Skip to main content

Cyswllt CaerdyddEisteddfodI Gynfyfyrwyr, Gan GynfyfyrwyrStraeon cynfyfyrwyr

Beth mae’r Eisteddfod yn ei olygu i mi Rhys Hughes (MA 2017) — I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

25 Mai 2023

Graddiodd Rhys Hughes (MA 2017) gyda gradd meistr mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, cyn dechrau ar PhD yn Arizona, UDA. Ac yntau wedi’i fagu yng Nghymru, mae’n rhannu ei atgofion o’r Eisteddfod Genedlaethol a sut mae’n cadw cysylltiad â’i wreiddiau Cymreig ymhell o gartref.

Os ydych yn bwriadu mynd i Eisteddfod Genedlaethol 2023, dewch i gyfarfod â’ch cyd-gynfyfyrwyr yn Nerbyniad Cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ddydd Iau, 10 Awst. Os hoffech fod yn bresennol, neu os hoffech wirfoddoli drwy fod yn un o gyflwynwyr ein digwyddiad, cofrestrwch nawr neu ebostiwch alumni@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o fanylion.

Ar ôl graddio o brifysgol Caerdydd yn 2017, camais i mewn i’r byd cyfieithu proffesiynol lle bues i’n gweithio am tua 5 mlynedd. Roedd y swyddi cyfieithu a gefais yn gyfle i arfer y sgiliau Cymraeg yr oeddwn wedi’u mireinio yn ystod fy astudiaethau academaidd. Ond ar ôl sbel, roeddwn yn barod am her arall. Roeddwn i wastad wedi bod eisiau cwblhau gradd PhD, ond yn lle aros yng Nghymru neu ym Mhrydain i wneud hynny, roeddwn i eisiau gwthio fy hun ymhellach a byw dramor. Bu’n broses hir a llafurus, ond fe lwyddais i gael fy nerbyn i raglen PhD yn Arizona, UDA. Dw i newydd gwblhau fy ail flwyddyn ac yn edrych ymlaen i gychwyn fy ngwaith ymchwil personol flwyddyn nesaf. Mae fy niddordebau academaidd yn cynnwys gwaith cynllunio ieithyddol yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifol, gyda ffocws ar yr iaith Gymraeg.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn rhan fawr o’m mywyd i ers pan oeddwn yn ifanc iawn. Dw i’n cofio cystadlu gyda gwahanol gorau fel plentyn a chrwydro’r maes hefo’r teulu yn rheolaidd. Pan oeddwn yn fy arddegau, roedd yn gyfle i mi wersylla ym Maes B hefo ffrindiau a chael hwyl wrth wrando ar gerddoriaeth fyw. Mae’n ddigwyddiad unigryw a does dim byd tebyg iddo yn unman arall.

Ers symud dramor i’r UDA, rydw i’n gweld eisiau cymuned Gymraeg glòs yn fwy nag erioed. Prin iawn ydw i’n cael cyfle i siarad yr iaith yn Arizona ac mae hynny’n peri gofid i mi yn aml. Serch hynny, mae byw mor bell o adra yn gwneud i mi werthfawrogi’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru fwy nag erioed. Mae fy malchder dros yr iaith a’r diwylliant yn gryfach ac mi rydw i wrth fy modd yn addysgu Americanwyr a phobl o wledydd eraill sy’n astudio yma am Gymru a’r Gymraeg.

Rhan annatod o’n diwylliant Cymraeg ydi’r Eisteddfod ac mae’r ffaith bod yr ŵyl yn mynd o nerth i nerth ac yn denu cymaint o ymwelwyr a chystadleuwyr yn destun gobaith i’r Gymraeg. Hyd yn oed yn sgil heriau allanol fel y pandemig, tydi’r Eisteddfod heb golli dim o’i hapêl a dwi’n siŵr y bydd ei lleoliad eleni ym Mhen Llŷn yn denu pobl o bob cwr o’r wlad a thu hwnt.

Yn anffodus, oherwydd ymrwymiadau gwaith gyda’r brifysgol yn Arizona, ni fydd modd i mi fynychu eleni. Mae hynny’n bechod mawr yn enwedig gan mai yn ardal Llangybi – tafliad carreg o Foduan – y cefais fy magu. Er na fyddaf yno, dw i’n edrych ymlaen i glywed am anturiaethau fy ffrindiau a bydda i’n sicr o ddilyn y cystadlu o Arizona bell.

Heb os, mae’r Eisteddfod yn hafan i siaradwyr Cymraeg o bob lefel a gallu. Mae’n ŵyl sydd ag arlliw o adloniant, llenyddiaeth, traddodiadau, a chyfleoedd cymdeithasu a rhwydweithio pwysig. O ysgrifennu am yr eisteddfod a hel atgofion, mae’n gwneud i fi feddwl tybed a fyddai modd trefnu Eisteddfod yn Arizona cyn gorffen fy astudiaethau yma. Cawn weld!

Rydym wedi cyflwyno ‘I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr’ gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal â chi! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw’r stori! Edrychwch ar ein rhestr lawn o erthyglau, a gwyliwch ein rhestr o ddigwyddiadau byw eto.