Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

“Y peth pwysicaf i mi yw’r ffrindiau rydw i wedi cwrdd â nhw”: ailgysylltu â Phrifysgol Caerdydd ddegawdau yn ddiweddarach

14 Mai 2025

Peiriannydd yw Joseph Rapoport (MA 1990) ac mae’n byw yn Houston, Texas. 18 mlynedd ar ôl gorffen ei radd meistr mewn Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd, sefydlodd grŵp LinkedIn gan ddod â chyd-gyn-fyfyrwyr ynghyd yn yr Unol Daleithiau. Dyma Joseph yn myfyrio ar gadw mewn cysylltiad â Phrifysgol Caerdydd, hyd yn oed o ochr arall yr Iwerydd.

“Bob hyn a hyn rwy’n hiraethu am fy ail gartref – Caerdydd,” meddai Joseph. “Fe wnes i fwynhau fy amser yn y Brifysgol yn fawr ac mae gen i lawer o atgofion gwych gyda ffrindiau.”

Gan ei fod wedi astudio ei radd israddedig yn Texas, roedd Joseph yn ymwybodol bod pobl leol Houston yn dod at ei gilydd o bryd i’w gilydd i wylio gemau chwaraeon colegol. Mae cymdeithasau cyn-fyfyrwyr yn boblogaidd iawn yn UDA, ac maen nhw’n ffordd ddefnyddiol o aros mewn cysylltiad â chymuned coleg. Ysbrydolodd hyn Joseph i ddod â chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd at ei gilydd – boed am ddiod, sgwrs, neu ychydig o rwydweithio. Y canlyniad oedd grŵp LinkedIn, lle gallai Joseph drefnu cyfarfodydd, rhannu newyddion, a chadw mewn cysylltiad â ffrindiau yng Nghymru.

Ers dechrau’r grŵp yn 2008, ymunodd dros 5,500 o gyn-fyfyrwyr o bedwar ban byd. Mae Joseph hyd yn oed wedi ailgysylltu â ffrindiau yr oedd wedi colli cysylltiad â nhw ers iddo raddio ym 1990. “Y peth pwysicaf i mi yw’r ffrindiau rydw i wedi cwrdd â nhw ac yn dal i fod yn ffrindiau â nhw,” meddai. “Ar ôl 36 mlynedd, mae ein cyfeillgarwch wedi gwrthsefyll amser a phellter ac yn mynd o nerth i nerth.”

Yn dilyn arweiniad Joseph, mae grŵp swyddogol LinkedIn bellach ar gael i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae canghennau a grwpiau cyn-fyfyrwyr rhyngwladol all-lein hefyd yn gyfle i ailgysylltu a rhwydweithio – o Efrog Newydd i Hong Kong, mae cymunedau Caerdydd yn dod at ei gilydd i rannu newyddion a chyfleoedd.

Yn y dyfodol, byddai Joseph wrth ei fodd yn gweld digwyddiadau pellach yn cael eu trefnu trwy LinkedIn, yn debyg iawn i’r cyfarfodydd sy’n digwydd yn Houston. “Fe wnes i ymweld â Chaerdydd ar ddechrau’r 2000au a gweld fy athrawon a darlithwyr, yn ogystal â mwynhau bwyd gwych gyda fy ffrindiau a oedd yn dal i fyw o amgylch Caerdydd,” meddai. Ers hynny, mae cannoedd o gyn-fyfyrwyr wedi dod at ei gilydd ar gyfer “Nosweithiau i ail-groesawu myfyrwyr’” bywiog yn 2022 a 2024. Fis Awst, byddwn ni’n croesawu cyn-fyfyrwyr o’r 1980au i droi’r cloc yn ôl yn Undeb y Myfyrwyr.

Mae gan Joseph atgofion melys o’i holl ffrindiau a’r lleoedd y bu’n byw yn ystod ei gyfnod yn fyfyriwr. “Yn fy mlwyddyn gyntaf, roeddwn i’n byw yn Neuadd y Brifysgol ac fe wnes i dreulio ychydig nosweithiau yn eu tafarn yn chwarae pŵl ac yn cwrdd â ffrindiau newydd. Yn yr ail flwyddyn, roeddwn i’n byw mewn tŷ ar Heol Colum gyda myfyrwyr o Ffrainc, Cernyw, Gwlad Pwyl, ac Ynysoedd Philippines. Roedd profi gwahanol ddiwylliannau a bwydydd yn wych.”

P’un a ydych yn dewis dychwelyd i Gaerdydd neu ddod ynghyd â chyn-fyfyrwyr mewn dinas arall, mae aduniadau yn ffordd wych o aros mewn cysylltiad â’ch alma mater. Yn sicr, mae Joseph yn eiriolwr dros deithiau i brifddinas Cymru.  Dyma rhai o’i uchafbwyntiau: “Roeddwn i wrth fy modd gyda fy nhaith i Ynys y Barri gyda Dr Chris Williams a’i deulu, gwleddoedd gyda ffrindiau yn Bo Zan, a phrydau Eidalaidd bendigedig yn Lucianos. Gwelais Theatr Frenhinol Cymru hefyd yn perfformio Henry IV gan Pirandello, gyda’r actor gwych, Richard Harris, yn chwarae’r brif ran.”

Mae un peth yn sicr – p’un a ydych chi’n awyddus i gael blas ar fyd celfyddydol Cymru, mynd ar daith fwyd o amgylch Heol Albany, neu fynd ar daith i lawr Chippy Lane, bydd Caerdydd yn falch o’ch croesawu chi gartref.

Barod i ymuno â’n grŵp ar-lein i gyn-fyfyrwyr Caerdydd? Ewch i LinkedIn. Gallwch chi hefyd ddod o hyd i Gangen Cyn-fyfyrwyr yn agos atoch chi neu ailgysylltu â hen ffrindiau drwy un o’n grwpiau Facebook i gyn-fyfyrwyr.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu eich aduniad eich hun, edrychwch ar rai awgrymiadau ac adnoddau allweddol i’ch helpu i gynllunio digwyddiad. I weld rhagor o atgofion o Gaerdydd gan ein cymuned o gyn-fyfyrwyr, ewch i’n sianel YouTube.