Skip to main content

#TeamCardiffCyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Rydw i eisiau gwneud fy Nan yn falch ohona i – codi arian dros waith ymchwil canser Caerdydd

15 Awst 2023

Mae’r gyn-fyfyrwraig Katy Thomas (BA 2004) yn rhedwr Hanner Marathon Caerdydd profiadol ac yn dechrau ar ei thrydedd ras ar ddeg ym mis Hydref. Ar ôl colli sawl aelod agos o’i theulu i ganser, mae hi wedi cael ei hysbrydoli i godi arian dros ymchwil Prifysgol Caerdydd a fydd yn gwella gwaith i atal canser, ei ddiagnosio a’i drin.

Rwy’n rhedeg Hanner Marathon Caerdydd bob blwyddyn ac yn codi arian dros wahanol elusennau canser bob tro. Wrth weithio i Brifysgol Caerdydd rydw i wedi dod yn ymwybodol o’r ymchwil anhygoel sy’n digwydd yma, ac mae wedi fy ysbrydoli i ymuno â #TeamCardiff a chodi arian dros ein hymchwil canser ein hunain.

Collais fy Nan i ganser yr ymennydd chwe blynedd yn ôl, ac yn fwyfwy aml rwy’n clywed am ffrindiau a theulu sy’n byw gyda chanser neu’n brwydro yn ei erbyn. Bu farw ewythr fy ngŵr, Mark Thomas (BMus 1979), yn ddiweddar iawn o ganser y gwddf a dim ond 67 oedd e – felly mae’n achos sy’n agos iawn at galonnau ein teulu. Byddai’n hyfryd codi rhywfaint o arian a gwneud gwahaniaeth, yn y gobaith y gall y dyfodol fod yn well i bawb y mae canser yn effeithio arnynt.

Rydw i wedi bod yn rhedwr drwy gydol fy mywyd cyfan. O garu diwrnod chwaraeon a rasys traws gwlad yn yr ysgol gynradd, hyd at redeg Marathon Llundain yn 2013. Rwy’n rhedeg 3 i 4 gwaith yr wythnos ac yn cofrestru ar gyfer 3 neu 4 hanner marathon bob blwyddyn! Mae cofrestru ar gyfer rasys yn fy ysgogi i hyfforddi! Mae rhedeg yn rhoi heddwch a thawelwch i mi a rhywfaint o amser i mi fy hun i feddwl ac ail-wefru. Mae gen i dŷ prysur gyda thri bachgen ifanc, dau gi a gŵr. Mae mynd allan yng nghefn gwlad wir yn fy helpu i ddod o hyd i bersbectif ac ymlacio.

Mae’r hyfforddiant yn mynd yn iawn hyd yn hyn – fe wnes i 10K Porthcawl y diwrnod o’r blaen a gwisgo fy fest #TeamCardiff gyda balchder! Rwy’n dilyn cynllun hyfforddi a osodais i ar ap Garmin. Mae’n gwneud cynllun i chi ac yn eich atgoffa pan fydd angen i chi redeg. Mae hyn yn berffaith i mi gan fod gen i fywyd prysur ac mae’n golygu ei fod yn un peth llai i feddwl amdano. Rwy’n gwirio’r ap neu’n edrych ar fy oriawr a bant â fi!

Mae’r gefnogaeth rydw i wedi’i chael gan Brifysgol Caerdydd yn y cyfnod cyn diwrnod y ras yn wych, ac mae grŵp Facebook ac ebyst #TeamCardiff yn ddefnyddiol i’ch cadw chi ar y trywydd iawn! Rwyf wedi dechrau codi arian trwy fy nhudalen JustGiving ond mae gen i ychydig o ffordd i fynd o hyd i gyrraedd fy nharged.

Rwy’n edrych ymlaen at holl brofiad diwrnod y ras gan gynnwys digon o heulwen – mae bob amser yn heulog ar ddiwrnod y ras yng Nghaerdydd! Ac wrth gwrs, cyri enfawr neu rost dydd Sul wedyn!

Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at wneud fy nghefnogwyr yn falch, a fy Nan os gall hi fy ngweld!

Gallwch helpu Katy i gyrraedd ei tharged codi arian trwy ei thudalen JustGiving.

Mae gwaith codi arian #TeamCardiff yn cefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd i’r niwrowyddorau, iechyd meddwl, a chanser. Drwy gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch chi helpu i ddod o hyd i ddarganfyddiadau yn gyflymach. Bydd hyn yn newid bywydau er mwyn gwella’r gwaith o atal, rhoi diagnosis a chynnig triniaeth i bobl sy’n byw gydag ystod eang o gyflyrau.

Er bod ein lleoedd ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd 2023 wedi’u cymryd bellach, gallwch nawr rag-gofrestru eich diddordeb yn ein lleoedd elusennol ar gyfer 2024. Fel arall, dewiswch ddigwyddiad rhedeg arall i redeg dros #TeamCardiff neu dyluniwch eich her weithredol eich hun gyda ‘Dewis eich Her‘.