Skip to main content

Cyswllt CaerdyddDigwyddiadauDonateNewyddion

Rôl y system imiwnedd o ran dementia

17 Mawrth 2023

Clefyd Alzheimer yw’r math mwyaf cyffredin o ddementia. Mae’n effeithio ar atgofion y sawl sy’n dioddef o’r clefyd, eu gallu i wneud tasgau gwybyddol, mae’n achosi rhithweledigaethau gan hefyd achosi i’r person golli rheolaeth echddygol. Dyma’r prif achos marwolaeth ymhlith menywod a’r ail brif achos marwolaeth ymhlith dynion yn y DU gyda thros 850,00 o bobl â diagnosis o’r clefyd ar hyn o bryd, ac mae’n costio tua £26 biliwn y flwyddyn i’r GIG, sef un rhan o bump o’u cyllideb flynyddol.

Yn y recordiad o’n Harddangosfa Ymchwil ddiweddar, mae Dr Mat Clement (PhD 2013) a Dr Wiola Zelek (PhD 2020) o’r Ysgol Feddygaeth, yn trafod rôl firysau heintus, y system imiwnedd, a niwro-lid yn natblygiad Alzheimer. Maen nhw’n esbonio rhagor am eu gwaith ac yn rhannu gwybodaeth ynghylch therapïau newydd arloesol ar gyfer trin y clefyd.

Mae ymchwil Mat yn edrych ar y cysylltiad rhwng datblygiad Alzheimer a sytomegalofirws (CMV). Mae CMV yn haint sy’n digwydd mewn 50-70% o’r boblogaeth, yn aml heb i neb sylwi oherwydd ei fod yn asymptomatig gan fwyaf. Ond canfu ei ymchwil fod presenoldeb CMV mewn cleifion Alzheimer yn niweidiol; mae’r system imiwnedd yn anfon celloedd T firaol-benodol i’r ymennydd i frwydro yn erbyn CMV, sy’n creu llid ac yn gwaethygu dirywiad gwybyddol.

Penderfynodd Mat dargedu’r llid hwn gyda thriniaethau gwrth-firaol i ddinistrio’r celloedd T. Roedd y canlyniadau’n hynod gadarnhaol, gyda’r driniaeth nid yn unig yn dinistrio’r celloedd T ond yn arbed rhag dirywiad gwybyddol ac yn atgyweirio dirywiad o’r math hwn hefyd.

Yn yr un modd, mae ymchwil Wiola yn canolbwyntio ar rôl y system ategol yn natblygiad Alzheimer. Mae’r system ategu yn ymateb i heintiau yn y corff trwy dagio a dinistrio pathogenau. Pan gaiff ei ddadreoleiddio, mae rhan o’r system a elwir yn gymhlygyn ymosod ar bilenni (MAC) yn ymosod ar synapsau, yn achosi llid, ac yn cyfrannu at ddatblygiad Alzheimer.

Datblygodd Wiola wrthgyrff i atal y MAC rhag gwneud hyn, yn ogystal â chreu dull ‘ymosod o’r tu mewn’ (neu “trojan horse”) o gyflenwi cyffuriau, gan gysylltu’r gwrthgyrff â chludwyr i sicrhau eu bod yn gallu pasio trwy’r rhwystr gwaed-ymennydd a chael mynediad at yr ymennydd mewn modd anfewnwthiol. Ar ôl wythnos o driniaeth, bu i’r gwrthgyrff adfer y synapsau a gweithrediad gwybyddol. Nawr, mae Wiola yn ceisio cryfhau’r gwrthgyrff hyn a chynnal treialon clinigol ar gyfer cleifion.

Drwy drin a thrafod dementia ac Alzheimer’s fel clefydau sy’n gysylltiedig ag imiwnedd, mae Prifysgol Caerdydd yn datblygu triniaethau unigryw ac mae hi un cam yn nes at roi stop ar y clefydau hyn.

Gwyliwch ein Harddangosfa Ymchwil i ddysgu rhagor.

Darganfod rhagor am gefnogi ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd.