Skip to main content

Newyddion

Dathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr 2025

27 Mai 2025

Dathlu 11,274 o oriau o wirfoddoli gan gyn-fyfyrwyr!

Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol a gynhelir o ddydd Llun 2 Mehefin i ddydd Sul 8 Mehefin i gydnabod cyfraniad miliynau o bobl ledled y DU trwy wirfoddoli yn eu cymunedau.   

Bob blwyddyn, mae cyn-fyfyrwyr gwych sy’n gwirfoddoli yn cael cryn effaith ar bopeth a wnawn yma ym Mhrifysgol Caerdydd, boed hynny’n cefnogi myfyrwyr drwy gynlluniau mentora, llywio strategaeth y Brifysgol, bod yn rhan o Gangen Cyn-fyfyrwyr, dychwelyd yma i roi cyflwyniad ar yrfaoedd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o raddedigion, neu gynnig interniaethau i’n myfyrwyr i gael profiad mewn diwydiant wrth gwblhau eu hastudiaethau. 

 

 

 

 

 

 

 

Mae ein cyn-fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli wedi rhannu eu profiadau a sôn am y boddhad maen nhw’n ei gael wrth wneud hynny.

Dr Mark Davies (BEng 1994, PhD 1999)

Derbyniodd Mark a’i gwmni fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd yn intern am saith wythnos dros yr haf, gan ei helpu i fagu profiad, datblygu sgiliau a pharatoi ar gyfer byd gwaith. Darllen mwy.

“Uchafbwynt cynnig lleoliad gwaith i fyfyriwr oedd cael unigolyn galluog a brwdfrydig oedd yn gallu canolbwyntio’n llwyr ar brosiect. Oherwydd hynny, roedd modd symud y gwaith yn ei flaen yn llawer cyflymach. Roedd yr interniaeth yn ffordd wych i RINA ddatblygu prosiect arloesi a allai fod wedi’i roi o’r neilltu fel arall oherwydd pwysau amser. Mae hefyd wedi rhoi cyfle i Harvy gael profiad gwerthfawr a datblygu i ategu ei astudiaethau academaidd, a fydd yn gwella ei gyflogadwyedd, gobeithio. Mae pawb ar eu hennill!”

Emma Young (BSc 1996)

Cymerodd Joanna ran yn ein cynllun Menywod yn Mentora yn 2025 a oedd wedi paru 26 o fentoriaid gyda mentoreion ar ddechrau eu gyrfa.

“Rwy’n credu bod rhai menywod yn oedi cyn gofyn am arweiniad a chefnogaeth. Dyna wnes i. Os nad ydych chi’n berson sy’n gwthio’ch hun ymlaen wrth hyrwyddo eich datblygiad personol neu broffesiynol, gallwch chi golli’r cyfleoedd sydd ar gael. Mae cynlluniau fel Menywod yn Mentora yn amhrisiadwy gan eu bod yn ffyrdd haws o fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer twf. Er nad ydw i wedi cael mentor ffurfiol, mae gweithio gyda hyfforddwr wedi fy nhrawsnewid. Ac mae mentora eraill wedi bod yr un mor werthfawr — dwi’n dysgu rhywbeth newydd bob tro. Mae’n broses ddwyffordd o gyfnewid gwybodaeth a chefnogaeth, ac rwy’n credu’n gryf fy mod i’n elwa cymaint â’r mentoreion.”

Jingrui Yang (MBA 2004)

Mae Jingrui yn un o arweinwyr cangen Cyn-fyfyrwyr Tsieineaidd Prifysgol Caerdydd (CUCA). Dysgwch fwy am Canghennau cynfyfyrwyr.

“Mae’n bleser mawr i mi weithio ar y cyd â’r holl ganghennau a chyn-fyfyrwyr gyda’i gilydd i roi ein gweithgareddau ar waith, gan droi’r syniadau da hynny yn realiti. Mae’n cyfle pwysig i ni ddysgu. Graddiais gyda MBA 23 mlynedd yn ôl ac mae’n gyfle gwych i gysylltu â chyn-fyfyrwyr y genhedlaeth hon hefyd. Fel y dywed arwyddair Prifysgol Caerdydd, gwirionedd, undod a chytgord. Dylai’r rhain hefyd fod yn hanfodion y Canghennau Cyn-fyfyrwyr. Dylen ni feddwl am sut i wneud yn siŵr bod ein cymuned o gyn-fyfyrwyr yn teimlo’n rhan o’r broses, yn ogystal â’u bod yn cael eu hysgogi a’u gofalu trwy waith ein gwirfoddolwyr yn ystod eu bywyd ar ôl graddio a thu hwnt.”

Ni fyddai’n bosib cyflawni’r hyn rydyn ni’n ei wneud heb wirfoddolwyr gwych, felly os hoffech chi roi rhywbeth yn ôl, dewch i gymryd rhan. Darganfod mwy.