Skip to main content

Newyddion

Cyntafion Caerdydd – cyfleoedd nad oeddwn erioed wedi’u hystyried yn bosibl

21 Medi 2023

Mae Emmanuelle Camus (Seicoleg 2020-) yn un o 16 myfyriwr sy’n cymryd rhan yn rhaglen Cyntafion Caerdydd a ariennir gan Brifysgolion Santander. Mae Cyntafion Caerdydd yn rhoi tair blynedd o gefnogaeth i fyfyrwyr o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol neu ddifreintiedig i’w helpu i gael popeth posib o’u hamser yn y brifysgol. Golyga’r gefnogaeth ysgoloriaeth ariannol, lleoliad Cyfle Byd-eang i weithio, astudio neu wirfoddoli dramor, ac interniaeth â thâl. Yma, mae Emmanuelle yn disgrifio’r effaith gafodd Cyntafion Caerdydd ar ei phrofiad o fod yn fyfyriwr.

Drwy gael fy nerbyn ar Cyntafion Caerdydd, rydw i wedi cael cyfleoedd nad oeddwn erioed wedi’u hystyried yn bosibl. Roedd yr ysgoloriaeth a ddyfarnwyd i mi yn gwbl hanfodol. Rhoddodd  sicrwydd i mi yn ystod cyfnod arbennig o heriol, yn enwedig o ran y pwysau ariannol a achoswyd gan y pandemig, gan fy ngalluogi i barhau â’m hastudiaethau.

Hefyd, rhoddodd Cyntafion Caerdydd leoliad Cyfleoedd Byd-eang i mi i deithio a gweithio dramor yn Fiji, lle cynheliais weithdai cymorth yn ymwneud ag iechyd meddwl mewn pentrefi lleol. Yn y gweithdai, fe wnes i fynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl trwy hwyluso sesiynau lles, gweithgareddau addysgu fel myfyrdod hedfan ac ymarferion ymlacio. Rhennais wybodaeth am wasanaethau iechyd meddwl a chymorth lleol sydd ar gael, a phwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu’n agored ynghylch heriau iechyd meddwl.

Ond cyfnewid gwybodaeth dwy ffordd oedd hyn; fe ddysgais wersi amhrisiadwy gan bobl Fiji, gan ymgolli mewn gweithgareddau diwylliannol ac ymweld â’u lleoedd hardd, megis twyni tywod Sigatoka! Fe wnes i fwynhau’r lleoliad ar ei hyd, yn fawr – yn enwedig pysgota am gregyn gleision a byw ger glan y dŵr lle roedd llawer o bambŵ! Dyma’r tro cyntaf i mi fentro y tu allan i famwlad fy nheulu; fe deithiais ymhellach nag yr oeddwn erioed wedi meddwl y byddwn i’n gallu ei wneud, gan fod yn dyst i ffordd hollol wahanol o fyw.

Roedd fy interniaeth hefyd yn brofiad anhygoel. Ymgymerais â rôl farchnata ysgolion haf Caerdydd, gan weithio gyda grwpiau hyfryd o staff mewn adrannau allgymorth amrywiol ysgolion. Roedd fy rôl yn cynnwys cysylltu â myfyrwyr o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol i greu cynnwys digidol hyrwyddo a ffilmio sgyrsiau yn trafod eu profiadau. Cesglais dystebau gan staff a llysgenhadon, a chyfrannais at erthygl y brifysgol yn crynhoi llwyddiant yr ysgolion. Roedd bod mewn amgylchedd mor gefnogol wedi gwella fy hyder yn aruthrol. Roedd gweld beth sydd ei angen i sefydlu a chynnal ysgol haf lwyddiannus yn agoriad llygad, a mwynheais weld yr effaith gadarnhaol a gafodd yr ysgolion ar yr holl fyfyrwyr.

Mae Cyntafion Caerdydd wedi cyfoethogi fy mywyd mewn nifer helaeth o ffyrdd. Wnes i erioed ddychmygu y byddwn i’n ymweld â lle mor bell i ffwrdd â Fiji ac roedd fy interniaeth wedi rhoi’r sgiliau i mi sy’n ymestyn y tu hwnt i’r rhai mae modd eu meithrin yn y byd academaidd. Byddaf yn trysori’r atgofion rydw i wedi’u creu drwy’r rhaglen hon ac rydw i mor ddiolchgar i Santander am fy ngalluogi i gael profiadau mor anhygoel.