Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o sefydlwyr benywaidd yng Nghymru

31 Mawrth 2023

Mae Angylion Cymru sy’n Ferched (ACM) yn syndicet angylion buddsoddi mewn busnesau newydd, sy’n cael ei gefnogi a’i hwyluso gan Fanc Datblygu Cymru. Cydsefydlwyd y syndicet gan Jill Jones (MSc 2020, Astudiaethau Busnes 2019-), ac mae’n grŵp o dros 30 o aelodau. Mae llawer ohonynt yn gynfyfyrwyr llwyddiannus o Brifysgol Caerdydd, a’u nod yw helpu mwy o fenywod yng Nghymru i ddechrau busnesau a ffynnu. Mewn sgwrs gyda Jill, a’i chyd-aelod Helen Molyneux (LLB 1987), soniodd y ddwy wrthym am eu cynlluniau ar gyfer ACM a’r ysbrydoliaeth ar gyfer y prosiect.

Beth yw angylion buddsoddi a pham eu bod mor bwysig?

Jill: Mae angylion buddsoddi yn buddsoddi yn gynnar wrth i’r cwmni dyfu, pan fydd sylfaenydd sy’n dechrau busnes o bosib cael trafferth cael gafael ar gyllid dyled a benthyciadau. Fodd bynnag, mae angylion busnes yn cynnig mwy na chyllid. Fel arfer, mae ganddyn nhw gefndir entrepreneuraidd, busnes neu gorfforaethol. Felly, maen nhw’n fwy na buddsoddwyr yn unig. Maent yn cynnig llawer o gefnogaeth i’r sylfaenydd; cysylltiadau, sgiliau, gwybodaeth, a mynediad i rwydweithiau.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i Angylion Cymru sy’n Ferched?

Helen: Pan oeddwn yn rhedeg fy musnes fy hun, ceisio cael cyllid oedd yn cymryd y rhan fwyaf o amser a dyna oedd y rhan anoddaf. Roedd rhedeg y busnes ei hun yn hawdd, ac roeddwn i’n gwybod y gallwn ei dyfu, ond ro’n i siŵr o fod yn treulio 60% o fy amser yn ceisio dod o hyd i gyllid, ac ro’n i’n ei chael hi’n anodd iawn. Roeddwn i eisiau helpu menywod eraill i ddelio â’r problemau hynny, yn enwedig yn ystod camau cynnar eu menter pan mae hi’n gallu bod yn anodd cael pobl i gredu ynoch chi a’ch cysyniad, ac nid oes gennych chi brofiad blaenorol.

Pam ei bod hi mor bwysig bod mwy o fenywod yn dod yn angylion buddsoddi?

Jill: Astudiais i’r syniad o angylion buddsoddi mewn busnesau pan oeddwn yn gwneud gradd feistr mewn entrepreneuriaeth, 16 mlynedd yn ôl. Un peth rydw i wedi sylwi arno dros y blynyddoedd yw nad oes llawer wedi newid. Mae’n dal i fod yn faes sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion. Dim ond 14% o angylion buddsoddi sy’n fenywod a dim ond 10% o gyllid angylion busnes sy’n mynd i dîm sy’n fenywod yn unig. Ac felly, ychydig flynyddoedd yn ôl, penderfynais geisio gwneud rhywbeth am y peth ac annog mwy o fenywod i gymryd rhan. Fe wnes i hefyd ddechrau ar PhD ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n canolbwyntio ar pam mae cyn lleied o fenywod yn angylion buddsoddi.

Os ydych chi’n ystyried hyn, yna mae’n eithaf posibl nad yw cynhyrchion sy’n canolbwyntio ar fenywod yn cael y sylw y maent yn ei haeddu, oherwydd nid yw’r defnyddwyr terfynol yn rhan o’r broses ddethol. Er mwyn denu mwy o fuddsoddwyr benywaidd, dwi’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn sicrhau bod menywod yn cefnogi’r busnesau y maent eisiau eu gweld yn llwyddo ac sydd â’r cynhyrchion a’r gwasanaethau sy’n diwallu anghenion menywod. Menywod yn cefnogi menywod.

A oes yna unrhyw resymau personol dros ymwneud â’r prosiect?

Jill: Dwi wedi cael gyrfa entrepreneuraidd gwerth chweil a llawn boddhad sydd wedi fy ngalluogi i addasu i wahanol gyfnodau yn fy mywyd, a dwi eisiau cefnogi menywod eraill i gael yr un cyfleoedd. Mae bod yn un o’r angylion buddsoddi busnes yn ffordd wych o roi rhywbeth yn ôl ac i weithio gyda phobl anhygoel, sylfaenwyr, a chyd-fuddsoddwyr.

Helen: Rhan o’r ysbrydoliaeth i mi ymuno â’r grŵp oedd fy mod wedi bod yn buddsoddi ar fy mhen fy hun ers tua 10 mlynedd ac mae’n lle eithaf unig i fod. Yn enwedig os ydych chi’n buddsoddi ar eich pen eich hun, neu yw’r unig fenyw sy’n buddsoddi mewn busnes wedi’i amgylchynu gan lwyth o ddynion. Mae buddsoddi arian mewn rhywbeth ac yn gobeithio y bydd popeth yn iawn yn y diwedd yn gallu achosi tipyn o straen. Ond os ydych chi’n gwneud hynny gyda grŵp o bobl sydd â setiau gwahanol o sgiliau, ac sy’n gallu ychwanegu rhywbeth ato, mae hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr. Dwi’n credu mai dyna sy’n wych am angylion buddsoddi.

Beth yw manteision ACM i fusnesau newydd?

Jill: Rydyn ni’n mynd ar y daith gyda’r sylfaenydd. Nid cynnig un rownd o gyllid a’u gadael yw’r drefn. Rydym yn cynnal y berthynas gyda’r sylfaenydd ar ôl buddsoddi, ac mae angen mwy nag un rownd o gyllid ar y rhan fwyaf o fusnesau i dyfu. Felly, y syniad yw ein bod ni, fel syndicet yn gallu cadw llygad ar y busnes ac aros gydag ef. Fel y dywedodd Helen, chwilio am gyllid yw un o’r pethau sy’n cymryd y rhan fwyaf o arian wrth redeg busnes. Gallwn ni helpu, fel syndicet, i liniaru hynny trwy naill ai gynnig arian ein hunain, neu roi’r sylfaenydd mewn cysylltiad â ffynonellau cyllido eraill.

Helen: Rwy’n gyfreithiwr ac roedd gen i fy musnes fy hun cyn imi ei werthu, felly dyna sut y dechreuais i fuddsoddi. Mae pobl sydd wedi bod yn Brif Weithredwyr cwmnïau, yn arbenigwyr addysgol sydd wedi troi’n Brif Weithredwyr, a rhai o’r byd marchnata yn rhan o’r grŵp ACM. Mae’n grŵp eang iawn gyda sgiliau mewn llawer o wahanol sectorau hefyd. Felly mae hynny’n ddefnyddiol oherwydd os nad ydych chi’n adnabod sector, gallwch chi gael eich drysu gan y swydd, ond gallwch hefyd fynd lawr y trywydd anghywir ar ôl cyffroi dros rywbeth nad ydych yn ei ddeall. Mae yna bob math o fewnwelediadau rydyn ni’n eu cael gan bobl yn y tîm sydd â gwell dealltwriaeth o sectorau na fi, er enghraifft.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i sylfaenydd sy’n chwilio am fuddsoddiad?

Helen: Dewch i siarad â ni yn gynnar cyn ei gadael hi’n rhy hwyr. Hyd yn oed os nad ydych yn barod i dderbyn buddsoddiad ar y pryd, o leiaf gallwn ddweud wrthych beth y byddwn yn chwilio amdano pan fyddwch yn barod. Does dim drwg mewn cael sgyrsiau cynnar. Os ydych chi’n pendroni ynghylch eich cam nesaf, yna efallai y gallwn ni gael sgwrs. Peth arall rydw i bob amser yn ei ddweud yw bod angen i chi adnabod eich cynllun busnes yn dda iawn.

Jill: Ac yn gallu ei egluro i eraill. Byddwch yn glir eich meddwl o ran yr hyn rydych chi am ei wneud, beth yw’r angen, a pham y dylai fod yno. Mae’n bosib iawn bod angen help i gyrraedd yno, ond byddwch yn glir ynghylch eich gweledigaeth.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i’r rhai sy’n awyddus i ddechrau buddsoddi?

Helen: Y peth pwysicaf, a’r mwyaf diddorol o bosib i’w gyfleu i bobl, yw nad oes angen i chi fod yn hynod gyfoethog i fuddsoddi. Os ydych chi’n rhan o syndicet fel ein un ni, mae gennych rym y grŵp, sy’n golygu y gallwn ni i gyd fuddsoddi symiau llai gyda’n gilydd. Yr hyn rydyn ni ei eisiau yw bod menywod ‘normal’, sydd ddim yn hynod gyfoethog, yn cymryd rhan ac yn cefnogi menywod eraill. Dyna beth sy’n wych am syndicadau, rydyn ni’n gryfach gyda’n gilydd.

Pa effaith fyddech chi’n hoffi gweld y grŵp yn ei chael ymhen pum neu ddeng mlynedd?

Jill: Hoffwn i weld sylfaenwyr y busnesau rydym yn eu cefnogi, yn gadael eu busnes, ac yna’n ymuno â ni. Byddwn hefyd yn hoffi ein bod ni’n dod i adnabod rhannau eraill o’r ecosystem fuddsoddi yng Nghymru, gan gefnogi amrywiaeth eang o fusnesau.

Helen: Rydym am i fenywod gael y cyfle i adeiladu busnes ac, os ydynt yn mwynhau, ei gadw i fynd. Neu gallan nhw – os ydyn nhw eisiau – ei werthu ac ymuno â ni a gwneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud, sef cefnogi’r genhedlaeth nesaf o fenywod i dyfu eu busnesau.

Jill: Byddem wrth ein bodd yn tyfu’r grŵp a chroesawu aelodau newydd. Rydym yn sicr yn bwriadu bod yn rhan barhaol o’r byd buddsoddi yng Nghymru.

Mae aelodau eraill o Angylion Buddsoddi Cymru yn cynnwys cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sef Kate Methuen-Ley (MSc 2008), Sian Lloyd (BA 1979) a Jackie Royall (MSc 2003). Rhagor o wybodaeth am ymuno â’r grŵp neu gael gafael ar gyllid.