Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Interniaeth digwyddiadau’n ysbrydoli gyrfa yn y dyfodol – Rosy Turner (BSc 2021)

20 Chwefror 2023

Yn haf 2021, cwblhaodd Rosy Turner (BSc 2021) interniaeth â thâl gyda Gŵyl y Dyn Gwyrdd drwy raglen partneriaeth hirsefydlog Prifysgol Caerdydd. Cafodd brofiad gwerthfawr yn y diwydiant digwyddiadau ac yn dilyn hynny mae wedi sicrhau rôl barhaol gyda Dyn Gwyrdd. Mae Rosy’n egluro beth wnaeth hi ei elwa o’r lleoliad a sut mae wedi ei helpu ar y llwybr i’w gyrfa berffaith.

Rwyf wedi bod yn angerddol ynghylch y celfyddydau erioed ond doeddwn i ddim wedi eu hystyried yn opsiwn o ran gyrfa tan i mi weld yr hysbyseb ar gyfer interniaethau’r Dyn Gwyrdd. Roeddwn yn fy mlwyddyn olaf yn astudio Gwyddorau Biolegol pan wnes i gais, ar ôl bod yn stiward yn yr ŵyl yn y gorffennol. Roedd yn gyfle anhygoel gan nad oedd angen profiad helaeth blaenorol.

Ymgymerais â’r interniaeth Guestlist and Accreditation, oedd yn 6 wythnos o hyd, ac a oedd yn cynnwys
dyrannu tocynnau a ffurflenni i staff, criw, masnachwyr, ac artistiaid. Yn y cyfnod cyn yr ŵyl roeddwn yn gyfrifol am ail-drefnu tocynnau ar gyfer partïon teithiol y bandiau pan fyddai newidiadau yn digwydd i raglenni, yn ogystal â chysylltu ag amryw o fasnachwyr i sicrhau bod eu ffurflenni iechyd a diogelwch yn gyfredol.

Hon oedd fy swydd gyntaf wedi’r brifysgol, ac fe ganiataodd i mi gael profiad byd go iawn mewn diwydiant nad oeddwn wedi gweithio ynddo o’r blaen. Dysgais sut i weithio mewn tîm, sut i addasu i anghenion pobl eraill, yn ogystal â dysgu cymaint ag y gallwn yn gyffredinol am y diwydiant gwyliau a digwyddiadau.

Fe wnes i fagu cymaint o hyder yn fy sgiliau fy hun gan fy mod i wedi cael ymgymryd ag amrywiaeth o gyfrifoldebau. Fe ganiataodd fy lleoliad gyda Dyn Gwyrdd i mi wella llu o fy sgiliau trosglwyddadwy ac ennill nifer o rai newydd sydd wedi fy helpu ar fy nhaith o ran fy ngyrfa.

Gweithio gyda Dyn Gwyrdd oedd y profiad unigol a gafodd yr effaith fwyaf arnaf ac a roddodd y boddhad mwyaf i mi yn fy mywyd. Roedd holl aelodau’r tîm mor anhygoel o groesawgar, meddylgar, a gofalgar. Maen nhw wir wedi fy arwain ar daith gydol oes i fyd digwyddiadau. Fe wnaeth pob un person ar y tîm ganiatáu i mi ffynnu a bydd y cyfeillgarwch a enillais drwy Ddyn Gwyrdd gyda mi am oes.

Erbyn hyn, rwy’n gweithio’n llawn amser yn y diwydiant digwyddiadau ac mae hynny oherwydd y gwaith a wnes i yn ystod fy interniaeth, a’r gwaith y gwnaeth tîm y Dyn Gwyrdd i’m mentora. Arweiniodd y sgiliau a enillais at sicrhau rôl Intern Gweithrediadau yng Ngwyliau Cheltenham, ac ar ôl hynny roeddwn yn ddigon ffodus i gael fy ystyried ar gyfer y rôl Cynorthwy-ydd Gweithredol i Ddyn Gwyrdd, rydw i’n parhau i weithio ynddi nawr.

Mae interniaethau mor werthfawr o ran gyrfaoedd myfyrwyr. Maen nhw’n ffordd wych o rwydweithio a chael profiad mewn maes y mae gennych ddiddordeb ynddo. Os yw cyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, neu fusnes sydd wedi’i ddechrau gan fyfyriwr / fyfyrwyr o’r Brifysgol yn ystyried cynnig interniaeth i fyfyriwr, fe ddylen nhw wneud hynny heb os! Mae interniaethau yn rhoi profiad byd go iawn i fyfyrwyr; gall y rhain eu gwirioneddol baratoi ar gyfer gyrfa mewn unrhyw sector. Rydych yn siŵr o glywed gan lu o ymgeiswyr brwdfrydig!

Rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi gefnogi myfyrwyr Caerdydd i ennill profiad gwaith gwerthfawr yn y byd go iawn drwy gynnig Interniaethau, lleoliad gwaith neu roi rhodd