Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Cynfyfyrwyr Caerdydd yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd

26 Hydref 2022

Mae Cwpan Rygbi’r Byd ar y gweill yn Seland Newydd. Dechreuodd Cymru eu hymgyrch gyda buddugoliaeth agos o 18-15 yn erbyn yr Alban. Bydd y tîm yn wynebu Seland Newydd yn rownd ogynderfynol y twrnamaint, ar ôl symud drwy ei grŵp. Mae’r flwyddyn hon yn arwyddocaol iawn gan mai dyma’r tro cyntaf i nifer o’r tîm fynd i’r twrnamaint gyda chytundebau proffesiynol.

Eleni mae URC wedi dyfarnu 12 o gontractau amser llawn yn ogystal â sawl contract lled-broffesiynol.

Elinor Snowsill (TAR 2014)

Yn ogystal ag astudio gradd meistr yng Nghaerdydd, cynrychiolodd Elinor dîm rygbi’r Brifysgol. Pontiodd Elinor o bêl-droed i rygbi yn ei harddegau hwyr. Mae’n faswr ac erbyn hyn wedi derbyn cytundeb proffesiynol. Ar hyn o bryd mae hi’n chwarae’n lleol i’r Bristol Bears yng Nghynghrair 15 Allianz.

Cafodd Elinor ei dewis i chwarae dros Gymru yn y gêm ddiweddar yn erbyn Yr Alban yn Whangārei, gan ennill ei 68fed cap rhyngwladol. Cafodd ei dewis yn chwaraewr y gêm hefyd.

Robyn Wilkins (BSc 2016)

Astudiodd Robyn ei gradd israddedig yng Nghaerdydd. Bu’n cystadlu gyda thîm y Brifysgol ac enillodd y gêm Varsity yn Abertawe. Mae hi wedi arwyddo i chwarae gyda’r Exeter Chiefs yng Nghynghrair 15 Allianz yn ddiweddar. Bu’n chwarae yn ail hanner gêm Cymru yn erbyn yr Alban.

Mae Robyn yn ferch i gyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, Gwilym Wilkins, ac mae’n uwch swyddog i Chwaraeon Anabledd Cymru.

Abbie Fleming (BSc 2017)

Dechreuodd Abbie chwarae rygbi pan oedd yn 12 oed, ac mae’n chwarae i Exeter Chiefs ar hyn o bryd. Hi oedd capten Gleision Caerdydd cyn symud i Gaerwysg. Mae Abbie wedi ei henwi’n y garfan a deithiodd i Seland Newydd ac eisoes mae ganddi 4 cap rhyngwladol.

Dyfarnwyd contract cadw i Abbie gan URC tra hefyd yn gweithio yn ffisiotherapydd yng Nghaerwysg. Yn ystod y pandemig, roedd yn rhan o’r staff rheng flaen oedd yn trin cleifion â COVID.

Gemau sydd i ddod:
Cymru yn erbyn Seland Newydd – 29 Hydref, yn dechrau am 7.30am GMT (ar gael i’w gwylio ar ITV)