Mae gan Audrey Long (BSc 1987) dros 25 mlynedd o brofiad proffesiynol mewn marchnata gwyddor bywyd a datblygu busnes ledled y byd. Mae Audrey newydd ddechrau ei hail flwyddyn yn fentor ar gyfer rhaglen Menywod yn Mentora Caerdydd, gan gynnig ei chyngor a'i chefnogaeth i fenywod graddedig ar ddechrau eu gyrfa.
Steve Garret (MSc 2009) yw Sylfaenydd Bwyd Go Iawn Glan-yr-Afon, marchnadoedd bwyd wythnosol sy'n hyrwyddo bwyd ffres, cynaliadwy a lleol. Mae Steve yn actifydd angerddol am fwyd ac yn entrepreneur cymdeithasol arobryn. Yma, mae'n esbonio pam ei bod yn bwysig bwyta'n lleol a manteision siopa mewn marchnadoedd ffermwyr lleol.
Ddiwedd mis Mawrth, bydd rhedwyr #TeamCardiff yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd er mwyn codi arian ar gyfer ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. Ar ôl i’r ras gael ei ohirio am 18 mis oherwydd y pandemig, mae'r tîm o 350 o staff, myfyrwyr, cynfyfyrwyr a ffrindiau am geisio codi £70,000 ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, ac ar gyfer ymchwil canser.
Mae Tomos Parry (BScEcon 2008), gogydd sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy'n berchen ar fwyty seren Michelin o'r enw Brat, a enwyd yn un o'r 100 o fwytai gorau yn y byd. Yn ein cyfres Ryseitiau sy’n llwyddo, mae Tomos yn rhannu'r rysáit berffaith ar gyfer noson stêc ar gyllideb.
Mae’r Athro Aled Clayton (BSc 1993, PhD 1997) wedi’i leoli yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru. Mae ei dîm ymchwil, y Grŵp Micro-amgylchedd Meinwe, yn grŵp o ymchwilwyr ymroddedig ac amrywiol sydd â’r nod o ddatgelu gwybodaeth hanfodol a fydd yn gwella'r ffordd yr ydym yn gwneud diagnosis ac yn trin canser y prostad.
Sarah John (BA 2011) yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Boss Brewing, bragdy llwyddiannus a ddechreuodd. Nid cwrw yn unig sydd o ddiddordeb i Sarah - mae hi'n hoffi bwyd hefyd! Yn ein cyfres Ryseitiau sy’n llwyddo, mae'n rhannu ei rysáit uwd hawdd ac iachus.
Mae'r Athro Aled Rees (MBBCh 1993, PhD 2002) wedi cysegru ei fywyd i endocrinoleg – un o'r meysydd ymchwil llai adnabyddus sy'n effeithio ar bob un ohonom. Yma, mae'n esbonio beth yw endocrinoleg, pam mae’n bwysig a sut mae ei ymchwil yn edrych ar y cyflyrau iechyd hirdymor sy'n gysylltiedig â syndrom ofarïau polysystig.
Mae Alexandra Chesterfield (BA 2003 a PGDip 2004) yn cymhwyso gwyddor ymddygiadol i'w gwaith, er mwyn gwella canlyniadau i unigolion, sefydliadau a chymdeithasau. Mae’n Bennaeth Risg Ymddygiad mewn banc llwyddiannus ac yn ddarlithydd gwadd yng Ngholeg yr Iesu Caergrawnt. Mae podlediad newydd Alexandra, Changed My Mind, a'i llyfr, Poles Apart, yn trin a thrafod ac yn mynd i'r afael â'r polareiddio cynyddol sy'n digwydd ledled y byd. Yma mae'n esbonio pam mae hwn yn bwnc mor bwysig, a pham nawr yn fwy nag erioed, mae angen trafod hyn.
Mae Kate Morgan (BA 2017, MA 2020) yn rhedeg ei hanner marathon cyntaf ym mis Mawrth 2022 i godi arian ar gyfer ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Caerdydd. Nid yw wedi bod yr amser hawsaf i hyfforddi, ac esbonia Kate beth sy’n ei chymell hi a sut y mae hi wedi gwneud ei gorau glas i aros ar y trywydd iawn, er gwaethaf y cyfnodau clo, y cyfyngiadau a’r oedi.
Mae Kacie Morgan (BA 2010) yn awdur bwyd a theithio sydd wedi ennill sawl gwobr. Dechreuodd ei blog bwyd poblogaidd, The Rare Welsh Bit, yn fuan ar ôl graddio gyda gradd mewn Newyddiaduraeth. Dyma un o'i hoff ryseitiau, mae hi’n dwlu cymaint arni fel yr enwodd ei blog ar ei hôl hyd yn oed!
P'un a ydych yn dechrau CV o'r newydd neu'n rhoi sglein newydd ar hen un, mae cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yma i helpu. Cewch wybod beth mae ein harbenigwyr ym maes recriwtio ac Adnoddau Dynol yn ei argymell ar gyfer creu CV trawiadol yn y byd cystadleuol sydd ohoni.
Astudiodd Jack Stein (BSc 2004, MA 2006) Seicoleg a Hanes yr Henfyd, ond dilynodd ei angerdd (ac ôl troed ei dad, Rick Stein) i'r gegin, fel cyfarwyddwr a chogydd llwyddiannus. Yn rhan o'n cyfres Ryseitiau sy’n llwyddo, mae Jack yn rhannu ei saig cyw iâr blasus sy'n berffaith ar gyfer pryd o fwyd iachus yn ystod yr wythnos.
Mae Lizzie Romain (BMid 2014) yn fydwraig mewn ysbyty mamolaeth preifat yn Llundain, ond mae hi bob amser wedi brwydro i gydbwyso ei gyrfa bydwreigiaeth gyda'i hochr greadigol. Ychydig cyn y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020, ymunodd â'i gorsaf radio gymunedol leol yng Ngorllewin Llundain, a nawr yn 2022 mae'n mynd amdani ac yn pontio i yrfa lawn amser mewn darlledu.
Bu Laura Graham (BA 2008) yn gweithio fel prif gogydd ar iotiau mawr preifat ac erbyn hyn hi yw cyfarwyddwr a phrif gogydd The Tidy Kitchen, cwmni arlwyo sy’n defnyddio bwyd lleol i wneud prydau maethlon. Astudiodd Laura Lenyddiaeth Saesneg yng Nghaerdydd a bu’nbyw ar basta fel myfyriwr.
Mae cymuned cynfyfyrwyr Caerdydd wedi cysylltu â myfyrwyr y flwyddyn gyntaf mewn neuaddau preswyl i anfon negeseuon tymhorol o gefnogaeth a dangos iddyn nhw fod eu perthynas â Phrifysgol Caerdydd […]
Gwnaeth Joanna Dougherty (BScEcon 2017) gymryd rhan yn ein cynllun Menywod yn Mentora, lle mae graddedigion benywaidd yn cael eu mentora am gyfnod byr gan gynfyfyrwyr benywaidd llwyddiannus. Mae ein mentoriaid benywaidd yn rhoi arweiniad a chymorth ac yn helpu i ysbrydoli a grymuso’r genhedlaeth nesaf o gynfyfyrwyr benywaidd Prifysgol Caerdydd.
Mae'n adeg wych o'r flwyddyn pan fydd y rhan fwyaf ohonom yn teimlo'n hael iawn ac yn hapus i gyfrannu at achos da. Anogwch eraill i gofleidio'r ysbryd o roi gyda rhai gweithgareddau codi arian ar thema'r Nadolig.
Mae ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd yn amrywio o ran ei chyrhaeddiad. O ddarganfod bioleg y clefyd a deall ffyrdd o atal canser, i chwilio am driniaethau newydd a gwell. Nod ein gwaith yw achub a gwella bywydau.
Dechreuodd Mark Woolner (BScEcon 1995) redeg yn ystod cyfnod clo cyntaf y DU ac mae'n dychwelyd i Gaerdydd bron i 30 mlynedd ar ôl graddio, i gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd yn 2022. Mae'n rhannu ei gymhelliant, ei ysbrydoliaeth a'r hyn y mae'n edrych ymlaen ato ar ddiwrnod y ras.