Skip to main content

I Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrNewyddion

Cymryd camau i ddatblygu gyrfa – I Gyn-fyfyrwyr, Gan Gyn-fyfyrwyr

28 Ebrill 2025

Mae Dr Deola Agbato (MBA 1997) yn gyn-fyfyriwr o Ysgol Busnes Caerdydd, gyda dros ddau ddegawd o brofiad ym maes bancio. Mae hi’n angerddol am ddatblygu a grymuso talent i wella cynaliadwyedd a thwf sefydliadau. Yma, mae hi’n rhannu ei syniadau ar sut i ddatblygu’n broffesiynol, hyd yn oed wrth ymdopi â gwahanol flaenoriaethau.

Tua dwy flynedd yn ôl, sylweddolais fy mod eisiau cymryd camau i ddatblygu fy ngyrfa. Felly, ar ôl pendroni dipyn, penderfynais ariannu fy hun ac ymrestru ar raglen mentora i baratoi menywod i fod ar Fwrdd a drefnwyd gan Women in Management and Business and Public Service and Management (WimBiz). Yn ystod y rhaglen honno, dysgais lawer o wybodaeth ddefnyddiol sydd wedi helpu i ddatblygu fy ngyrfa.

  1. Datblygu eich brand ar-lein

    Un o’r pethau hyn a ddysgwyd oedd bod angen gwelededd brand. Cyn y rhaglen, byddwn i’n dweud nad oeddwn i’n ystyried fy hun i fod yn frand ac roeddwn i’n anweledig yn broffesiynol. Doeddwn i ddim yn defnyddio fy nhudalen LinkedIn i wella fy mhroffil gyrfa. Felly, ar ôl y rhaglen, fe ddiweddarais fy nhudalen a fy llun proffil i wneud fy hun yn fwy gweladwy ac i dynnu sylw at fy hun yn broffesiynol, gan fod y farchnad swyddi fyd-eang bellach ar y cyfryngau cymdeithasol.

    I gael rhagor o gyngor ar sut i dynnu sylw at eich hun ar-lein, cymerwch gipolwg ar rai o’r awgrymiadau defnyddiol gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

  2. Dod yn ‘arweinydd meddyliau’

    Hefyd, dechreuais i wneud ymdrech i roi negeseuon ar LinkedIn yn fwy rheolaidd, gan ddangos fy mod yn arweinydd meddyliau yn fy maes. Mae’r ymdrechion hyn wedi bod yn ddefnyddiol, gan ei fod wedi arwain at swydd ar y Bwrdd Cynghori gyda Harvard Business Review, sef grŵp o ymchwilwyr proffesiynol wedi’u dewis. Darllenais i yn rhywle y dylech chi herio eich hun bob blwyddyn – gwnewch rywbeth rydych chi’n ei ofni a byddwch chi’n datblygu. Felly, eleni, heriais fy hun i fanteisio ar bob cyfle a chyflwyno mewn digwyddiadau arwain meddyliau. Yn bersonol, roedd y digwyddiadau wedi rhoi boddhad i mi ac rwy’n edrych ymlaen at ddigwyddiadau cyflwyno o’r fath yn y dyfodol agos.

  3. Rhwydweithio, rhwydweithio, rhwydweithio

    Tra roeddwn i’n fyfyriwr yn Ysgol Busnes Caerdydd, bûm yn rhwydweithio â chyn-fyfyrwyr ar y cwrs a oedd yn dod o wledydd amrywiol ledled y byd: Affrica, Asia ac Ewrop. Drwy rwydweithio ym Mhrifysgol Caerdydd, mae wedi fy helpu i werthfawrogi a deall diwylliannau eraill, a sylweddoli ein bod ni i gyd yn fodau dynol wedi’r cyfan. Er hynny, pan ddechreuais i weithio a magu teulu, doeddwn i ddim yn rhwydweithio’n effeithiol mewn modd proffesiynol.

    Ar ôl y rhaglen mentora a’r rhaglen paratoi i fod ar Fwrdd, sylweddolais fod angen i mi rwydweithio i ddatblygu fy ngyrfa. Rwy bellach ar gael yn fentor yn WimBiz, sydd yn ffordd o roi rhywbeth yn ôl i fenywod ifanc a dysgu gan eraill hefyd. Hefyd, rwy’n cymryd rhan yn fwy gweithredol yn fy nghymdeithas broffesiynol, ac yn mynd i ragor o ddigwyddiadau rhwydweithio i gwrdd â phobl angerddol o’r un anian.

  4. Mae rheoli amser yn allweddol

    Mae canolbwyntio ar y gweithgareddau proffesiynol hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi. Weithiau gall hyn olygu gwneud aberth bob hyn a hyn, a cholli allan ar ddigwyddiadau cymdeithasol am sbel. Ond ar ôl cyflawni fy nod, byddaf yn ailafael yn y digwyddiadau hynny. Er enghraifft, wrth gydbwyso gradd ddoethurol ddwys llawn amser a swydd llawn amser, methais i fynd i rai digwyddiadau cymdeithasol. Er hynny, ces i’r cyfle i fynd yn ystod egwyliau’r tymor ac ar ôl gorffen y rhaglen. Hefyd, dysgais i sut i wneud y gorau o’r holl amser oedd ar gael pan oeddwn i’n astudio – wrth sefyll mewn ciwiau er enghraifft, ro’n i’n darllen ac yn edrych dros erthyglau er mwyn cwrdd â therfynau amser tynn.

Bydd cymryd amser a gwneud ymdrech i gysylltu â datblygiad proffesiynol, gwelededd a rhwydweithio strategol yn eich helpu i ddatblygu eich gyrfa a’ch rhwydweithiau. Mae trywydd eich bywyd presennol yn ganlyniad o’r llyfrau rydych chi wedi’u darllen a’r hyfforddiant rydych chi wedi’i gyflawni, ond hefyd y bobl yn eich rhwydwaith. Rwy’n gobeithio y byddwch chi’n cymryd camau o ran unrhyw un o’r agweddau hyn ar gynnydd proffesiynol, ac rwy’n edrych ymlaen at rwydweithio gyda chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn y dyfodol.

Ydych chi’n barod i gysylltu â chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd, fel Deola? Ymunwch â’r rhwydwaith swyddogol ar LinkedIn.