Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Grym mentora gan gyn-fyfyrwyr

7 Medi 2023
Tyrone Stewart

Cafodd Tyrone Stewart (MSc 2022) ei fentora’n rhan o’n rhaglen mentora gan gyn-fyfyrwyr yn ystod ei radd meistr. Andrew Jones (BSc 2014) sy’n hyfforddwr busnes oedd ei fentor.

Yn ystod fy astudiaethau ar gyfer fy ngradd meistr roeddwn i wir eisiau bod yn rhagweithiol a rhoi fy hun yn y sefyllfa orau ar gyfer y cyfnod ar ôl fy astudiaethau. Er i mi ddysgu llawer ar y cwrs ynghylch damcaniaethau busnes, ac i mi wneud cysylltiadau da gyda fy ffrindiau ar y cwrs, nid oedd yn teimlo’n ddigon i’m rhoi ar y blaen.

Pan soniwyd am y cynllun mentora, fe wnes i gais ar unwaith yn y gobaith y gallwn ddatblygu sgiliau ychwanegol a meithrin fy rhwydwaith.

Roedd y rhaglen fentora ei hun yn wych. Cefais fy mharu ag Andrew Jones (BSc 2014), hyfforddwr busnes o gyflymydd busnes, NatWest, ac roedden ni’n gwybod yn syth ein bod ni’n mynd i fedru cyd-weithio. Fe wnaethom ni feithrin perthynas dda dros y sesiynau ac erbyn hyn rydyn ni’n gyfeillion.

Rhoddodd Andrew nifer o wahanol fathau o ddealltwriaeth ymarferol i mi ynghylch entrepreneuriaeth na fyddwn i wedi’u cael fel arall, ac fe fu’n bosib i ni drin a thrafod rhai o’i brofiadau ef ei hun. Fe helpodd i mi ddysgu hyn; er mwyn bod yn llwyddiannus ym maes busnes, mae’n rhaid i chi gael rhwydwaith a dylanwad proffesiynol. Y peth cyntaf wnes i ar ôl ein sesiwn gyntaf oedd mynd yn syth i LinkedIn i ehangu fy rhwydwaith ac estyn allan at bobl roeddwn i’n meddwl y gallai fod yn ddefnyddiol cysylltu â nhw. Rhoddodd y ddealltwriaeth broffesiynol roeddwn wedi’i chael gan rywun sydd â phrofiad ym maes busnes ac entrepreneuriaeth yr hyder i mi wneud hynny, ac fe dalodd ar ei ganfed.

Ers i mi orffen fy ngradd meistr, rwyf wedi dechrau gweithio i fusnes technoleg newydd, Governance360, yn y rôl Pennaeth Cynnyrch. Heb amheuaeth, fe wnaeth y rhaglen fentora fy helpu i ddatblygu’r sgiliau cyfathrebu, arweinyddiaeth a threfnu sy’n hanfodol ar gyfer fy rôl heddiw.

Yn ddiweddar, fe ddes yn ôl i siarad gyda myfyrwyr presennol ynghylch mentora, a sut y bu i hynny weithio i mi. Roeddwn i eisiau rhannu bod angen iddyn nhw fod yn rhagweithiol wrth ddilyn eu nodau. Fe wnes i elwa gymaint o’r rhaglen fentora ac o Brifysgol Caerdydd, roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl gan helpu darpar fyfyrwyr mewn unrhyw ffordd y gallaf.

Galw am fentoriaid sy’n Gyn-fyfyrwyr

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol yn eich sector a rhannu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad?

Rydym yn chwilio am Gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd i gynorthwyo myfyrwyr presennol o ran cael cyngor a dealltwriaeth werthfawr; hyn i’w helpu i fagu hyder yn eu dewisiadau o ran gyrfa trwy ein Rhaglen Mentora Gyrfa, ar-lein. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 1 Hydref 2023.

Os ydych chi’n gyn-fyfyriwr o Gaerdydd sy’n awyddus i ddod o hyd i, neu ddod yn fentor i gyn-fyfyriwr, mae ein platfform rhwydweithio cyn-fyfyrwyr Cyswllt Caerdydd yn eich helpu chi i ddod o hyd i’r gyfatebiaeth gywir. Mae cofrestru’n gyflym ac yn hawdd, a gallwch chi hidlo yn ôl y diwydiant a’r lleoliad i chwilio am y rheiny sydd naill ai’n cynnig helpu neu’n gofyn am gymorth.

Mae yna hefyd lawer o ffyrdd eraill y gallwch chi wirfoddoli eich amser a’ch arbenigedd i helpu i ysbrydoli a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.