions Cyf. Pat hefyd yw Cadeirydd presennol y Cyngor, corff llywodraethol Prifysgol Caerdydd.

Ddim yn teimlo (tua)30 ? A chithau’n gyn-fyfyriwr, mae llawer o ffyrdd eraill o gymryd rhan. Gallwch gyfrannu drwy gyflwyno darn ar gyfer I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr. Gallwch gefnogi darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol drwy fentora neu wirfoddoli. Neu, gallwch gynnig cyngor i’n graddedigion diweddaraf ar ein platfform rhwydweithio Cysylltiad Caerdydd.

* Rydych chi wedi darllen hynny’n iawn: “cymysgydd” person sy’n fedrus wrth gymysgu coctels a diodydd eraill