Ddydd Sul 2 Hydref, rhedodd tua 70 o gynfyfyrwyr, myfyrwyr a staff yn Hanner Marathon Caerdydd, i godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff. Eu nod yw codi £25,000 ar gyfer niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, ac ymchwil canser.
Gall newid gyrfa fod yn frawychus, ond hefyd yn hynod werth chweil. Cawsom sgwrs gyda rhai o'n cynfyfyrwyr sydd wedi cymryd y cam mawr i lwybr gyrfa hollol newydd.
Astudiodd Ross Clarke (MA 2014) Newyddiaduraeth Cylchgronau ac mae bellach yn awdur bwyd a theithio i deitlau fel National Geographic Traveller a The Independent. Mae'n rhannu ei rysáit fritterau hawdd a blasus â'r cyn-fyfyrwyr.
Ym mis Mawrth, cymerodd Esther Morris (BA 2018), Uwch Swyddog Gweithredol Cyfrifon yn Nelson Bostock Ultd, ran yn ein cynllun mentora blynyddol ar gyfer cyn-fyfyrwyr Caerdydd - Menywtora. Cafodd Esther ei pharu â’i chyd-fyfyriwr Rebecca Harris (BA 2008), Uwch Reolwr Masnachol yn The Walt Disney Company. Mae Esther yn rhannu ei phrofiadau o’r rhaglen a’r manteision a gafodd o gael ei pharu â mentor.
Mae Gethin Bennett (LLB 2015, PgDip 2016) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref er cof am ei dad, a fu farw yn 2007 o ganlyniad i iselder. Cafodd Gethin yr ysfa i redeg tra'n astudio dramor yn 2016 ac mae wedi rhedeg yr hanner marathon ddwywaith o'r blaen. Mae'n rhannu ei awgrymiadau gyda’r rhai sy'n ystyried dechrau rhedeg yn ogystal â'r hyn y mae'n edrych ymlaen ato ar y diwrnod.
Myfyrwraig raddedig (PgDip 2022) a astudiodd Meddygaeth Newyddenedigol yw Nickie Broadbent a chafodd ddiagnosis o Endometriosis yn 2014. Mae'n rhannu ei phrofiad o gwblhau ei gradd yn ystod y pandemig wrth reoli ei chyflwr, manteision dysgu o bell, a'i chyngor i eraill a allai fod yn dioddef o Endometriosis.
Rebecca Skelly (BA 2015) yw perchennog, cyfarwyddwr a chogydd y Fiery Celt, ar ôl iddi fod yn gweithio fel rheolwr marchnata. Yma, mae’n rhannu ei saig selsig Morgannwg llysieuol â’n cyfres Ryseitiau sy’n llwyddo
P’un oeddech chi wedi cofrestru i redeg yn Hanner Marathon Caerdydd neu’n gwneud eich peth eich hun, rydyn ni wedi llunio rhai syniadau codi arian syml (a hawdd) fydd yn […]
Rydym wedi siarad â rhai o'n graddedigion llwyddiannus sydd wedi rhoi eu cynghorion gorau ynghylch pam ei fod yn beth cadarnhaol i 'frolio eich hunain'!
Mae Jane Cook (BA 2008) yn flogiwr bwyd, podledydd ac ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus llwyddiannus a astudiodd Lenyddiaeth Saesneg. Yn ein cyfres Ryseitiau sy’n llwyddo, mae Jane yn hael wrth rannu ei rysáit caws fendigedig.
Mae imiwnotherapi canser yn faes ymchwil arloesol sy'n ceisio helpu'r system imiwnedd i adnabod a thargedu celloedd canser. Mae Prifysgol Caerdydd yn ehangu potensial imiwnotherapi canser trwy gyfuniad o fiowybodeg, ymchwil labordy, treialon clinigol, a chydweithio â sefydliadau ledled Cymru.
Mae Beca Lyne-Pirkis (BMus 2004) yn awdur ac yn ddarlledwr, cyrhaeddodd rownd derfynol rhaglen Great British Bake-Off. Mae hi'n hoffi bod yn greadigol wrth goginio ac roedd hi eisiau rhannu'r rysáit hawdd a braf hon ar gyfer ein cyfres Ryseitiau sy’n llwyddo.
Mae Laura Stephenson (BA 2008) wedi cofrestru i redeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Medi er cof am ei ffrind, Areesha. Mae hi’n codi arian ar gyfer ymchwil canser Prifysgol Caerdydd a chafodd ei hysbrydoli gan gryfder ei ffrind yn wyneb diagnosis dinistriol, ac agwedd ‘dweud ie i bopeth’.
Bydd y Gwobrau (tua) 30 yma cyn hir, ond beth yn union ydyn nhw? Barry Sullivan, Dirprwy Gyfarwyddwr Cysylltiadau Cefnogwyr a Phennaeth Cysylltiadau Cynfyfyrwyr a Chefnogwyr, sy’n ein tywys drwy'r syniad y tu ôl i'r cynllun gwobrwyo hwn – cynllun sy'n gwneud pethau ychydig yn wahanol.
Gall dechrau yn y 'byd go iawn' ar ôl graddio ymddangos yn frawychus, a chanfod (a sicrhau) y swydd berffaith honno, yn dasg amhosibl. Rydym wedi siarad â chynfyfyrwyr o Gaerdydd sy'n dechrau ar eu gwaith o lywio llwybr eu gyrfa fel graddedigion newydd. Dyma eu cynghorion ar gyfer cael eich troed yn y drws...
Daethon ni â 22 o gyn-fyfyrwragedd llwyddiannus Caerdydd, a ddewiswyd yn ofalus i fod yn fentoriaid, ynghyd, i rannu eu profiad a'u harbenigedd gwerthfawr gyda dros 60 o fentoreion sydd ar ddechrau eu gyrfa.
Llawfeddyg clust, trwyn, gwddf (ENT) yw Dr Owain Rhys Hughes (MBBCh 2005). Mae’n entrepreneur technoleg iechyd llwyddiannus, ac mae ei fenter Cinapsis yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng ôl-groniad presennol yn y GIG ac yn lleihau gorludded ar draws y gweithlu gofal iechyd. Mae'n rhannu ei brofiad o droi gyrfa, pwysigrwydd cydweithredu a sut mae gwneud newid go iawn yn bosibl.
Mae Claire Thomson (BA 2001) yn awdur bwyd a chogydd a astudiodd Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac roedd yn lasfyfyriwr yn ôl yn 1998. Mae hi wedi ysgrifennu chwe llyfr coginio ac wedi coginio'n broffesiynol ar draws y byd. Roedd hi’n awyddus i rannu un o’i hoff ryseitiau (a mwyaf darbodus!) gyda chymuned Caerdydd.
Yn y farchnad swyddi gystadleuol, a’r byd cyflym sydd ohoni heddiw, mae hunan-gred yn bwysicach nag erioed. Yn aml, gall deimlo fel petai gan gydweithwyr, cyfoedion a'r rhai yr ydym yn eu hedmygu yn ein diwydiannau, beth wmbreth ohono, ond ydi hynny'n wir mewn gwirionedd? Fe fuom yn siarad â rhai o'n cynfyfyrwyr llwyddiannus am hyder o ran gyrfa, a gofynnwyd iddyn nhw rannu eu hawgrymiadau a'u triciau ar gyfer teimlo'n ddi-ofn a bod yn feiddgar yn eich gyrfa.