Skip to main content

DonateNewyddion

Datblygu triniaethau cynnar hanfodol ar gyfer canser y pancreas 

4 Mawrth 2024

Ar hyn o bryd, dim ond 5% yw’r gyfradd oroesi (o ddeng mlynedd) ar gyfer y rheiny sy’n dioddef o ganser y pancreas. Gan mai anodd yw canfod y clefyd yn ei gamau cynnar, mae ymyrraeth yn aml yn dod yn rhy hwyr i nifer fawr o gleifion. Mae Josh D’Ambrogio (Y Biowyddorau 2021-) wedi bod wrthi’n astudio canser y pancreas yn ei gamau cynnar, er mwyn dod o hyd i ddulliau pellach a all ganfod y clefyd yn fwy cynnar, a strategaethau ar gyfer ei drin yn fwy effeithiol. 

Ffocws fy ymchwil yw mynd i’r afael â sut mae gordewdra (ymhlith oedolion) yn gallu effeithio ar allu’r pancreas i amddiffyn ei hun rhag celloedd mwtant a all ddatblygu i fod yn rhai canseraidd. Mewn ymchwil flaenorol a wnaed yn labordy Catherine Hogan, sef lleoliad fy ngwaith ar hyn o bryd, darganfuwyd mai, yn achosion pancreasau iach, ceir y broses hynod ddiddorol hon lle maent yn gallu gwaredu celloedd mwtant o’i haenau epithelaidd (amddiffynnol). Ond, yn ychwanegol at hynny, canfuwyd hefyd nad yw’r broses hon bob amser yn llwyddiannus, gan arwain yn y pen draw at ganser y pancreas yn datblygu. Felly, os ydy’r pancreas yn gallu amddiffyn ei hun pan mae’n iach, beth yw’r hyn sy’n atal y broses hon ac yn achosi tiwmor i ddatblygu? 

Gwyddom mai gordewdra yw un o’r ffactorau risg mwyaf ar gyfer canser y pancreas, ac felly rydym wedi bod wrthi’n ymchwilio i sut mae hyn yn effeithio ar y broses hon o atal tiwmorau. Bu inni hefyd gwestiynu sut mae gordewdra yn effeithio ar allu’r pancreas i aros yn iach, a sut mae hyn yn dylanwadu ar y celloedd mwtant hynny sy’n niweidio iechyd cyffredinol y meinweoedd cyfagos.

Rydyn ni ar fin dod â’r prosiect hwn i ben, a’r hyn sy’n dod i’r amlwg inni yw nid yn unig bod gordewdra a ffactorau eraill yn gysylltiedig â ‘tharfu’ ar y broses atal tiwmorau hon dros dro, ond efallai na fydd y ‘tarfu’ yma yn un parhaol. Y cwestiwn nesaf sydd gennym yw: a fedrwn ni ail-ysgogi’r broses hon – ac, os felly, sut? Byddai hyn yn darparu dull o amddiffyn y pancreas rhag celloedd sy’n achosi canser yn gynnar, gan ddefnyddio mecanweithiau amddiffyn y corff ei hun. Mae angen mwy o ymchwil arnom i ddeall yn llawn sut mae’r corff yn amddiffyn ei hun yn erbyn canser. Gallai hyn, yn ei dro, arwain at ddatblygu triniaethau newydd, a allai ail-ysgogi’r mecanweithiau amddiffyn yma. Ar ben hynny, drwy ddeall sut mae ffactorau risg fel gordewdra yn achosi canser, efallai y bydd modd i’n hymchwil gael dylanwad go iawn ar bolisïau a strategaethau atal canser yn y dyfodol.

Ni all ein gwaith ddigwydd heb y bobl sy’n ein cefnogi, ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r rhoddwyr a’r codwyr arian sydd wedi buddsoddi yn y prosiect hwn. Bu’r cyllid a lwyddais i’w gael i gefnogi fy ymchwil wneud gwahaniaeth mawr – mae wedi caniatáu i’r tîm ofyn y cwestiynau o bwys hynny sy’n gallu cael effaith gadarnhaol iawn ar gleifion canser y pancreas yn y dyfodol.

I ddysgu mwy am y cysylltiad rhwng canser y pancreas cynnar a dietau braster uchel, gwyliwch weminar Arddangosiad Ymchwil Josh a Dr Catherine Hogan.

Darganfyddwch ragor am ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd.