Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddionStraeon cynfyfyrwyr

Sefydlu Cangen Cynfyfyrwyr gyntaf Prifysgol Caerdydd – Gabriel Yomi Dabiri

25 Mai 2023

Lansiodd Prifysgol Caerdydd ei Changen Cynfyfyrwyr yn Efrog Newydd yn swyddogol ym mis Ebrill 2023, gyda’r nod o wneud cysylltiadau gwell yn ei chymuned fyd-eang. Gabriel Yomi Dabiri (LLB 2008), cyd-sylfaenydd a chyd-gadeirydd y gangen, sy’n sôn am y digwyddiad a’i atgofion o Gaerdydd.

Cefais fy anrhydeddu a’m synnu o’r ochr orau pan ofynnwyd i mi fod yn rhan o Gangen Cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn Efrog Newydd, heb sôn am gynnig y cyfle i gyd-sefydlu a chyd-gadeirio’r gangen gydag Angus Scott (BSc 1985). Mae Prifysgol Caerdydd, ac Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn benodol, yn agos iawn at fy nghalon. Mewn sawl ffordd, ni fyddai fy ngyrfa wedi bod yn bosibl hebddo.

Ychydig a wyddwn i, pan gyrhaeddais i Heol Crwys yn Hydref 2005, y byddai fy mhenderfyniad i astudio yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd yn ddechrau ar yrfa a fyddai’n mynd â fi ledled y byd. O gwmni Magic Circle yn Llundain, i fyw, gweithio, a theithio ledled Ewrop a De-ddwyrain Asia, gan gwrdd â rhai o’r bobl fwyaf diddorol sy’n dal i fod yn ffrindiau da i fi hyd heddiw.

Ar ôl ymgartrefu yn Efrog Newydd, rwyf bellach wedi cael dau gyfle i roi croeso i Gaerdydd yn swyddfa Polsinelli yn Efrog Newydd, sy’n gartref i’r 100 cwmni cyfreithiol mwyaf. Rwy’n hynod ddiolchgar am bopeth. Mae gwasanaethu yn y rôl hon yn rhoi cyfle i mi roi yn ôl ac mewn ffordd fach, mynegi fy gwerthfawrogiad.

Roedd yn teimlo’n swreal i fod yn rhan o’n lansiad Cangen yn Efrog Newydd. Mewn sawl ffordd, mae fy nghyfnod yng Nghaerdydd yn teimlo fel ddoe ond fel oes yn ôl ar yr un pryd. Dydw i ddim wedi bod ’nôl i Gaerdydd ers blynyddoedd lawer – sefyllfa y bydd angen i mi ei newid yn fuan. Felly roedd yn bleser clywed gan y rhai a raddiodd neu a oedd wedi ymweld â Chaerdydd yn fwy diweddar, a dysgu am faint mae Caerdydd wedi newid a datblygu ers i mi raddio, yn 2008. Cefais fy atgoffa hefyd am ba mor eclectig, diddorol, a thalentog, mae cynfyfyrwyr Caerdydd yn tueddu i fod. Mae Prifysgol Caerdydd yn dewis ac yn hyfforddi’n dda.

Daeth nifer o bobl i’r lansiad ac fe ddaeth rhai o bell ac agos i ymuno â ni. Roedd hi’n noson hwyliog, ac roedd gen i deimlad bod sawl un yn mwynhau eu hunain yn fawr a ddim ar frys i adael! Mae’n amlwg bod galw am rywbeth fel hyn, felly rwy’n gobeithio na fydd yn cymryd llawer o amser i hyn ddod yn gymuned lewyrchus. Mae’n grŵp mor ddiddorol, trawiadol, llawn hwyl ac rwy’n edrych ymlaen at weld yr hyn rydym yn ei adeiladu yma.

Nid oes unrhyw reswm pam y dylai’r manteision o astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ddod i ben ar y diwrnod graddio pan fod gennym amrywiaeth mor gyfoethog-ddiwylliannol o gynfyfyrwyr ledled y byd, gan gynnwys yma yn yr Afal Mawr.

Mae ein Canghennau Rhyngwladol o gynfyfyrwyr yn ffordd wych o gysylltu â chyd gynfyfyrwyr, yn ogystal â rhwydweithio a datblygu cysylltiadau newydd. Dysgwch fwy am ein Canghennau presennol neu sefydlu Cangen yn eich ardal chi.